Skip to Main Content
Deallwn fod angen llu o adnoddau, canllawiau ac arbenigedd lleol i redeg busnes. Dyna lle y deuwn ni i mewn iddi. Mae Busnes Sir Fynwy yn gweithredu fel partner dibynadwy i chi, gan eich cysylltu gyda chyfoeth o wasanaethau arbenigol a chyngor arbenigol a gafodd eu teilwra i ddiwallu anghenion unigryw eich busnes.

Pa bynnag gam o berchnogaeth busnes yr ydych arno, rydym ni yn Busnes Sir Fynwy yma i’ch helpu. Mae gennym fynediad diguro i ystod eang o wasanaethau cymorth a phartneriaid. P’un ai ydych yn dechrau arni fel cynllun masnachol, menter gymdeithasol neu elusen gallwn eich cynorthwyo gyda’r camau cyntaf hynny a chychwyn arni. Neu efallai eich bod ym mlynyddoedd cyntaf eich busnes ac angen help i dyfu a datblygu, rydym mewn sefyllfa gref i gael y cymorth rydych ei angen i ffynnu.

Mae ein tîm profiadol yn ymroddedig i ddeall eich nodau a’ch heriau penodol. Gallant roi cyngor ac arweiniad personol i’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus, creu strategaethau effeithlon a chynyddu eich potensial am lwyddiant i’r eithaf. P’un ai yw hynny yn eich cysylltu gyda darparwyr cyllid neu hwyluso  partneriaethau eraill gyda sefydliadau eraill sy’n cynnig cymorth, rydym yn ymroddedig i gynyddu eich potensial am lwyddiant i’r eithaf drwy ddefnyddio ein rhwydwaith ac arbenigedd.

Rydym yn falch i roi sylw i deithiau busnesau y gwnaethom eu cefnogi ar draws Sir Fynwy. Mae ein hastudiaethau achos yn dangos y ffyrdd amrywiol y mae ein tîm a’n partneriaid wedi helpu mentrau lleol i oresgyn heriau, cael mynediad i gyllid, tyfu eu busnesau, a ffynnu.

P’un ai ydych yn dechrau arni neu’n cynyddu eich busnes, mae’r straeon hyn yn cynnig gwybodaeth werthfawr ac ysbrydoliaeth.

Cliciwch yma i ymchwilio ein Astudiaethau Achos Cymorth Busnes.

Belle Vitale Wellness

Astudiaethau Achos

Llwyddiant yn nigwyddiad 

Digwyddiad

Deallwn fod adnoddau ariannol yn hanfodol ar gyfer twf busnes. Gall ein tîm eich cynorthwyo wrth ymchwilio gwahanol opsiynau cyllid, gan eich cysylltu gyda darpar fuddsoddwyr, sefydliadau ariannol a chyfleoedd eraill i gyflawni eich uchelgais.

Mae Busnes Sir Fynwy yn cydweithio gyda’n gwasanaethau partner i’ch helpu i sicrhau’r cyllid mae eich busnes ei angen.

Mae ein rhwydwaith helaeth o bartneriaid dibynadwy yn ein galluogi i ymchwilio ystod eang o opsiynau cyllid. P’un ai yw hynny yn eich cysylltu gyda darprwyr grantiau, cael gwybodaeth am gyllid sydd angen ei ad-dalu, cymorth gyda cheisiadau neu eich llywio drwy ymgyrchoedd cyllid tyrfa, defnyddiwn ein partneriaethau i gynyddu eich cyfleoedd o sicrhau’r cyllid cywir.

Gallwch ddibynnu arnom i lywio’r tirlun cyllid wrth eich ochr, gan roi cyngor a chymorth arbenigol i’ch helpu i gael mynediad i’r adnoddau ariannol sydd eu hangen ar gyfer twf a llwyddiant eich busnes.

