Skip to Main Content

Mae nifer o Gynlluniau Tai Fforddiadwy yn Sir Fynwy a gaiff eu cyflwyno gan y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n bartneriaid i ni: Melin, Cymdiethas Tai Sir Fynwy (MHA), Pobl ac United Welsh.

Green house icon

Mae mynediad i bob math o Tai Fforddiadwy drwy Homsearch Sir Fynwy.

Y Gofrestr Tai Gyffredin

Caiff holl dai cymdeithasol ar rent yn Sir Fynwy eu dyrannu drwy’r Gofrestr Tai Gyffredin a gaiff ei rhedeg gan Homesearch. I gael mynediad i Homesearch bydd angen i chi gofrestru, a gallwch wneud hynny yma (cliciwch yma i fynd i wefan Homesearch).

Unwaith y byddwch wedi cofrestru cewch eich rhoi mewn band a benderfynir gan lefel eich angen am dŷ. Gallwch wedyn edrych ar yr eiddo sydd ar gael ar rent gan ein holl bartneriaid Tai Fforddiadwy a rhoi cynigion.

Rhoddir ystyriaeth i’r dilynol wrth ddyrannu tai:

• Cysylltiad lleol gyda Sir Fynwy.

• Arbedion neu enillion dros lefel arbennig.

• Perchen tŷ neu â budd ariannol mewn eiddo

• Anghenion eich aelwyd a risgiau

Mae prinder sylweddol o eiddo Tai Fforddiadwy ar rent yn Sir Fynwy. Gallech ei chael yn gyflymach i edrych am lety yn y sector rhent preifat.