Skip to Main Content

Sba a Harddwch ‘Serenity’ yng Nghanolfan Hamdden TrefynwyT

Mae Sba a Harddwch ‘Serenity’ yn cynnig cymysg cyffroes o driniaethau gofal wyneb a chorff.

Os ydych yn dymuno adfywio neu ymlacio yma yn Sba ‘Serenity’, gallwn gynnig paradwys berffaith i chi brofi’r teimladau mwyaf arbennig ac anhygoel, lle mae’r meddwl, y corff a’r ysbryd yn uno i greu profiad bythgofiadwy.

Bydd un o’n tîm o therapyddion hynod o brofiadol a chymwysedig yn hapus i ddylunio pecyn triniaeth wedi’i greu yn benodol ar gyfer eich anghenion, a byddant yn hapus i gynnig cyngor i chi ynglŷn ag anghenion eich croen.

Lawrlwythwch y pamffled Sba ‘Serenity’ yma.

Talebau Rhodd

Rhowch anrheg ymlacio. Yr anrheg berffaith am unrhyw achlysur yw taleb rhodd o Sba ‘Serenity’. Beth am drin rhywun arbennig i chi gydag ymweliad i’r Bar Ewinedd neu i gael blas ar driniaeth foethus. Galwch 01600 775135 / serenityspa@monmouthshire.gov.ukam fwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda.

Mae triniaethau’n cynnwys:

Profiad Sba

Adfywiwch, ailaddaswch ac ailgysylltwch â’ch hunan yn awyrgylch tawel a phriodol ein Ystafell Thermol, sy’n cynnwys Ystafell Stêm Aromatherapi a Sawna yn ogystal â Jacuzzi a man ymlacio. Am fanylion a chostau llawn, Lawrlwythwch ein pamffled yma.

Triniaeth wyneb

Gwrthodwch effaith amser gyda thriniaethau wyneb Elemis sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi’u profi i wrth-heneiddio, i wefreiddio ac i adnewyddu er mwyn gweld canlyniadau’n syth. Am fanylion a chostau llawn, lawrlwythwch ein pamffled yma.

Tylino

Mae tylino’n ddelfrydol i’r rheini sy’n dymuno gwaredu straen, rhyddhau tensiwn, gwella patrymau cwsg, ysgogi cylchrediad a gwella lles. Mae ‘Serenity’ yn cynnig amryw o opsiynau tylino, gan gynnwys tylino traddodiadol y cefn, y gwddwg a’r ysgwyddau, tylino croen y pen, tylino’r holl gorff a thylino gan ddefnyddio cerrig poethion. Am fanylion a chostau llawn, lawrlwythwch ein pamffled yma.

Y Bar Ewinedd

Y Bar Ewinedd yw’r ffordd berffaith o ychwanegu’r sglein i’ch profiad pampro, gan wneud i chi deimlo’n fendigedig o’r corun i’r sawdl. Mae Sba ‘Serenity’ yn cynnig amryw o wasanaethau gan gynnwys triniaeth y dwylo, triniaeth y traed a chelf ewinedd. Am fanylion a chostau llawn, lawrlwythwch ein pamffled yma.

Wacsio

Rydym yn cynnig amrywiaeth mawr o wacsio yn Sba ‘Serenity’, gan gynnwys system wacsio arbennig, er mwyn cynnig y cysurdeb ac ansawdd gorau posib i chi. Am fanylion a chostau llawn, lawrlwythwch ein pamffledyma yma.

Lliw Haul

 ‘Kissed’ gan ‘Mii tan’ yw’r ffordd berffaith o greu golwg naturiol yr haf trwy gydol y flwyddyn. Mae ein fformiwla gyfoethog, ddiarogl yn sychu’n gyflym i adael lliw delfrydol heb ribynnau a chroen meddal a llyfn. Am fanylion a chostau llawn, lawrlwythwch ein pamffled yma.

Colur

Cewch effaith mawr gan dacluso eiliau a chodi neu liwio blew’r llygaid sy’n gwella golwg gyffredinol eich llygaid, yn enwedig i bobl sydd ag eiliau golau.

Mae ein therapyddion arbenigol hefyd yn cynnig amryw o wasanaethau colur, gan ddefnyddio colur ‘Mii’ am olwg ddelfrydol; byddwn yn teilwra eich colur i gyd-fynd â lliw eich croen, eich gwisg a’r achlysur am yr olwg berffaith. Am fanylion a chostau llawn, lawrlwythwch ein pamffled yma.

Amser Partio yn y Sba

Mae Sba ‘Serenity’ yn cynnig partïon bach ar gyfer partïon plu, partïon pen-blwydd, partïon pampro i dywysogesau ayyb.   Galwch i siarad â therapydd am fwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda.

Sut i archebu

Galwch 01600 775135 /  serenityspa@monmouthshire.gov.uki archebu neu i ymholi ynglŷn â’n triniaethau gwahanol, os gwelwch yn dda.

Wrth archebu, gadewch i ni wybod am unrhyw gyflyrau meddygol neu feddyginiaethau yr ydych yn cymryd ar hyn o bryd os gwelwch dda gan fod eich cysur a diogelwch yn bwysig i ni.

Amserau triniaeth

Cyrhaeddwch 10 munud yn gynnar er mwyn ymlacio, os gwelwch yn dda; gall bod yn hwyr lleihau eich amser triniaeth.

Sba a Harddwch ‘Serenity’:

Galwch:01600 775135