Skip to Main Content

Dynodi ac archwilio tir halogedig

Mae gan y Cyngor ddyletswydd i archwilio tir yn  y Sir i ddynodi unrhyw dir halogedig. Os, yn dilyn cyfres o ymchwiliadau safle ac asesiadau risg, y penderfynir fod darn o dir yn halogedig, mae’n rhaid i ni sicrhau y caiff ei drin mewn modd addas. Mae’r gyfraith yn ymwneud â Tir Halogedig yn Rhan IIA Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Dim ond os yw’n achosi risg annerbyniol i iechyd dynol neu’r amgylchedd y caiff tir ei ystyried yn “halogedig”. Mae’n rhaid cynnal yr asesiad yn edrych ar ddefnydd cyfredol, neu arfaethedig, y tir. Dylai unrhyw waith adfer gael ei wneud i safon “addas i’w ddefnyddio”. Mae’r gyfraith hefyd yn rhoi rheolau manwl ar osod atebolrwydd ar y rhai a achosodd yr halogiad ac mae’n rhaid i unrhyw waith glanhau gael ei seilio ar egwyddor “llygrwr yn talu”.

I fod yn risg i iechyd dynol neu’r amgylchedd, mae’n rhaid bod “cysylltiad llygredd” nad yw ond yn digwydd os yw pob un o’r tair elfen ddilynol yn bresennol:

Halogydd – sylwedd sydd yn, neu dan y tir, ac sydd â’r potensial i achosi niwed neu achosi llygredd i ddyfroedd a reolir

Derbynnydd – yn gyffredinol, rhywbeth y gallai halogydd gael effaith niweidiol arno, megis pobl, system ecolegol, eiddo, neu gorff dŵr

Llwybr – ffordd neu ddull y gall derbynnydd fod yn agored i, neu gael ei effeithio gan, halogydd.

Mae Llywodraeth Cymru a DEFRA wedi cyhoeddi canllawiau i gynghorau ar strategaethau ar gyfer archwilio tir ac unrhyw gamau i’w cymryd wrth benderfynu os yw’r tir yn halogedig ac, os felly, pa waith adfer y dylid ei wneud i’r tir.

Mae Strategaeth Archwilio Tir Halogedig  2002 ar gael, fodd bynnag mae’n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd yng ngoleuni cyfarwyddyd newydd gan y llywodraeth.

Mae’n rhaid i unrhyw dir a gaiff ei ddatgan yn Dir Halogedig gael ei gofnodi ar Gofrestr Gyhoeddus o Dir Halogedig.

Hyd yma, nid yw Cyngor Sir Fynwy wedi datgan bod unrhyw dir yn “Halogedig” dan Ran IIA Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ac felly nid oes unrhyw gofnodion ar y gofrestr.

Rydym yn cadw cofnodion y gellir eu defnyddio i asesu tir a fedrai fod wedi ei halogi. Gellir cael yr wybodaeth a ddaliwn drwy’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR), ond dim ond ar gyfer dibenion anfasnachol, ymchwil neu adolygu y gellir ei ddefnyddio. Gallwch ymweld â’n swyddfeydd yn ystod oriau swyddfa i weld yr wybodaeth. Cysylltwch â ni i wneud apwyntiad os gwelwch yn dda. Dan EIR mae gennym 20 diwrnod i ymateb i’ch cais.

Os ydych angen i’n swyddogion adolygu’r wybodaeth a rhoi ymateb ysgrifenedig, mae isafswm ffi o £60 am y gwaith hwn, yn dibynnu ar gymhlethdod eich cais. Cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd i wneud cais ffurfiol am wybodaeth amgylcheddol a manylion o’r gost sy’n gysylltiedig a sut i dalu.

Datblygu tir a allai fod yn halogedig

Bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n dymuno adeiladu ar neu ddatblygu tir a allai fod yn halogedig gynnal cyfres strwythuredig o weithdrefnau sy’n cynnwys ymchwiliadau safle ac asesiadau risg i ddynodi os oes unrhyw halogydd yn bresennol ac os felly os oes llwybrau i’r halogiad gyrraedd y defnyddiwr arfaethedig (cysylltiad llygredd).

Os oes cysylltiad llygredd, bydd yn rhaid gwneud gwaith adfer i gael gwared â’r halogiad neu flocio’r llwybr. Byddid wedyn angen adroddiad dilysu i ddangos fod y gwaith adfer wedi dileu’r risg.

Cynlluniwyd y fframwaith strwythuredig i gynorthwyo gwneud penderfyniadau a  chaiff ei ddisgrifio’n llawn yng Nghyfarwyddyd Asiantaeth yr Amgylchedd Gweithdrefnau Enghreifftiol ar gyfer Rheoli Tir Halogedig (CLR11).

Fel arfer caiff yr holl broses ei thrin dan y system cynllunio gydag amodau ar ganiatâd cynllunio i wneud y gwaith uchod.

Mae Adran Iechyd yr Amgylchedd yn gweithio gyda dau Awdurdod Cynllunio (Adran Cynllunio Cyngor Sir Fynwy a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i sicrhau y cafodd unrhyw dir a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer datblygiadau newydd ei ymchwilio’n llawn ac os oes angen i lanhau i’w wneud yn ddiogel am y defnydd arfaethedig.

Mae canllawiau pellach ar gael yn:

Datblygu tir y mae halogiad yn effeithio arno: Canllawiau i Ddatblygwyr (Cymraeg) (Saesneg)

Datblygu tir a allai fod yn halogedig: Canllawiau i Ddatblygwyr

Caiff unrhyw un sy’n ystyried datblygu’r tir a allai fod wedi’i halogi gan ddefnydd blaenorol y tir neu dir cyfagos eu hannog i gysylltu ag Iechyd yr Amgylchedd a’r Awdurdod Cynllunio perthnasol ar gamau cynharaf y datblygiad arfaethedig.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd