Skip to Main Content

Diweddarwyd yr erthygl: 7 Mai 2021

Cadarnhawyd  y caiff y goleuadau traffig dros dro a’r mesurau rheoli traffig cysylltiedig ar Stryd y Bont ym Mrynbuga eu symud erbyn 7am dydd Llun 10 Mai. Caiff y casgenni plannu, sydd ar Stryd y Bont ar hyn o bryd, eu symud a’u gosod mewn mannau eraill ym Mrynbuga lle’n bosibl, mewn cysylltiad gyda Chyngor y Dref a Brynbuga yn ei Blodau.

Mae llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo ac ailagor ysgolion a busnesau wedi arwain at fwy o draffig ym Mrynbuga a daethom i wybod am gynnydd yn yr amser aros a chiwiau hirach ar hyd Stryd y Bont yn ddiweddar.  Gyda lefelau uwch o draffig, rydym yn bryderus nad yw’r goleuadau dros dro bellach yn gweithredu’n effeithlon a daethom i’r casgliad mai dyma’r amser cywir i’w tynnu oddi yno. Er fod lefelau llygredd yn parhau lawer yn is na’r lefelau sbardun, rydym hefyd yn bryderus y gallai ciwiau hirach arwain at effaith bosibl ar ansawdd aer, a rydym eisiau osgoi hynny.  Mae Cymru bellach yn Lefel Rhybudd 3. Mae nifer achosion Covid yn isel ym Mrynbuga ar hyn o bryd ac mae cyfran uchel o’r preswylwyr bellach wedi derbyn o leiaf un brechiad, fodd bynnag caiff ymwelwyr a siopwyr eu cynghori i barhau i gadw pellter cymdeithasol lle’n bosibl ac i wisgo masg wyneb lle nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.

Yn ystod y misoedd nesaf bydd y cyngor yn gweithio gyda Chyngor y Dref i gysylltu gyda phreswylwyr lleol a’r gymuned fusnes i ystyried gweledigaeth ar gyfer dyfodol Brynbuga, yn cynnwys opsiynau posibl ar gyfer mesurau parhaol i reoli llif twf drwy ganol tref Brynbuga (gan nodi fod y weinyddiaeth wedi ymrwymo i beidio cyflwyno system un-ffordd yn ystod ei dymor). Bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda Chyngor Tref Brynbuga a gwirfoddolwyr Lorry Watch i fonitro’r rheoliadau presennol, sy’n gwahardd loriau mwy na 7.5 tunnell fetrig mewn pwysau os nad ydynt angen mynediad ar gyfer dosbarthu nwyddau a llwytho). Bydd y cyngor yn parhau i weithio  gyda Heddlu Gwent a GoSafe i sicrhau y cedwir y terfyn cyflymder o 20mya yn nhref Brynbuga, gan ystyried mesurau ymwybyddiaeth a chynghori ychwanegol wrth i ni symud ymlaen.

Caiff Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ei gyhoeddi er ymgynghoriad i gyflwyno llinellau melyn sengl yn gwahardd parcio ac aros ar amserau allweddol ger y siop sglodion a’r orsaf dân, fydd yn cynorthwyo llif traffig, gyda golwg ar weithredu’r mesurau hyn o fewn y 10-12 wythnos nesaf.

 [HM1]archive