P’un a ydych yn denant yn y sector cymdeithasol neu’r sector preifat, neu os oes gennych forgais, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch landlord neu’ch banc cyn gynted â phosibl os credwch y cewch anhawster i dalu eich rhent a’ch biliau, gan y gallent eich helpu o bosib.
Gallech hefyd fod â hawl i’r canlynol i helpu gyda’ch costau tai:
Taliadau Tai Disgresiynol: Gall y rhain ddarparu arian ychwanegol pan fydd eich awdurdod lleol yn penderfynu bod angen cymorth ychwanegol arnoch i dalu eich costau tai, ar ben pa gymorth budd-daliadau a gewch eisoes drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau.
I gael Taliad Tai Disgresiynol, bydd angen i chi naill ai eisoes dderbyn yr hen gynllun Budd-dal Tai neu’r elfen cyfraniad tai drwy Gredyd Cynhwysol.
Yn ogystal, gall y Gronfa Atal Ddigartrefedd helpu pobl i gadw eu llety presennol neu helpu i gael mynediad at lety amgen.
I gael gwybod a ydych yn gymwys i gael taliad neu gymorth tai disgresiynol gan y Gronfa Atal Ddigartrefedd, cysylltwch â Chyngor Sir Fynwy ar 01633 644644 https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/tai-2/
Cyngor ar Bopeth:
Gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor da ar eich hawl i gartref diogel. Rhif cyngor cenedlaethol: 0300 330 2117 neu cysylltwch â’ch swyddfa leol (manylion ar gael ar monmouthshire.gov.uk/money-advice)
https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/
Cymorth i aros yn eich cartref:
Nod Tîm Cymorth Tai Cyngor Sir Fynwy yw helpu unrhyw un a allai fod mewn perygl o golli ei gartref am unrhyw reswm, ac maent yn gallu rhoi cyngor, cydgysylltu â’ch landlord neu fenthyciwr morgais, neu weithiau hyd yn oed ddarparu cymorth ariannol. Gall y tîm hefyd eich helpu i ddelio â’r rhesymau sydd tu ôl i pam rydych yn ei chael hi’n anodd talu eich rhent neu forgais – fel pryderon iechyd meddwl neu anawsterau o ran cael gafael ar y cymorth ariannol y mae gennych hawl iddo.
I gysylltu â’r tîm ffoniwch 01633 740730 neu e-bostiwch housingsupportservice2@monmouthshire.gov.uk. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y gall y tîm helpu drwy ymweld â https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cymorth-tai/
Cymdeithasau Tai:
Os ydych yn denant i landlord cymdeithasol yn Sir Fynwy – fel Melin, Cymdeithas Tai Sir Fynwy, Pobl neu United Welsh – gallwch gael help a chefnogaeth gyda’r canlynol:
- Cyngor cyflogaeth
- Cyngor ar ddyledion
- Cymorth tenantiaeth
- Cyllidebu
- Cyngor budd-daliadau
- Cyngor ar gyfleustodau
Y cysylltiadau ar gyfer pob un o’r cymdeithasau tai mwy yn Sir Fynwy yw:
Pobl: contact@poblgroup.co.uk 01633 212375
Cymdeithas Tai Sir Fynwy: 0345 677 2277 neu moneywise@monmouthshirehousing.co.uk
Melin: moneyadvice@melinhomes.co.uk neu 01495 745910