Skip to Main Content

Mae’r ‘Pwyllgor Craffu Pobl’ yn ymgysylltu â’r cyhoedd wrth ddylunio polisi a gwasanaethau sy’n effeithio ar bobl, gan adlewyrchu llais y cyhoedd i’r Cabinet cyn i benderfyniadau gael eu gwneud. 
 
Mae’r pwyllgor hwn yn gyfrwng i’r cyhoedd leisio eu barn ar benderfyniadau mawr, er mwyn cynorthwyo’r pwyllgor i ddod i’w gasgliadau a gwneud argymhellion i’r Cabinet.  
 
Mae Aelodau’n ymgysylltu â’u cymunedau drwy gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb anffurfiol yn y gymuned neu gynnal arolygon yn eu hardal leol.  
 
Mae’r cyhoedd hefyd yn gallu cyflwyno cyflwyniadau sain, fideo ac ysgrifenedig i’r pwyllgor hwn a mynychu ei gyfarfodydd.  I gyfrannu at waith y pwyllgor hwn neu i awgrymu pwnc i graffu arno, cliciwch ar yr adran ‘Cymryd Rhan’ ar y wefan. 
 
Cylch gorchwyl y pwyllgor hwn yw:  
 
“Craffu ar bolisïau a gwasanaethau a ddarperir i oedolion, plant a phobl ifanc sy’n hybu eu hiechyd, eu haddysg a’u lles