Skip to Main Content

Pwy ydyn ni?

Mae’r Gwasanaeth Ymatebol yn dîm amlasiantaethol ym mhob Bwrdeistref sy’n cynnwys staff Iechyd ac Awdurdod Lleol yn ogystal â gwirfoddolwyr.  Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd i gynnig cymorth a chyngor ynghylch bwydo ar y fron a bwydo gyda photeli a chyngor ar eich lles emosiynol  Mae’r gwasanaeth ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener.

Yr hyn a wnawn

Mae’r gwasanaeth yn cysylltu â chi dros y ffôn o fewn 72 awr i chi adael yr ysbyty ac yn ôl y gofyn yn ystod y misoedd cynnar. Rydym yn cynnig cymorth dros y ffôn neu drwy alwad fideo, pa un bynnag sydd orau i chi.

Sut gallwn ni helpu

Mae ein Timau wedi eu hyfforddi i:

roi cymorth gyda phob agwedd ar fwydo

gan gynnwys:

  • Osgo’r corff a defnyddio’r deth yn achos rhai sy’n bwydo o’r fron.
  • Bwydo Ymatebol – Arwyddion a chiwiau ar gyfer bwydo, cysur a Gofal.
  • Rhyddhad rhag Colig a Gwynt, gan ddefnyddio technegau tylino babi naturiol
  • Cyngor ar baratoi bwydach a sterileiddio offer yn ddiogel.
  • Eich Lles Emosiynol

Sut byddwn ni’n gwybod pryd i gysylltu â chi?

Bydd ein staff yn cysylltu ag unedau mamolaeth lleol bob dydd

am fanylion mamau sydd wedi cael eu

rhyddhau er mwyn i ni allu cysylltu â chi a’ch cynorthwyo gyda bwydo babanod ac iechyd emosiynol rhieni.

Mae gennych nifer o hawliau o ran y wybodaeth hon, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad at y wybodaeth sydd gennym amdanoch a’r hawl i gwyno os ydych yn anfodlon gyda’r ffordd mae’ch gwybodaeth yn cael ei phrosesu.  

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydyn ni’n prosesu eich gwybodaeth a’ch hawliau dilynwch

y ddolen isod:

https://bipab.gig.cymru/amdanom-ni/llywodraethu-gwybodaeth/cytundeb-llywodraethu-gwybodaeth/privacy-notice-welsh-version-nl-003-pdf/

Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Ymatebol:

Dydd Llun – Dydd Gwener 10.00am – 4.00pm

Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch y gwasanaeth gallwch siarad â’ch bydwraig neu gysylltu â ni ar 01873 735424