Skip to Main Content

Gall ‘Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf’ Cyngor Sir Fynwy roi help, cyngor a chefnogaeth i’ch teulu i atal unrhyw faterion neu broblemau a all fod gennych rhag gwaethygu.

Bydd ein timau ‘Teuluoedd yn Gyntaf’ yn gweithio gyda chi a’ch teulu i’ch helpu i edrych beth sy’n gweithio’n dda yn eich bywyd a phenderfynu pa help rydych ei angen i’ch teulu ffynnu.

Ar gyfer pwy mae?

Mae ‘Teuluoedd yn Gyntaf’ ar gael i bob teulu gyda phlentyn dan 18 oed sydd angen help, lle bynnag rydych yn byw yn Sir Fynwy neu faint ydych yn ei ennill.

Pa gefnogaeth ar gael?

Mae amrywiaeth o gefnogaeth ar gael drwy ein rhaglen. Yma yn Sir Fynwy rydym wedi cynllunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion penodol eich teulu.

Beth yw egwyddorion Teuluoedd yn Gyntaf?

Mae’r gwasanaethau a ddarperir drwy’r rhaglen yn Sir Fynwy yn rhoi ystyriaeth i’r egwyddorion llywio cenedlaethol dilynol:

  • Ffocws ar y teulu – dylai gwasanaethau edrych ar anghenion eich holl deulu yn hytrach nag anghenion aelodau unigol o’r teulu.
  • Pwrpasol – dylai gwasanaethau gael eu teilwra i gyflawni anghenion penodol eich teulu.
  • Grymuso – dylai gwasanaethau rymuso eich teulu i gymryd rheolaeth o’ch bywydau.
  • Integredig – mae’n rhaid i asiantaethau gydweithio i’ch helpu mewn ffordd gydlynol.
  • Dwys – dylai cefnogaeth fod â ffocws ond hefyd fod yn ddigon hyblyg i addasu i newidiadau yn anghenion eich teulu.
  • Lleol – dylai gwasanaethau gael ei cynllunio i ddiwallu anghenion eich cymuned leol.
  • Rhagweithiol – mae’n bwysig y caiff eich anghenion eu dynodi cyn gynted ag sydd modd fel y gellir darparu cefnogaeth i chi mewn ffordd amserol.
  • Cynaliadwy – dylai cefnogaeth ddelio gydag achosion gwraidd problemau i alluogi eich teulu i barhau i wneud cynnydd ar ôl i gefnogaeth ddod i ben.