Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ynglŷn â chodi premiwm y dreth gyngor ar gyfer anheddau sydd yn wag yn yr hirdymor ac ail gartrefi yn y sir.  

Anheddau Gwag Hirdymor 

Mae annedd gwag hirdymor yn cael ei ddiffinio fel annedd lle nad oes neb yn byw ynddo ac nid yw’n cynnwys rhyw lawer o ddodrefn, a hynny am gyfnod parhaus am o leiaf blwyddyn.  Mae tua 400 o anheddau gwag hirdymor yn y Sir. Ar hyn o bryd rhaid iddynt dalu’r gyfradd lawn o dreth gyngor (100%).


Mae’r Cyngor yn gofyn am farn pobl ynglŷn ag a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar yr anheddau yma sydd yn wag yn yr hirdymor. 

Mae’r disgresiwn gan y Cyngor i godi premiwm hyd at 100% (300% o’r 1af Ebrill 2023) ar y gyfradd safonol o dreth gyngor ar eiddo sydd yn wag yn y tymor hir. Byddai premiwm yn golygu y byddai swm ychwanegol o’r dreth gyngor yn cael ei ychwanegu at  y swm blynyddol sydd yn ddyledus ar gyfer annedd. Y swm ychwanegol yma yw’r ‘premiwm’ ac mae’n medru bod hyd at 300% o’r ffi flynyddol safonol. Amcan premiwm cartrefi gwag fyddai rhoi cymhelliant i annog meddiannaeth.

O dan y ddeddfwriaeth, rhaid i Gyngor Sir Fynwy benderfynu p’un ai a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag cyn 31ain Mawrth 2023 er mwyn dylanwadu ar ffioedd newydd o’r 1af Ebrill  2024.

Mae’r Cyngor am glywed eich barn chi ynglŷn ag a ddylid gosod premiwm y dreth gyngor ar eiddo sydd yn wag yn y tymor hir a pha lefel o’r premiwm y dylid gweithredu  (e.e. 50%, 100%, 200% ayyb).

Ail Gartrefi

Mae ail gartref yn cael ei ddiffinio fel annedd na sydd yn unig gartref, neu’n brif gartref, ac wedi ei ddodrefnu’n sylweddol. Mae hyn yn medru cynnwys anheddau sydd yn cael eu defnyddio fel tŷ gwyliau neu’n annedd sydd wedi ei etifeddu, ac nid dyma brif gartref y perchennog.  


Ar hyn o bryd, mae tua 190 o ail gartrefi yn y sir. Ar hyn o bryd rhaid i’r anheddau yma dalu’r gyfradd lawn o’r dreth gyngor (100%).

Mae’r disgresiwn gan y Cyngor i godi premiwm hyd at 100% (300% o’r 1af Ebrill 2023) ar y gyfradd safonol o dreth gyngor ar ail gartrefi. Byddai premiwm yn golygu y byddai swm ychwanegol o’r dreth gyngor yn cael ei ychwanegu at  y swm blynyddol sydd yn ddyledus ar gyfer annedd. Y swm ychwanegol yma yw’r ‘premiwm’ ac mae’n medru bod hyd at 300% o’r ffi flynyddol safonol.

O dan y ddeddfwriaeth, rhaid i Gyngor Sir Fynwy benderfynu p’un ai a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi cyn 31ain Mawrth 2023 er mwyn dylanwadu ar ffioedd newydd o’r 1af Ebrill  2024.

O dan y ddeddfwriaeth, mae Cyngor Sir Fynwy wedi penderfynu p’un ai a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag cyn 31ain Mawrth 2023 er mwyn dylanwadu ar ffioedd newydd o’r 1af Ebrill  2024.

Anheddau a fyddai’n cael eu heithrio o bremiwm y dreth gyngor  

Mae yna nifer o ddosbarthau esempt, sydd fel arfer yn berthnasol i anheddau sydd yn wag yn y tymor hir a/neu ail gartrefi. Os yw’r eiddo yn disgyn i mewn i un o’r categorïau yma, nid yw’r Cyngor yn medru codi premiwm y dreth gyngor.   

YMGYNGHORIAD – Premiymau’r Dreth Gyngor ar gyfer anheddau gwag  ac ail gartrefi

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ynglŷn â chodi premiwm y dreth gyngor ar gyfer anheddau sydd yn wag yn yr hirdymor ac ail gartrefi yn y sir.  

Anheddau Gwag Hirdymor 

Mae annedd gwag hirdymor yn cael ei ddiffinio fel annedd lle nad oes neb yn byw ynddo ac nid yw’n cynnwys rhyw lawer o ddodrefn, a hynny am gyfnod parhaus am o leiaf blwyddyn.  Mae tua 400 o anheddau gwag hirdymor yn y Sir. Ar hyn o bryd rhaid iddynt dalu’r gyfradd lawn o dreth gyngor (100%).


Mae’r Cyngor yn gofyn am farn pobl ynglŷn ag a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar yr anheddau yma sydd yn wag yn yr hirdymor. 

