Skip to Main Content

Diweddariad Pwysig  

Yn ddiweddar rydym wedi uwchraddio ein porth cais am drwydded i wneud hwn yn fwy cyfeillgar i gwsmeriaid. Yn ogystal, Mae ein Trwyddedau bellach yn Rhithwir sy’n golygu na fydd angen trwydded gorfforol wedi’i harddangos yn ffenest flaen eich cerbyd. Mae holl fanylion eich cerbyd a’ch trwydded bellach yn cael eu storio’n ddiogel ar ddyfeisiau llaw ein swyddogion. Rydym yn ceisio lleihau ein hôl troed papur a charbon; felly, ni fydd unrhyw Drwyddedau Papur yn cael eu cyhoeddi.

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi ddefnyddio ein porth trwyddedau wedi’i uwchraddio, bydd angen i chi greu cyfrif. Nodwch nad hyn yw eich mewngofnodiad Fy Sir Fynwy.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru eich cyfrif yn llwyddiannus, byddwch wedyn yn gallu gwneud cais am eich trwydded. Unwaith y bydd eich cais wedi’i adolygu a’i dderbyn gan ein tîm, byddwch wedyn yn gallu talu am eich trwydded ar-lein.

Gall unrhyw un brynu Trwydded Maes Parcio Arhosiad Hir Tymhorol. Mae’n caniatáu i chi barcio yn unrhyw un o feysydd parcio talu ac arddangos Arhosiad Hir Cyngor Sir Fynwy yn unig, heb gyfyngiad amser yn ystod dilysrwydd y drwydded. Nid oes rhaid i chi fod yn breswylydd yn Sir Fynwy i wneud cais am y drwydded hon.

Nid yw’r Drwydded hon yn rhoi’r hawl i chi ddefnyddio ein Meysydd Parcio Arhosiad Byr.

Ewch i dudalen Ein Meysydd Parcio – Sir Fynwy i weld pa feysydd parcio y mae gennych hawl i’w defnyddio gyda’r Drwydded hon.

Mae ein Trwyddedau bellach yn Rhithwir sy’n golygu na fydd angen trwydded gorfforol wedi’i harddangos yn ffenest flaen eich cerbyd. Mae holl fanylion eich cerbyd a’ch trwydded bellach yn cael eu storio’n ddiogel ar ddyfeisiau llaw ein swyddogion. Rydym yn ceisio lleihau ein hôl troed papur a charbon; felly, ni fydd unrhyw Drwyddedau Papur yn cael eu cyhoeddi.

Sicrhewch eich bod yn darllen ein Telerau Ac Amodau cyn anfon eich cais atom.

Mae’r drwydded arhosiad hir dymhorol yn ddilys ym mhob maes parcio talu ac arddangos Arhosiad Hir yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy yn unig (mewn unrhyw gilfach dalu ac arddangos arferol). Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw gilfach neilltuedig megis cilfach i’r Anabl neu Gerbydau Trydan. Nid oes gennych hawl ychwaith i unrhyw gonsesiynau parcio ar y stryd gyda’r drwydded hon.

Rhoddir trwyddedau maes parcio arhosiad hir i un cerbyd yn unig ac ni ellir eu trosglwyddo i gerbyd gwahanol heb ein caniatâd.

Gofynnir i chi ddarparu dogfennau cerbydau ar ôl cyflwyno’ch cais.

Costau a hyd bresennol Trwydded Maes Parcio Arhosiad Hir Tymhorol:

  • £145 – 3 mis
  • £280 – 6 mis
  • £545 – 12 mis

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cynllun hwn, a fyddech gystal ag ymweld â’n tudalen Cwestiynau Cyffredin yma.

Fel arall, cysylltwch â ni drwy gyfrwng e-bost carparking@monmouthshire.gov.uk

I wneud cais am y drwydded hon, dilynwch y ddolen hon i’n porth cais am drwydded: