Skip to Main Content

Mewn llawer o achosion, mae llwyddiant bywyd gwyllt lleol wedi’i gyfyngu gan ddiffyg safleoedd addas iddynt glwydo a nythu. Trwy ddarparu’r rhain ar eich tir (ynghyd â ffynonellau o fwyd a dŵr), bydd bywyd gwyllt yn fwy tebygol o fyw yn agos at eich ysgol, a bydd yn ogystal yn fwy amlwg ac felly yn haws i’w astudio. Gellir darparu cartrefi addas i adar sy’n nythu, ystlumod sy’n clwydo, a draenogod a phryfed sy’n gaeafgysgu gan ddefnyddio blychau gwneud. Mae’r dudalen hon yn amlinellu’r posibiliadau hynny, ac yn rhoi dolenni lle cewch wybodaeth bellach.

Cartrefi i adar

Gellir darparu blychau nythu ar gyfer sawl math o adar, gyda gwahanol adar yn ffafrio gwahanol fathau o flychau. Ni fydd rhai adar cyffredin fel y fwyalchen a’r fronfraith yn defnyddio unrhyw flwch adar, waeth beth yw ei ddyluniad, ond gellir gwneud llawer o hyd i ddarparu cartrefi iddynt drwy blannu a rheoli coed, gwrychoedd a llwyni. Mae hefyd yn bwysig gwneud yn siŵr bod adnoddau bwyd digonol ar dir eich ysgol i gynnal adar a mamaliaid sy’n bridio, sy’n golygu y dylai planhigion denu pryfed a chynhyrchu ffrwythau a hadau. Gall byrddau a bwydwyr adar o wahanol fathau hefyd ddenu adar, ond gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu hail-lenwi yn rheolaidd a’u cadw’n lân.

Gwrychoedd a llwyni

Bydd y fwyalchen, y fronfraith a llwyd y gwrych i gyd yn nythu mewn gwrychoedd ar yr amod iddynt gael eu tyfu’n drwchus i ddarparu lloches ac i guddio’r nythod yn llwyr. Bydd cywion y fwyalchen a’r fronfraith yn gadael y nyth cyn y gallant hedfan yn iawn, a gall hyn achosi rhywfaint o bryder i blant sy’n credu iddynt gael eu gadael gan eu rhieni. Nid yw hyn yn wir fel arfer, ac mae’n well eu gadael ar eu pennau eu hunain gan fod y rhieni yn cadw golwg manwl arnynt ac yn dychwelyd i fwydo’r cywion. Fodd bynnag, ni all y mwyafrif o blant atal eu hunain rhag ‘achub’ y cywion bregus. Y strategaeth orau yw gwneud dim mwy na sicrhau bod y cywion yn cael eu gadael lle y maent a’u gwylio o bellter diogel, neu, os oes angen, symudwch hwy i le mwy diogel lle na allant gael eu gweld mor hawdd gan ysglyfaethwyr. Nid yw cywion sy’n cael eu hachub gan bobl yn goroesi yn aml, ac mae angen eu bwydo yn rheolaidd iawn.

Mae conwydd a gwrychoedd bytholwyrdd yn cael eu dewis yn aml fel safleoedd nythu gan linosiaid – gan gynnwys adar hardd fel y nico, coch y berllan a’r dryw eurben. Weithiau, gellir gweld eu nythod hardd, a wnaed o gennau, blew anifeiliaid a phlu, wedi eu disgyn i’r ddaear ar ôl gwyntoedd cryf.

Blychau adar

Mae blychau adar wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus i ddenu titwod, robiniaid cochion, jacdoeau, cudyllod coch, tylluanod, adar y to, gwenoliaid y bondo a gwenoliaid duon i nythu. Mae gwahanol adar yn hoffi gwahanol ddyluniadau o flychau; er enghraifft, bydd y titw yn defnyddio’r blwch clasurol sydd â thwll yn y blaen, tra ei bod yn well gan y robin goch gael blwch â blaen agored. Bydd tylluanod, jacdoeau a cholomennod gwyllt yn defnyddio blychau ar ffurf simnai, tra bydd y cudyll coch yn defnyddio blwch dwfn â blaen agored. Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn dewis y safle cywir ar gyfer eich blwch: er nad yw rhai adar yn ffyslyd, ni fydd rhai eraill yn nythu ond mewn mannau uwch. Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Fynwy wedi rhoi cyngor i ysgolion ar osod blychau adar gyda chamerâu ynddynt, a’u helpu i wneud hyn, fel y gall dosbarthiadau arsylwi ar ymddygiad titwod yn ystod y tymor nythu a monitro eu llwyddiant bridio. Rydym yn gobeithio, ymhen amser, y gall y wefan hon gael ei defnyddio i rannu gwybodaeth rhwng ysgolion am weithgaredd nythu.

Gallwch gofrestru eich blwch adar gyda Her Blwch Adar yr Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig, gan adrodd yn rheolaidd ar yr hyn sy’n digwydd y tu mewn i’ch blwch. Mae’r her yn gynllun cenedlaethol sy’n helpu’r ymddiriedolaeth i ddeall llwyddiant bridio adar Prydeinig yn well. http://www.bto.org/volunteer-surveys/nbc. Mae’r RSPB (Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar) yn trefnu digwyddiad Gwylio Adar yn yr Ysgol ar ddiwedd mis Ionawr bob blwyddyn er mwyn annog ysgolion cyfan i gofnodi pa adar sy’n defnyddio eu tiroedd. http://www.rspb.org.uk/schoolswatch/ Mae ysgolion sy’n cymryd rhan yn cael pecynnau ysgol am ddim a syniadau am sut i gyfrif adar mewn gwahanol ffyrdd.