Mae’r disgresiwn gan y Cyngor i godi premiwm hyd at 100% (300% o’r 1af Ebrill 2023) ar y gyfradd safonol o dreth gyngor ar eiddo sydd yn wag yn y tymor hir. Byddai premiwm yn golygu y byddai swm ychwanegol o’r dreth gyngor yn cael ei ychwanegu at  y swm blynyddol sydd yn ddyledus ar gyfer annedd. Y swm ychwanegol yma yw’r ‘premiwm’ ac mae’n medru bod hyd at 300% o’r ffi flynyddol safonol.

O dan y ddeddfwriaeth, rhaid i Gyngor Sir Fynwy benderfynu p’un ai a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag cyn 31ain Mawrth 2023 er mwyn dylanwadu ar ffioedd newydd o’r 1af Ebrill  2024.

Mae’r Cyngor am glywed eich barn chi ynglŷn ag a ddylid gosod premiwm y dreth gyngor ar eiddo sydd yn wag yn y tymor hir a pha lefel o’r premiwm y dylid gweithredu  (e.e. 50%, 100%, 200% ayyb).

Ail Gartrefi

Mae ail gartref yn cael ei ddiffinio fel annedd na sydd yn unig gartref, neu’n brif gartref, ac wedi ei ddodrefnu’n sylweddol. Mae hyn yn medru cynnwys anheddau sydd yn cael eu defnyddio fel tŷ gwyliau neu’n annedd sydd wedi ei etifeddu, ac nid dyma brif gartref y perchennog.  


Ar hyn o bryd, mae tua 190 o ail gartrefi yn y sir. Ar hyn o bryd rhaid i’r anheddau yma dalu’r gyfradd lawn o’r dreth gyngor (100%).

Mae’r disgresiwn gan y Cyngor i godi premiwm hyd at 100% (300% o’r 1af Ebrill 2023) ar y gyfradd safonol o dreth gyngor ar ail gartrefi. Byddai premiwm yn golygu y byddai swm ychwanegol o’r dreth gyngor yn cael ei ychwanegu at  y swm blynyddol sydd yn ddyledus ar gyfer annedd. Y swm ychwanegol yma yw’r ‘premiwm’ ac mae’n medru bod hyd at 300% o’r ffi flynyddol safonol.

O dan y ddeddfwriaeth, rhaid i Gyngor Sir Fynwy benderfynu p’un ai a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi cyn 31ain Mawrth 2023 er mwyn dylanwadu ar ffioedd newydd o’r 1af Ebrill  2024.

O dan y ddeddfwriaeth, mae Cyngor Sir Fynwy wedi penderfynu p’un ai a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag cyn 31ain Mawrth 2023 er mwyn dylanwadu ar ffioedd newydd o’r 1af Ebrill  2024.

Anheddau a fyddai’n cael eu heithrio o bremiwm y dreth gyngor  

Mae yna nifer o ddosbarthau esempt, sydd fel arfer yn berthnasol i anheddau sydd yn wag yn y tymor hir a/neu ail gartrefi. Os yw’r eiddo yn disgyn i mewn i un o’r categorïau yma, nid yw’r Cyngor yn medru codi premiwm y dreth gyngor.   

Mae system y dreth gyngor eisoes yn darparu nifer o eithriadau penodol rhag y dreth gyngor.  Mae nifer o eithriadau ar waith ar gyfer anheddau gwag, megis, er enghraifft:
· pan fo’r preswylydd mewn gofal preswyl neu ysbyty hirdymor
· pan fo annedd yn cael ei hatgyweirio’n strwythurol (am hyd at flwyddyn
· lle mae’r preswylydd wedi marw (am hyd at chwe mis ar ôl caniatáu profiant neu lythyrau gweinyddu)
Nid yw annedd sydd wedi’i heithrio o’r dreth gyngor yn agored i bremiwm

Mae Cyngor Sir Fynwy yn profi lefelau uchel iawn o ddigartrefedd ar hyn o bryd. Mae swm sylweddol o arian y Cyngor yn cael ei neilltuo ar gyfer darparu llety brys tymor byr er mwyn delio gyda hyn. Yn unol gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae’r Cyngor yn medru cadw unrhyw refeniw ychwanegol sydd yn dod o’r premiymau yma er mwyn helpu anheddau sydd wedi bod yn wag yn yr hirdymor i gael eu defnyddio eto fel bod modd darparu tai diogel, a fforddiadwy a thra’n helpu i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.  
 
Gallwch gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn drwy lenwi ein ffurflen ar-lein  Ymgynghoriad – Premiymau’r Dreth Gyngor ar gyfer anheddau sy’n wag yn yr hirdymor ac ail gartrefi .  Os ydych angen yr ymgynghoriad mewn iaith neu fformat arall neu angen cymorth yn cwblhau’r ffurflen hon, yna ffoniwch  01633 644644 neu e-bostiwch contact@monmouthshire.gov.uk a byddwn yn barod iawn i’ch helpu.
 
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Iau, 16eg Chwefror 2023.