Mae’r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA) yn nodi cynigion a pholisïau ar gyfer defnydd yr holl dir yn y Sir yn y dyfodol (ac eithrio’r rhan sydd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).
Gellir gweld rhagor o fanylion am y camau gwahanol a gymerwyd i baratoi’r Cynllun isod drwy glicio ar y botymau.
Adroddiad Adolygu
Cynhaliwyd adolygiad llawn o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy 2011 – 2021 (a fabwysiadwyd ar 27ain Chwefror 2014) yn 2018, ac mae’r canfyddiadau wedi’u nodi yn Adroddiad Adolygu’r CDLl.
Mae hyn yn rhoi trosolwg o’r materion a ystyriwyd fel rhan o’r broses adolygu lawn ac wedi hynny a nodwyd unrhyw newidiadau y mae’n debygol y bydd eu hangen i’r CDLl, yn seiliedig ar dystiolaeth. Argymhellodd yr adroddiad y dylai’r Cyngor ddechrau paratoi CDLl yn dilyn y weithdrefn adolygu lawn. Cyhoeddwyd yr Adroddiad Adolygu terfynol ochr yn ochr â’r Cytundeb Cyflenwi Drafft (Mai 2018).
Safleoedd Ymgeisiol
Galwadau am Safleoedd Ymgeisiol
Fel rhan o’r broses o baratoi’r cynllun, gwahoddodd y Cyngor dirfeddianwyr, datblygwyr a’r cyhoedd i gyflwyno ‘safleoedd ymgeisiol’ i’w hystyried ar gyfer eu datblygu, ailddatblygu neu’u gwarchod yng Nghynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA) Sir Fynwy.
Mae Safle Ymgeisiol yn ddarn o dir a gyflwynir i’r Cyngor gan barti â diddordeb (e.e. datblygiad neu dirfeddiannwr) er mwyn i’r Cyngor ystyried y tir at ddiben penodol. Gall Safle Ymgeisiol fod ar gyfer datblygu/ailddatblygu neu’i warchod. Nid oes gan Safle Ymgeisiol statws ac nid yw’n gais cynllunio.
Roedd Cam 1 o’r broses hon yn cynnwys Galwad Cychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol am gyfnod o 16 wythnos rhwng 30ain Gorffennaf 2018 a’r 19eg Tachwedd 2018.
Cynhaliwyd yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar yr ail Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid rhwng 5ed Gorffennaf 2021 a’r 31ain Awst 2021. Diben hyn oedd caniatáu cyflwyno safleoedd ymgeisiol newydd yr ystyriwyd eu bod yn cydymffurfio â’r Strategaeth a Ffefrir, a chyflwyno gwybodaeth ategol ychwanegol ar gyfer y safleoedd hynny a gyflwynwyd yn ystod y Cais Cychwynnol am Safleoedd sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth a Ffefrir ac a fodlonodd yr asesiad lefel uchel.
Cofrestr o’r Safleoedd Ymgeisiol
Mae’r holl safleoedd a gyflwynwyd yn ystod yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol wedi’u cyhoeddi mewn Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol sy’n diweddaru ac yn disodli’r gofrestr a gyhoeddwyd yn dilyn yr Alwad Gychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol. Nid yw safleoedd na chawsant eu hailgyflwyno yn dilyn yr Alwad Gychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol wedi’u cynnwys yn y Gofrestr wedi’i diweddaru.
Mae Mapiau Trosfwaol ar gyfer yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol rhwng 5ed Gorffennaf 2021a’r 31ain Awst 2021 wedi’u creu i ddangos yr ystod o safleoedd ar draws aneddiadau/ardaloedd.
Fel rhan o baratoi’r CDLl Adnau, mae pob safle ymgeisydd wedi’i asesu yn unol â’r Dull Asesu Safleoedd Ymgeisiol.
Nodiadau Canllaw Safleoedd Ymgeisiol
Mae arweiniad ar gael ar rai o’r asesiadau allweddol y bydd eu hangen i gefnogi cyflwyniadau Safle Posib.