Cartrefi i famaliaid

Ystlumod

Mae 18 rhywogaeth gwahanol o ystlumod ym Mhrydain, ac mae Sir Fynwy yn gadarnle go iawn iddynt, yn bennaf oherwydd ei choetir a’i harferion ffermio. Mae angen safleoedd clwydo ar ystlumod, lle y gallant orffwys yn ystod y dydd, ac maent yn ddigon parod i ddefnyddio blychau o waith dyn. Mae’r ystlumod yn mynd i mewn i’r blychau trwy hollt rhwng y blwch a’r bwrdd cefn, y mae angen cael crib arno fel y gallant ddringo i fyny. Y lleoliad gorau ar gyfer blychau yw mewn grwpiau bychain, ac mae angen iddynt fod o leiaf 5 metr uwchben y ddaear ar goeden neu bolyn, neu ar ochr adeilad. Mae yn erbyn y gyfraith i archwilio blychau neu darfu ar eu preswylwyr, gan fod ystlumod dan warchodaeth ddwys. Mae’n bosibl y bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Fynwy yn gallu darparu nosweithiau gweithgareddau gwyfynod ac ystlumod mewn ysgolion er mwyn galluogi pobl leol i ddysgu mwy am y mamaliaid rhyfeddol hyn a defnyddio synwyryddion ystlumod i wrando ar eu galwadau ecoleoli. Cysylltwch â countryside@monmouthshire.gov.uk

Draenogod

Mae draenogod o fudd mawr i ardd, gan gnoi eu ffordd trwy wlithod, malwod a phlâu eraill yn yr ardd ar ôl iddi nosi. Mae draenogod yn dod allan gyda’r nos o nyth sydd wedi’i lleoli yn aml o dan wrych neu lwyni trwchus, ac a wnaed yn fras o ddail a glaswellt sych. Yn ystod y gwanwyn a’r haf, maent yn debygol o symud o gwmpas llawer ac o beidio â chael cartref parhaol. Yn y gaeaf, mae angen nyth mwy sylweddol arnynt i aeafgysgu ynddi, un a fydd yn eu cadw’n sych ac yn gynnes (ond nid rhy gynnes neu y byddant yn deffro yn aml ac yn mynd i chwilio am fwyd a all fod yn brin). Nid yw tŷ draenog yn anodd i’w adeiladu, ond mae angen iddo gael ei leoli mewn man tawel a’i guddliwio’n dda. Cadwch olwg o gwmpas tiroedd yr ysgol am y baw nodedig, yn ddu ac yn gludiog iawn, sy’n cael eu gadael gan ddraenogod. Os ydych yn gweld draenogod yn ystod y dydd, y tebygrwydd yw ei fod yn sâl ac angen help arno – codwch ef yn ofalus a mynd ag ef at y milfeddyg, a fydd yn gwybod manylion cyswllt canolfan achub leol. Peidiwch byth â rhoi bara a llaeth i ddraenogod gan y bydd hyn yn eu gwneud yn sâl. Mae bwyd cathod neu gŵn (ond heb bysgod ynddo), gyda phowlen fas o ddŵr, yn opsiwn llawer gwell. Gellir trefnu gorsaf fwydo o dan grêt llaeth neu flwch madarch i atal cathod lleol rhag dwyn y bwyd.

Cartrefi i bryfed

Mae angen cartrefi ar bryfed hefyd, yn enwedig er mwyn iddynt aeafgysgu. Mae’r hydref yn amser perffaith i wneud y rhain. Gellir eu gwneud o fwndeli o goesau gwag planhigion neu fambŵ, ac wedyn eu hongian i fyny mewn lle heulog allan o’r gwynt a’r glaw. Maent yn debygol o ddenu gwenyn unig, adenydd siderog a buchod coch cwta. Mae brenhinesau cacwn yn gaeafgysgu o dan y ddaear, fel arfer mewn hen nyth llygoden, a gellir eu denu gan hen flwch adar neu ddau bot blodau (plastig neu glai) sydd wedi’u cysylltu a’u llenwi gyda mwsogl a glaswellt sych neu ddeunydd tebyg. Mae lle nythu sy’n sych yn hynod bwysig – gweler isod am ddolenni i ddyluniadau sy’n hawdd i’w hadeiladu. Dylid lleoli nyth rhywle na fydd yn cael ei gynhesu gan haul y gwanwyn cynnar, neu fydd y frenhines yn deffro yn rhy gynnar, pan na fydd ffynonellau o neithdar ar gael.

Dolenni defnyddiol

Blychau adar

Grid De-ddwyrain Lloegr ar gyfer Dysgu: gwe-gamerâu byw mewn blychau adar ar draws De Lloegr i ysgolion eu rhannu, a fideo yn dangos sut y mae’r gwaith hwn wedi cael ei ymestyn i gynnwys agweddau eraill ar diroedd ysgolion.

Camerâu blwch adar – blychau cyflenwad a chamerâu integredig Handykam sy’n rhoi gwerth da ac yn dod â’r holl osodiadau a ffitiadau a fydd eu hangen arnoch.

Ystlumod

Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod yn cynnig adnoddau i ysgolion a gwybodaeth am wneud neu ddewis blychau ystlumod.