Skip to Main Content

Rydym yn cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol i roi manylion pellach ar rai polisïau a chynigion yn y Cynllun Datblygu Lleol. Nid oes gan Ganllawiau Cynllunio Atodol yr un statws â pholisïau cynllun a fabwysiadwyd ond gellir rhoi ystyriaeth iddynt fel ystyriaeth sylweddol.

Cafodd rhaglen o Ganllawiau Cynllunio Atodol i gefnogi’r Cynllun Datblygu Lleol eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a’r Aelod Cabinet Unigol ym Mai 2016. Mae’r Adroddiad a’r Rhestr Canllawiau Cynllunio Atodol ar gael i’w gweld.

Cafodd y Canllawiau Cynllunio Atodol dilynol eu mabwysiadu i gefnogi’r Cynllun Datblygu Lleol, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd ar gael i’w gweld yn defnyddio’r dolenni islaw:

Datblygu Mewnleni Tachwedd 2019

Canllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy Gorffennaf 2019

Canllawiau Cynllunio Atodol Ynni Adnewyddadwy ac Effeithiolrwydd Ynni Mawrth 2016

Seilwaith Gwyrdd Ebrill 2015

Canllawiau Cynllunio Atodol Dylunio Troi Adeiladau Amaethyddol yn Anheddau Ebrill 2015

Canllawiau Cynllunio Atodol Polisïau Cynllun Datblygu Atodol H5 & H6 Anheddau Amnewid mewn Cefn Gwlad Agored ac Ymestyn Anheddau Gwledig Ebrill 2015

Canllawiau Cynllunio Atodol Ffryntiad Siopau Sylfaenol Ebrill 2016

Canllawiau Cynllunio Atodol Troi Adeiladau Gwledig i Ddefnydd Preswyl neu Dwristiaeth (Polisïau H4 a T2) Tachwedd 2017 2017

Canllawiau Cynllunio Atodol Llety Twristiaeth Cynaliadwy Tachwedd 2017