Skip to Main Content

Caiff defnydd tir cyflogaeth safleoedd cyflogaeth a ddyrannwyd yng Nghynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy ei fonitro ar sail flynyddol. Mae data’r arolwg yn cynnwys: dosbarthiadau defnydd safleoedd unigol, cyflenwad tir cyflogaeth, statws cynllunio safle, ceisiadau cynllunio cysylltiedig, unedau sy’n cael eu hadeiladu/a gafodd eu cwblhau a thir cyflogaeth a gollwyd. Mae’r data a gasglwyd yn rhoi sylfaen tystiolaeth ddefnyddiol a chaiff hefyd ei ddefnyddio i lywio Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r Papur Cefndir Tir Cyflogaeth (Rhagfyr 2023) yn rhoi data a gasglwyd ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022 i Fawrth 2023.