Asesiadau Safleoedd Ecolegol o Safleoedd
Ystyried y Tir Amaethyddol Gorau a Mwyaf Amlbwrpas
Canllawiau ar Hyfywedd Ddichonolrwydd (Mehefin 2021)
Canllawiau Mynd i’r Afael â Newid yn yr Hinsawdd
Astudiaeth Sensitifrwydd Tirweddau
Asesiad Hyfywedd
Dewis y Cyngor ar gyfer asesiadau hyfywedd yw defnyddio’r Model Hyfywedd Datblygu (MHD) y gellir ei ddarparu i ddatblygwyr, hyrwyddwyr safleoedd, neu unrhyw unigolyn / sefydliad arall, at ddibenion cynnal arfarniad hyfywedd ariannol (AHA) o ddatblygiad arfaethedig. Mae’r MHD wedi’i greu fel model cynhwysfawr, hawdd ei ddefnyddio y gellir ei ddefnyddio gan hyrwyddwyr safleoedd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau at y diben o asesu hyfywedd ariannol cynnig datblygu. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen we Hyfywedd Datblygu.
CDLIA Cyflwyniad
Cyflwynodd y Cyngor y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid a’r dogfennau cysylltiedig i Lywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w harchwilio, o dan adran 64(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ar 7fed Tachwedd 2025. Am ragor o fanylion, gweler yr Hysbysiad Cyflwyno.
Archwiliad Annibynnol
Bydd y CDLlA Adneuo yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w archwilio’n annibynnol. Dyma fydd y cynllun yr ystyriwn ei fod yn ‘gadarn’.
Bydd yr Archwiliad yn cael ei gynnal gan Arolygydd Annibynnol a benodir gan PCAC. Nod yr Archwiliad yw sicrhau bod y CDLlA wedi’i baratoi yn unol â gofynion gweithdrefnol, ac, i benderfynu a yw’r CDLlA yn ‘gadarn’, gan gynnwys sicrhau bod barn pawb sydd wedi gwneud sylwadau drwy gydol y broses wedi’i hystyried.
Mae’r gofynion gweithdrefnol yn sicrhau bod y CDLlA wedi’i baratoi yn unol â’r Cytundeb Cyflawni (gan gynnwys y Cynllun Cynnwys y Gymuned), yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
Bydd y CDLlA yn cael ei ystyried yn erbyn y tri ‘phrawf o gadernid’:
- A yw’r Cynllun yn berthnasol?
- A yw’r Cynllun yn briodol?
- A fydd y Cynllun yn cyflawni?
Bydd yr Archwiliad yn cynnwys gwrandawiadau cyhoeddus, gyda phob gwrthwynebydd yn cael yr hawl i gael gwrandawiad gan yr Arolygydd, er mai’r Arolygydd sy’n penderfynu’r ffordd y cânt eu clywed.
Adroddiad yr Arolygydd
Bydd yr arolygydd yn paratoi adroddiad yn amlinellu unrhyw newidiadau y dylid eu gwneud i’r CDLlA, gan esbonio pam mae angen y newidiadau hyn.
Cytundeb Cyflawni
Cynllun Cyflenwi y Cynllun Datblygu Lleol Newydd
Mae’r Cytundeb Cyflenwi yn cynnwys amserlen ar gyfer paratoi a chyflawni’r CDLlA ac mae’n cynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau sy’n nodi sut y gall aelodau’r cyhoedd a grwpiau eraill â diddordeb gyfrannu at baratoi’r CDLlA.
Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig
Cytunwyd ar Gynllun Cyflenwi diwygiedig, sy’n nodi amserlen ddiwygiedig ar gyfer paratoi’r Cynllun, gan Lywodraeth Cymru ar 25ain Hydref 2024. Bydd gwaith ar y CDLlA yn mynd rhagddo yn unol â’r Cytundeb Cyflenwi diwygiedig.
Cyfnod Cyn Adnau
Mae’r Papur Materion, Gweledigaeth ac Amcanion (diweddarwyd Rhagfyr 2022) yn dynodi’r materion, heriau a gyrwyr allweddol sy’n wynebu’r Sir ynghyd â drafft weledigaeth ac amcanion y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Cafodd drafft weledigaeth ac amcanion y Cynllun Datblygu Lleol Newydd eu mireinio drwy gydol proses y Cynllun cyn eu cynnwys yn y Strategaeth a Ffefrir.
Cafodd yr opsiynau twf a gofodol eu llywio gan ystod o dystiolaeth ac maent yn ymateb i nifer o heriau a gododd yn dilyn ymgynghoriad a chyswllt gyda rhanddeiliaid ar y Strategaeth a Ffefrir flaenorol yn haf 2021, sef gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i’r lefel twf a nodwyd yn y Strategaeth a Ffefrir honno a materion ansawdd dŵr ffosffadau yn yr Afon Gwy a’r Afon Wysg.
