Skip to Main Content

“Mae Rheoli Adeiladau Cyngor Sir Fynwy yn un o’r awdurdodau lleol gorau. Rydych yn ymateb yn wirioneddol gyflym i geisiadau/ymholiadau”

“Hoffwn eich llongyfarch ar eich gwasanaeth gwych. Byddwn yn dweud mai dyma’r profiad gorau a gefais mewn 10 mlynedd! O fewn oriau roeddwn wedi cael cadarnhad y cafodd fy nghais ei gofrestru ac o fewn dyddiau roeddwn yn gwybod beth oedd enw’r cyswllt ac wedi cael penderfyniad. Rydym yn ceisio cyflwyno ein lluniau a gwybodaeth fel eu bod yn rhwydd eu deall a yna gawsom yn ôl gennych chi. Rhoddodd y llythyr cymeradwyo amodol delerau manwl y bydd yn rhwydd eu cyflawni ar y safle ac mae’r amserlen archwiliadau yn wych”

“Aeth eich gwasanaeth uwchben a thu hwnt i fy nisgwyliadau. Cafodd y cais ei gofrestru a’i benderfynu mewn 24 awr. Ni allai’r ymgeisydd gredu’r peth gan ei fod yn wirioneddol eisiau mynd ymlaen gyda’r gwaith. Gwych!”

“Hyd yma byddwn yn dweud fod y gwasanaeth gan eich Adran Rheoli Adeiladu yn 10 allan o 10. Pan ffoniais gyda gwahanol ymholiadau, mae pawb a siaradais gyda nhw wedi bod yn gyfeillgar, gwybodus ac effeithiol iawn.”

“Hoffwn ddiolch i chi’n bersonol am oruchwylio ein prosiect hunan-adeiladu drwodd at ei orffen. Bu ychydig o broblemau fel sy’n wir gydag unrhyw brosiect hunan-adeiladu ond fe wnaeth eich cyfoeth o wybodaeth a phrofiad mewn adeiladu ein helpu i oresgyn y problemau hyn ac rydym yn ddiolchgar iawn am hyn. Bu eich gohebiaeth gyda ni bob amser yn gyflym ac yn effeithiol, ac yn bleser go iawn i ddeilio gyda chi. Does gen i ddim byd ond canmoliaeth i chi a rheoli adeiladu”.

“Hoffwn ddweud fod eich help a gwasanaeth bob amser wedi bod yn 100%. Mewn gwirionedd rwyf wedi defnyddio Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Fynwy ar lawer o brosiectau dros y blynyddoedd a byddwn yn sicr yn rhoi 10 allan o 10 iddo”.

“Byddwn yn mynd mor bell â manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi’n bersonol am eich cefnogaeth a’ch ymagwedd broffesiynol tuag at y prosiect. Rydym yn falch iawn gyda’r canlyniad ac yn awr yn dechrau mwynhau’r cyfleusterau newydd.”