Skip to Main Content

A all y gymuned gymryd rhan?

Mae Craffu yn croesawu’r cyhoedd i gymryd rhan yn eu gwaith oherwydd fod hynny’n sicrhau fod y Craffu yn ystyrlon. Caiff y cyhoedd eu hannog i gymryd rhan mewn Craffu drwy awgrymu eitemau ar gyfer Craffu neu gynnig barn ar bwnc neilltuol ar yr agenda.

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio’n fyw a bydd dolen i’r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy’n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio’r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud);  neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno’r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o’r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o’r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd yn y cyfarfod, bydd angen i chi roi tri diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y Cadeirydd sydd yn penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond er mwyn ein galluogi i ddarparu ar gyfer nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn fwy na 3 munud o hyd.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o’n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol