Skip to Main Content

Ymgynghoriad ar gau

Diolch i’r holl breswylwyr a busnesau lleol am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Rhagfyr 2023

Mae’n ddyletswydd gyfreithiol a moesol ar Gyngor Sir Fynwy i sicrhau fod gan pawb fynediad i gartrefi ansawdd da. Mae’r Cyngor yn cydnabod fod angen llety diogel, diwylliannol briodol ar gyfer unigolion i ffynnu mewn rhannau eraill o’r bywydau.

Dynododd yr Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr a gynhaliodd y Cyngor fod angen 13 llain ychwanegol ar gyfer teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr sydd eisoes yn byw yn Sir Fynwy.

Cafodd tri safle y mae’r Cyngor yn berchen arnynt yn Sir Fynwy eu dynodi fel rhai a allai fod yn addas i ateb yr anghenion cyfredol ar gyfer y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Lansir ymgynghoriad chwe-wythnos ar 9 Tachwedd 2023 sy’n gofyn am adborth gan y gymuned am y cynigion. Caiff hyn ei redeg gan Grasshopper Communications ar ran Cyngor Sir Fynwy. Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw 22 Rhagfyr 2023.

Byddwn yn gwrando ar bob aelod o’r gymuned a gwneir crynodeb o’r holl adborth a rhoddir ymateb i hynny yn yr adroddiad ymgynghori.

Y broses o ddyrannu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Mae’r broses o ddyrannu safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn un faith ac mae’n cymryd sawl blwyddyn cyn y gellir datblygu safleoedd. Mae angen y camau dilynol  a bydd ymgysylltu â’r cyhoedd ar bob cam:

Asesiad y Cyngor o Lety Sipsiwn a Theithwyr

Mae’n ofynnol i’r Cyngor gynnal Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr bob pum mlynedd. Dynododd yr Asesiad a gynhaliodd y Cyngor yn 2021 fod angen 13 llain ar gyfer teuluoedd sydd eisoes yn byw yn Sir Fynwy.

Mae’n ofynnol i’r Cyngor ddyrannu tir i ddiwallu ei anghenion tai, yn cynnwys yr angen a ddynodwyd ar gyfer safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ei Gynllun Datblygu Lleol Newydd. Cafodd y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol ei fabwysiadu yn 2014 ac mae’n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mae’r gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2018-2033 yn mynd rhagddo yn awr a bydd yn dynodi’r safleoedd a gynigir ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Dynodi safleoedd

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu’r Cyngor yn cynnal proses i ddynodi safleoedd priodol.

Mae’r Cyngor wedi adolygu a gwerthuso pob un o 1500 ased y Cyngor. Mae’r broses o asesu’r holl safleoedd yn y ddogfen COG (taenlen sy’n defnyddio system goleuadau traffig coch, oren a gwyrdd i roi cod lliw i ganfyddiadau gwerthuso a rhoi arwydd/trosolwg mwy gweledol). Mae’r broses wedi dynodi rhestr fer o safleoedd i ymgynghori arnynt.

Argymhellwyd rhestr fer o safleoedd i’r Cabinet ar 26 Gorffennaf 2023, fodd bynnag cafodd y penderfyniad ei ohirio i alluogi swyddogion i wneud mwy o waith gan yr ystyriwyd fod tair o’r safleoedd a ddynodwyd yn addas.

Yn ystod haf 2023 mae swyddogion wedi:

  • adolygu’r ddogfen COG;
  • adolygu’r safleoedd ymgeisiol y mae’r Cyngor yn berchen arnynt a gyflwynwyd ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd;
  • gwahodd y cyhoedd i gyflwyno tir posibl ar gyfer ei ystyried; a
  • pharhau i geisio diwallu anghenion Sipsiwn, Roma a Theithwyr lle bynnag oedd yn bosibl ar safleoedd preifat presennol, yn amodol ar y caniatâd angenrheidiol.

Rhoddwyd adroddiad ar ganfyddiadau’r ymchwil hwn i’r Cabinet ar 4  Hydref 2023.  Cytunwyd dechrau’r ymgynghoriad cyhoeddus ar dri safle yn ogystal â chynnwys unrhyw safleoedd addas a gyflwynir drwy’r galwad cyhoeddus am safleoedd, y mae’r perchennog yn fodlon eu gwerthu neu roi prydles hirdymor arnynt i’r Cyngor.

Roedd penderfyniad y Cabinet yn destun cais Galw-i-mewn a ystyriwyd gan y Pwyllgor Craffu Lle ar 23 Hydref ac a atgyfeiriwyd i’r Cyngor Sir ar 26 Hydref. Cytunodd y Cyngor Sir i symud ymlaen gyda’r ymgynghoriad ar y tri safle a ddynodwyd.