I gael gwybodaeth ar unrhyw gronfeydd grant sydd ar gael drwy dîm Busnes Sir Fynwy ar hyn o bryd, edrychwch ar y dudalen grantiau: Grantiau Busnes Sir Fynwy

Darllenwch fwy Cymorth gyda Chyllid >

Mae rhwydweithio a chydweithio yn hanfodol ar gyfer twf, dysgu ac adeiladu busnes cynaliadwy a chydnerth mewn tirlun busnes rhyng-gysylltiedig. Gall Busnes Sir Fynwy hwyluso’r cysylltiadau hyn i chi drwy ein rhwydwaith helaeth ac effeithlon o bartneriaid a grwpiau busnes. Mae’r newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf gan lawer o’n darparwyr cymorth Sir Fynwy ar gael ar ein tudalen LinkedIn a drwy ein cylchlythyrau ac e-bost.

Gan weithio gyda thîm Economi, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Sir Fynwy gallwn eich helpu gyda recriwtio a hyfforddiant. Rydym hefyd yn gweithio gyda nifer o sefydliadau partner a all gynorthwyo gyda recriwtio a chadw gweithlu.

Mae ein cydweithwyr yn y tîm Cyflogaeth a Sgiliau yn gweithio gyda busnesau lleol a gallant eu cefnogi gyda swyddi gwag a hyfforddiant. Mae’r tîm Cyflogaeth a Sgiliau yn cydweithio gyda busnesau a chyflogwyr lleol i ddarganfod cyfleoedd swydd posibl ledled Sir Fynwy. Maent yn cynnig gwahanol fathau o gymorth, yn cynnwys mynychu digwyddiadau busnes lleol i ddeall a chynorthwyo gyda gofynion lleol. Cynigiant raglenni hyfforddiant wedi eu teilwra i ddiwallu anghenion swyddi gwag presennol, megis CSCS Gwaith Llafur a SIA Goruchwylwyr Drysau. Maent hefyd yn cynnig hyfforddiant a gyllidir yn llawn i fusnesau bach, yn cynnwys meysydd hanfodol tebyg i Ddiogelwch Bwyd, Iechyd a Diogelwch a Deiliaid Trwydded Bersonol Alcohol (APLH). Yn ogystal maent yn trefnu ffeiriau swyddi a digwyddiadau rhwydweithio i hyrwyddo swyddi gwag lleol ar draws y rhanbarth, gan feithrin cysylltiadau rhwng pobl sy’n chwilio am swyddi a chyflogwyr yn Sir Fynwy.

Cysylltwch ­â ni heddiw os hoffech siarad gyda ni am help gyda hyfforddiant neu os ydych angen help i recriwtio staff.

Ydych chi’n edrych am y lleoliad perffaith i sefydlu neu ehangu eich busnes? Gallwn eich cysylltu gydag eiddo masnachol, safleoedd diwydiannol a mannau gwaith a gaiff ei rhannu yn Sir Fynwy, gan eich helpu i ganfod y lleoliad delfrydol i wireddu eich uchelgais.

Mae Sir Fynwy, sy’n enwog am ei threfi ffyniannus a thirwedd gwledig godidog, yn cynnig amrywiaeth o fathau o eiddo masnachol i weddu anghenion busnes. O ganol trefi prysur, cefn gwlad tawel a safleoedd diwydiannol mawr a bach, mae gan fusnesau ddigon o opsiynau i ddewis o’u plith yn y sir hyfryd hon.

Gan ddefnyddio ein gwybodaeth leol a rhwydwaith busnes, gallwn eich helpu i ganfod a sicrhau’r safle perffaith ar eich cyfer chi.

Os ydych yn barod i symud eich syniad busnes neu ymlaen neu angen help i ganfod eiddo masnachol, cysylltwch â ni economicdevelopment@monmouthshire.gov.uk

James

James Woodcock

Rheolwr Dirnadaeth Busnes

Owen Williams 

Swyddog Cymorth Busnes

Jackie Godfrey

Swyddog Data a Chyfathrebu Busnes

Cysylltwch â’r tîm drwy e-bost yn:

EconomicDevelopment@monmouthshire.gov.uk

Dilynwch ni ar LinkedIn >

Ffurflen Ymholiad Cymorth Busnes>

Ffurflen Cofrestru Cylchlythyr Cymorth Busnes>

Cysylltwch â’r tîm dros e-bost – EconomicDevelopment@monmouthshire.gov.uk

Mae’r prosiectau hyn [wedi’u hariannu/ariannu’n rhannol] gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.