Mae’r Papur Opsiynau Twf a Gofodol (Medi 2022) yn ehangu ar y gwaith a gwblhawyd hyd yma ar yr opsiynau twf a gofodol.
Y Strategaeth a Ffefrir yw’r cam ymgynghori statudol cyntaf yn y broses o baratoi’r Cynllun ac mae’n darparu’r cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn Sir Fynwy (ac eithrio’r ardal o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) dros gyfnod y Cynllun o 2018 i 2033 ac mae’n nodi faint mae angen twf a lle bydd y twf hwn wedi’i leoli’n fras.
Roedd y Strategaeth a Ffefrir ynghyd â’r Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig Cychwynnol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o wyth wythnos rhwng 5ed Rhagfyr2022 a’r 30ain Ionawr 2023.
Ym mis Hydref 2023 cymeradwyodd y Cyngor ddiweddariadau i’r Strategaeth a Ffefrir yn dilyn yr ymgynghoriad/ymgysylltu statudol ym mis Rhagfyr 2022 – Ionawr 2023.
Cynllun Adneuo
Mae’r Cynllun Adnau yn gyfnod allweddol yn y gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu ar gyfer Sir Fynwy. Mae’n bwrw ymlaen â’r gwaith casglu tystiolaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gwaith Cyn-adneuo a gyflawnwyd hyd yma, gan gynnwys yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, ac mae’n nodi’r strategaeth, cynigion a pholisïau manwl ar gyfer defnydd a datblygiad tir yn Sir Fynwy yn y dyfodol dros y cyfnod 2018-2033. Bydd y CDLlA yn cwmpasu’r Sir gyfan ac eithrio’r ardal o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (PCBB). Ymgynghorodd Cyngor Sir Fynwy ar ei Gynllun Adnau, ynghyd â’r Adroddiad Gwerthuso Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ategol rhwng dydd Llun 4 Tachwedd a dydd Llun 16 Rhagfyr 2024.
Mabwysiadu
Y Newyddion Diweddaraf
Newyddion Diweddaraf am y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid
Ar ôl cael ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 23ain Hydref 2025, cyflwynwyd y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA) Adneuo a dogfennau ategol i Lywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) ar 7fed Tachwedd 2025 i’w harchwilio o dan adran 64(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol. Gellir gweld copi o’r Hysbysiad Cyflwyno yma.
Beth yw’r Camau Nesaf?
Bydd y CDLlA yn cael ei archwilio gan PCAC, sy’n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru ac yn rheoli’r broses archwilio’n annibynnol, gyda chefnogaeth gan y Swyddog Rhaglen penodedig.
Mae’n debyg y bydd sesiynau gwrandawiad yr archwiliad yn dechrau ddechrau 2026, a disgwylir i’r broses archwilio gyfan gymryd sawl mis i’w chwblhau. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu ar dudalen we’r Archwiliad Annibynnol cyn gynted ag y byddant ar gael.
Os gwnaethoch gyflwyno sylwadau yn ystod ymgynghoriad y CDLlA, bydd y Swyddog Rhaglen yn cysylltu â chi ynghylch camau nesaf y broses. Bydd yr Arolygydd(ion) penodedig yn ystyried barn y rhai sydd wedi gwneud sylwadau ar y CDLlA Adneuo cyn penderfynu a yw’r Cynllun yn ‘gadarn’.
Gallwch ddarllen mwy am y broses archwilio yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru yma: Archwiliadau Cynllun Datblygu Lleol: canllawiau gweithdrefn | LLYWODRAETH CYMRU
Yn dilyn yr archwiliad, cyflwynir adroddiad yr Arolygydd i’r Cyngor i ystyried mabwysiadu’r Cynllun yn ffurfiol. Rhagwelir y bydd hyn yn digwydd yn Hydref 2026.
Sut Alla i Dderbyn y Wybodaeth Ddiweddaraf?
Os hoffech gael eich hysbysu am y CDLlA, gan gynnwys ymgynghoriadau yn y dyfodol, cofrestrwch eich manylion neu cysylltwch â’r Tîm Polisi Cynllunio.
• E-bost: planningpolicy@monmouthshire.gov.uk
• Ffôn: 01633 644429