Skip to Main Content

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI)

Mae yna ofyniad statudol i sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol datblygol yn mynd drwy Arfarniad Cynaliadwyedd. Rôl yr Arfarniad Cynaliadwyedd yw asesu a fydd y polisïau datblygol yn helpu cyflawni’r amcanion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ehangach yn y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA) Sir Fynwy.

Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd

Mae Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd ar gyfer CDLlA yn amlinellu’r hyn sydd angen ei wneud fel rhan o Arfarniad Cynaliadwyedd y CDLlA, sydd yn cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS).

Mae’r adroddiad hwn yn gam gyntaf o broses Arfarniad Cynaliadwyedd ac yn amlinellu’r materion a’r amcanion/meini prawf arfarniad cynaliadwyedd y dylid asesu strategaeth polisïau a chynigion y CDLlA yn eu herbyn. Mae hyn wedi cynnwys adolygiad o’r cynlluniau, rhaglenni, strategaethau a pholisïau sydd yn berthnasol i baratoi’r CDLlA, ynghyd ag adolygiad o nodweddion gwaelodlin amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y Sir. Adroddiad Cwmpasu Arfarniad Cynaliadwyedd (Rhagfyr 2018) Atodiad 1: Adolygiad o Gynlluniau, Polisïau, Rhaglenni a Strategaethau Atodiad 2: Data Gwaelodlin ar gyfer Sir Fynwy

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Mae Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (2010) yn golygu bod Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) yn berthnasol i’r holl gynlluniau defnydd tir statudol yn Lloegr a Chymru. Pwrpas yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yw asesu a fydd cynigion yn cael effaith adweithiol sylweddol ar safleoedd dynodedig a ddiffinnir o dan Reoliad 10 o’r Gyfarwydded Cynefinoedd; sydd yn cynnwys Ardaloedd Arbennig o Gadwraeth ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig.

Adroddiad Cwmpasu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd Cychwynnol Yr adroddiad cwmpasu cychwynnol yw’r cam cyntaf o’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a gynhelir o ran adolygu CDLlA Sir Fynwy.