Skip to Main Content

Fel rhan o’r  Ail Alwad am Safleoedd  Ymgeisiol, bydd angen gwybodaeth fanwl ychwanegol er mwyn cefnogi yr holl geisiadau o ran  Safleoedd  Ymgeisiol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yna ddigon o dystiolaeth yn cael ei ddarparu o ran hyfywedd a pha mor hawdd yw cyflenwi’r safle ac er mwyn medru cynnal asesiad llawn o’r safle.    

Ystyriaeth allweddol yw a yw’r safle, neu rhan o’r safle, yn cynnwys Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (GMA) h.y. Gradd 1, Gradd 2 neu Gradd 3a. Os yw safle yn cynnwys tir amaethyddol  GMA, rhaid manylu faint o dir a gradd y tir fel rhan o’r cais ar gyfer y safle ymgeisiol a ph’un ai y dylid cynnal arolwg o’r Tir Amaethyddol. Dylid cyflwyno hyn gyda’ch cais Safle Ymgeisiol.   

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu Nodyn Cyfarwyddyd ar sut i bennu gradd y tir amaethyddol, sut i ddefnyddio’r  Map Dosbarthu Tir Amaethyddol Rhagfynegi a phryd y dylid comisiynu arolwg. Maent hefyd wedi creu  nodyn yn rhoi manylion o’r hyn sydd angen fel rhan o adroddiad da o safbwynt adroddiad Dosbarthu Tir Amaethyddol. Maent wedi eu cynnwys yma er mwyn cynorthwyo ceisiadau Safleoedd Ymgeisiol.