Skip to Main Content

Cwestiynau Cyffredin

BUSNESAU LLETYGARWCH A THRWYDDEDU

Pa fusnesau all agor a masnachu?

Gall llety gwyliau hunangynhwysol, gan gynnwys gwestai â chyfleusterau en-suite a gwasanaeth ystafell, yn gallu ailagor i bobl o’r un cartref neu gefnogi swigen o’r 27/03/2021.

Ni chaniateir i llety sy’n defnyddio ystafell ymolchi a rennir neu fannau bwyta a rennir i ail agor.

Mae rhestr lawn o’r busnesau sy’n rhaid iddynt gau ar gael yn  –https://gov.wales/coronavirus-covid-19-closure-businesses-and-premises-html

Mae Cymru ar Lefel Rhybudd 4 ar hyn o bryd oherwydd y coronafeirws

A gaiff cwsmeriaid archebu tu mewn?

Gall gwsmeriaid archebu tu mewn, fodd bynnag dylid eu hannog i archebu ymlaen llaw. Mae’n rhaid i gwsmeriaid ddilyn canllawiau pellter cymdeithasol wrth gasglu cynnyrch tecawê, ni ddylid bwyta nac yfed yn y safle.

A oes angen i mi gynnal asesiad risg?

Oes, edrychwch ar ein templed asesiad risg –https://www.monmouthshire.gov.uk/shop-local/for-businesses

Dylai Asesiadau Risg ddilyn rheoliadau a chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Caiff safleoedd eu hatgoffa i osod uchafswm capasiti ar gyfer ardaloedd dan do, ystyried pellter cymdeithasol, hylendid ac arwyddion. Dylai safleoedd roi’r asesiad risg i staff ac mae’r canllawiau yn gofyn i chi ei wneud ar gael i gwsmeriaid. Gall safleoedd ystyried ei gyhoeddi ar eu gwefannau.

A gaf ddarparu gwasanaeth tecawê neu gwasanaeth ffwrdd o’r safle?

Gall tafarndai, clybiau, caffes, gwestai a bwytai ddarparu gwasanaeth tecawê neu ddosbarthu i gartrefi ar gyfer bwyd a diod. Os penderfynwch gynnig y gwasanaeth hwn gofynnir i chi sicrhau fod y gyrrwr dosbarthu wedi gwirio gyda chwmni yswiriant eu cerbyd, efallai y bydd angen defnydd busnes. Os oes gan eich safle drwydded safle sy’n cynnwys Lluniaeth Hwyr y Nos gallwch fasnachu yn ystod yr oriau ar eich trwydded. Os nad yw eich trwydded bresennol yn awdurdodi Lluniaeth Hwyr y Nos, mae’n rhaid i’r safle gau erbyn 11pm. Ni fedrir gwerthu alcohol rhwng 10pm – 6pm. Gofynnir i chi sicrhau eich bod wedi cofrestru i gyflenwi bwyd, os ydych angen cyngor ar fusnes bwyd cysylltwch â environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01873 735420.

Beth os nad wyf yn dilyn y cyfyngiadau?

Bydd busnesau sy’n torri’r cyfyngiadau yn agored i hysbysiadau gwella neu gau, ac efallai ddirwy heb uchafswm. Fel mesur pellach, ac os oes angen hynny, gallai busnesau sy’n methu cydymffurfio hefyd wynebu colli eu trwydded alcohol neu gall unigolion wynebu colli trwydded bersonol. Gofynnir i chi cydymffurfio i helpu atal lledaeniad Covid.19.

A all tacsis ddal ati i weithio?

Gallant, ni fu’n rhaid i ddarparwyr cludiant roi’r gorau i fasnachu. Mae’n rhaid i gwsmeriaid wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys tacsis. Ni ddylai cwsmeriaid o wahanol aelwydydd fod yn rhannu tacsis pan mae Cymru ar Lefel 4 Rhybudd Covid.

I gael mwy o wybodaeth

Mae holl wybodaeth ddiweddaraf y llywodraeth ar gael yn – https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/874714/Full_guidance_on_staying_at_home_and_away_from_others.pdf

Cysylltwch â

Trwyddedu: licensing@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01873 735420