Ar 14eg Ebrill 2021, roedd Cabinet y Cyngor wedi dechrau proses ymgynghori statudol sydd yn ymwneud gyda’n cynnig i sefydlu ysgol pob oed (4-19) ar safle Ysgol Brenin Harri’r VIII, a fydd yn agor ar 1af Medi 2023.
Er mwyn medru hwyluso’r broses o sefydlu’r ysgol pob oed hon yn Y Fenni, byddai’r Cyngor yn atal cynnal Ysgol Gynradd Deri View ac Ysgol Uwchradd Brenin Harri’r VIII o’r 1af Medi 2023.
Fel rhan o’r broses ymgynghori statudol, mae Cyngor wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori sydd yn darparu mwy o wybodaeth fanwl am y cynnig. Roedd cyfnod ymgynghori’r broses hon yn dod i ben ar 25ainMehefin 2021.
Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Asesiad o’r Effaith ar yr iaith Gymraeg wedi eu cynnal o ran y cynnig hwn.
Cyhoeddi’r Adroddiad Ymgynghori:
Mae’r Cyngor wedi ystyried yr adborth a’r ymatebion gan ymgyngoreion yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac wedi cyhoeddi adroddiad ymgynghori
Mae’r adroddiad ymgynghori yn cynrychioli cyfrifoldeb y Cyngor, yn unol gyda’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, i gyhoeddi adroddiad ymgynghori sydd yn:
- Darparu crynodeb o’r sylwadau / pryderon sydd wedi eu nodi gan ymgyngoreion.
- Ymateb i’r rhain drwy egluro, diwygio neu wrthod y pryderon gan gynnig rhesymau ategol.
- Amlinellu ymateb Estyn yn llawn i’r ymgynghoriad ac ymateb i’r hyn a ddywed Estyn drwy egluro, diwygio neu wrthod y pryderon gan gynnig rhesymau ategol.
Cyhoeddi’r Hysbysiadau Statudol
Bydd Cyngor y Cabinet yn cwrdd ar 6ed Hydref 2021 er mwyn ystyried yr adroddiad ymgynghori; yr argymhellion a wneir a phenderfyniad ynglŷn ag a ddylid symud i’r cam nesaf o’r prosesau statudol sydd yn berthnasol i’r cynnig hwn. Mae’r adroddiad sydd i’w ystyried gan y Cabinet ar gael yma.
Yn y cyfarfod hwn, roedd Cabinet y Cyngor wedi penderfynu symud ymlaen i gamau nesaf y broses statudol hon drwy gyhoeddi hysbysiadau statudol sydd yn cynnig sefydlu ysgol 3-19 (nid 4-19) mewn ymateb i’r adborth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori’r broses.
Cyhoeddwyd yr hysbysiadau statudol ar 19eg Hydref 2021 ac roeddynt yn cynnig cyfnod o 28 diwrnod i ymgyngoreion i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau statudol. Daeth y cyfnod gwrthwynebu i ben ar 17eg Tachwedd 2021, ac mae’r Cyngor wedi paratoi Adroddiad Gwrthwynebiad er mwyn darparu manylion unrhyw Wrthwynebiadau Statudol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwn.
Penderfyniad a wnaed
Ar 19eg Ionawr 2022, roedd Cabinet y Cyngor wedi ystyried Adroddiad ar y Gwrthwynebiadau a phenderfynodd barhau i weithredu’r cynnig i sefydlu ysgol pob oed (3-19) ar safle Ysgol Gyfun Brenin Harri’r VIII a fydd yn agor ym mis Medi 2023.
O ganlyniad i’r penderfyniad hwn, bydd y Cyngor yn ymatal rhag cynnal Ysgol Gyfun Brenin Harri’r VIII ac Ysgol Gynradd Deri View o’r 31ain Awst 2023. Mae copi o’r llythyr penderfyniad sydd wedi ei ddanfon at yr ymgyngoreion statudol ar gael yma.