Y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a gynigir

Mae’r Cyngor yn ymroddedig i gyflwyno safleoedd bach ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a gaiff yn ddelfrydol eu defnyddio gan ddim ond un teulu neu aelwyd. Ni fydd gan unrhyw safle fwy na chwe llain a chânt eu cynllunio a’u tirlunio yn dda.

Bydd y safleoedd a gynigir yn darparu cartrefi ar gyfer teuluoedd sy’n byw ac wedi integreiddio’n dda mewn bywyd lleol yn Sir Fynwy ac y dynodwyd fod ganddynt angen. Dynodwyd tri safle arfaethedig: Oak Grove Farm a Bradbury Farm yn Crug a Langley Close ym Magwyr.

1. Oak Grove Farm, Crug (hyd at chwe llain – tua 7,976 m²)

  • Gwledig
  • Lleoliad ar y B4245 tua milltir o gyrion Cil-y-coed.
  • Mae’r tir yn rhan o stad Ffermydd Sirol y Cyngor a chaiff ei defnyddio ar sail tenantiaeth amaethyddol. Rhagwelir y byddai angen diwygio’r denantiaeth hon pe cefnogid y safle ar gyfer y defnydd hwn.
  • Defnyddir y tir ar gyfer amaethyddiaeth ar hyn o bryd.

2. Bradbury Farm, Crug (hyd at chwe llain – tua 18,022 m²)

  • Gwledig
  • Lleoliad yn union oddi ar Heol Crug
  • Mae’r tir yn rhan o stad Ffermydd Sirol y Cyngor a chaiff ei defnyddio ar sail tenantiaeth amaethyddol. Rhagwelir y byddai angen diwygio’r denantiaeth hon pe cefnogid y safle ar gyfer y defnydd hwn.
  • Mae’r M48 ar ymyl gogleddol y tir.
  • Mae gwrychoedd a ffensys ar yr ymylon dwyreiniol, gorllewinol a de

3. Langley Close, Magwyr (hyd at chwe llain – tua 23,431m²)

  • Trefol
  • Mynediad o St Bride’s Road.
  • Mae’r tir yn rhan o stad Ffermydd Sirol y Cyngor a chaiff ei defnyddio ar sail trwydded pori. Rhagwelir y byddai angen diwygio’r denantiaeth hon pe cefnogid y safle ar gyfer y defnydd hwn.
  • Mae eiddo preswyl ger y ffin deheuol. Mae’r M4 i’r gogledd, tir agored i’r dwyrain a’r gorllewin.
  • Mae gwregys coed o amgylch y safle.

Yr Ymgynghoriad

Mae’r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus chwech wythnos ar dri safle ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Y Cyngor yw perchen y tri safle.

Caiff pawb yn y gymuned eu hannog i ddweud eu barn a byddwn yn sicrhau fod gan bawb yn y gymuned le cyfartal a diogel i gymryd rhan yn y broses ymgynghori.

Digwyddiadau ymgynghori galw heibio

Cafodd dau ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus eu trefnu i roi mwy o wybodaeth am y cynigion:

  • Dydd Mercher 22 Tachwedd, 4-7pm: Neuadd Eglwys Porthysgewin, Heol Crug, Porthysgewin, Cil-y-coed NP26 5UL
  • Dydd Iau 23 Tachwedd, 4-7pm: Hyb Magwyr a Gwndy, 15 Prif Heol, Gwndy, Cil-y-coed, NP26 3EH

Bydd yna ddigwyddiad ymgynghoriad ar ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr, ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr. Mae’r digwyddiad yma yn cael i’w cefnogi gan Travelling Ahead. Am wybodaeth bellach, plîs cysylltwch gyda Travelling Ahead ar 0808 802 0025 neu travellingahead@tgpcymru.org.uk.

Adborth

Mae’r Cyngor yn casglu adborth drwy gydol y broses ymgynghori hon.

Cliciwch yma i gyflwyno eich sylwadau.

Byddwn yn sicrhau fod gan bawb yn y gymuned ofod cyfartal a diogel i gymryd rhan yn y broses ymgynghori., Mae gennym bolisi dim goddefgarwch at unrhyw sylwadau neu ymddygiad gwahaniaethol neu hiliol.

Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw 22 Rhagfyr 2023.

Y camau nesaf

Y cyfnod ymgynghori hwn yw’r cam cyntaf mewn proses barhaus. Caiff adborth o’r ymgynghoriad ei ddadansoddi a rhoddir adroddiad arno i’r Cabinet. Bydd y Cabinet wedyn yn penderfynu pa safle(oedd) fydd yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Adneuo CDLl Amnewid.

Cynhelir ymgynghoriad pellach fel rhan o Gynllun Adnau Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2018 – 2033 yn 2014. Bydd hefyd ymgynghoriad pellach fel rhan o unrhyw geisiadau cynllunio yn y dyfodol.

Cysylltwch â ni

Cyfeiriad e-bost: housingrenewals@monmouthshire.gov.uk
Ffôn: 01633 644644