Skip to Main Content

I sicrhau y caiff Cynlluniau Datblygu Lleol eu cadw’n gyfoes, mae’n ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol ddechrau adolygiad llawn o’u Cynlluniau Datblygu Lleol o leiaf unwaith bob pedair blynedd ar ôl eu mabwysiadu, neu ynghynt os yw canfyddiadau’r Adroddiadau Monitro Blynyddol yn dangos pryderon sylweddol am weithrediad cynllun.

Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol yw’r dasg o werthuso i ba raddau y mae Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd yn gweithredu’n effeithlon. Mae’r Rheoliadau yn caniatáu ‘adolygiad dethol’ i edrych ar ran(nau) o’r Cynllun neu ‘adolygiad llawn’ sy’n edrych ar y Cynllun cyflawn.

Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol

Dechreuodd adolygiad llawn o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy yn 2017, gyda chyhoeddi Drafft Adroddiad Adolygu. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar yr adroddiad am gyfnod o wyth wythnos rhwng 11 Rhagfyr 2017 a 5 Chwefror 2018. Medrir gweld crynodeb o’r materion allweddol a godwyd o’r ymatebion ymgynghori, wedi’i rannu yn ôl cwestiwn, yma. Medrir gweld y crynodeb llawn o ymatebion i’r ymgynghoriad, yn cynnwys ymatebion Cyngor Sir Fynwy a newidiadau a argymhellir, yma.

Cafodd yr ymatebion a gafwyd o’r ymgynghoriad eu hystyried a’u cynnwys yn yr Adroddiad Adolygu terfynol fel yn berthnasol. Yn seiliedig ar y dystiolaeth yn yr Adroddiad Adolygu, y casgliad oedd y dylid diwygio’r Cynllun ac y dylai hyn fod ar wedd gweithdrefn diwygio llawn, h.y. Cynllun Datblygu Lleol newydd. Daethpwyd hefyd i’r casgliad y dylid diwygio Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy ar sail unigol.

Diwygio Cynllun Datblygu Lleol