Skip to Main Content

Mae Ysgolion Gwyrdd Sir Fynwy yn adnodd i athrawon ac eraill yn Sir Fynwy sy’n ymwneud ag addysg ar bynciau amgylcheddol a dinasyddiaeth fyd-eang. Ffocws y tudalennau canlynol yw tiroedd ysgol a’r math o brosiectau a fydd yn gwella amgylchedd awyr agored ysgol er mwyn iddo gael ei ddefnyddio gan blant i ddysgu. Bydd y wybodaeth o ddiddordeb hefyd i grwpiau cymunedol sy’n dymuno ymgymryd â phrosiectau ar fannau agored yn y gymuned.

Os oes bwriad gennych i hunanariannu unrhyw newididau i dir yr ysgol neu i’w hadeiladau (e.e. trwy greu ardaloedd newydd sydd wedi’u trin neu drwy ychwanegu blwch adar i wal allanol yr ysgol), cofiwch lenwi ffurflen cynllun hunan-gymorth, sydd ar gael gan:

Matt Lloyd 01633 644946

Mae’r wefan hon yn cael ei darparu gan bartneriaeth o sefydliadau a all helpu wrth gyflwyno’r pynciau hyn mewn ysgolion ac yn y gymuned. Mae nifer o feysydd pwnc ar y wefan lle cewch wybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yn Sir Fynwy.

Prosiectau ac adnoddau