Skip to Main Content

Tîm bach o fewn Cyngor Sir Fynwy ydym ni, sef y Tîm Addasiadau i’r Anabl, sydd wedi’i leoli yn yr Adran Gofal Cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartref. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd mynd i mewn ac o amgylch eich cartref oherwydd symudedd gwael neu anabledd, yna efallai y gallwn ni eich helpu gydag addasiad.

Gallech gael grant gan eich Cyngor os ydych chi’n anabl ac angen gwneud newidiadau i’ch cartref. Er enghraifft, os ydych:

  • yn anabl yn gorfforol
  • ag anabledd dysgu
  • ag anghenion sy’n gysylltiedig ag oedran
  • yn awtistig
  • â nam gwybyddol, fel dementia
  • â chyflwr sy’n gwaethygu, fel clefyd niwronau modur
  • profi salwch terfynol
  • profi cyflwr iechyd meddwl

Pan nad yw eich cartref bellach yn addas i’ch anghenion symudedd, neu pan fydd eich anghenion anabledd a mynediad wedi dod yn anodd eu rheoli, gall addasiad i’ch cartref eich helpu. Mae yna lawer o fathau o addasiadau sy’n cynnwys lifft risiau, mynediad gwastad i gawodydd a rampiau. Mae’r addasiadau hyn yn eich galluogi i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd, wrth barhau i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eich cartref. Gall addasiadau wneud gwelliant mawr i ansawdd eich bywyd a helpu i ddiwallu eich anghenion hirdymor gartref.

Y swm uchaf o grant y gallwch wneud cais amdano yng Nghymru yw £36,000. Yn dibynnu ar y math o grant a ddyfernir a’ch incwm a/neu gynilion, efallai y bydd yn rhaid i chi gyfrannu’n ariannol at gost yr addasiadau hefyd.

I sicrhau grant, rhaid bod:

  • yn anabl; a
  • bwriadu byw yn yr eiddo yn ystod cyfnod y grant

Rhaid i’r person sy’n cyflwyno’r cais fod naill ai’r:

  • perchennog
  • tenant
  • landlord

Mae angen i’r Cyngor fod yn hapus bod y gwaith yn:

  • angenrheidiol a phriodol i ddiwallu anghenion pobl anabl
  • rhesymol a gellir ei wneud, yn dibynnu ar oedran a chyflwr yr eiddo

Dylid cwblhau’r gwaith o fewn 12 mis i gymeradwyo’r grant.

Er mwyn dechrau’r broses, bydd angen i chi gael asesiad proffesiynol gan therapydd galwedigaethol yn gyntaf. Byddant yn cynnal asesiad trylwyr ac yn argymell yr addasiad gorau i ddiwallu eich anghenion. Ar ôl i hyn gael ei wneud, bydd y therapydd galwedigaethol yn anfon atgyfeiriad atom. Ar ôl i ni dderbyn hyn, byddwn yn cysylltu â chi.

Cysylltwch â’n Swyddog Tîm Byw’n Gynaliadwy ar 01633 644469 i ddysgu mwy am y cynllun. Gallech hefyd anfon e-bost atom disabledadaptations@monmouthshire.gov.uk

Fodd bynnag, efallai y bydd angen addasiad bach arnoch i ddiwallu eich anghenion fel canllaw neu ris. Gellir darparu’r mathau hyn o addasiadau llai o dan y Cynllun Diogelwch yn y Cartref a weinyddir gan ein partneriaid gwaith ar y cyd yn Gofal a Thrwsio. Gallant hefyd gynnig ystod eang o wybodaeth i helpu pobl hŷn yn Sir Fynwy i fyw’n annibynnol gartref. Ewch i’w gwefan i gael gwybod mwy: careandrepair.org.uk/agencies/care-repair-monmouthshire-and-torfaen/

Cwrdd â’r tîm:

Rheolwr Strategaeth a Byw’n Gynaliadwy (Dydd Llun – Dydd Mercher)

Rheolwr Strategaeth a Byw’n Gynaliadwy (Dydd Mercher i Ddydd Gwener)

Cynorthwyydd Strategaeth a Byw’n Gynaliadwy

Syrfëwr

Dolenni Perthnasol:

Technoleg Gynorthwyol Sir Fynwy

Mae’r Gwasanaethau Technoleg Gynorthwyol yn darparu atebion technolegol i gefnogi a galluogi pobl i fyw’n gyfforddus ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain (cliciwch er mwyn edrych ar y Gwasanaethau Technoleg Gynorthwyol).