Skip to Main Content

Peidiwch ag anghofio eich prawf Hunaniaeth a Llun

Heb brawf hunaniaeth â llun, ni fyddwch yn gallu pleidleisio yn yr etholiad hwn

Hysbysiad Etholiad

Bydd etholiadau i benodi Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent yn cael eu cynnal ar 2 Mai 2024.

Pam mae etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu’n bwysig?

Rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw dwyn yr heddlu i gyfrif.

Mae etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n cael eu cynnal bob pedair blynedd. 

O ran etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae 41 ardal ar draws Cymru a Lloegr lle etholir 1 Comisiynydd.  Yn Sir Fynwy byddwch yn pleidleisio ar gyfer y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu sy’n cynrychioli Gwent, felly gyda phleidleiswyr o Dorfaen, Casnewydd, Caerffili a Blaenau Gwent.

Nod Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yw lleihau trosedd a darparu gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon yn eu hardal heddlu.

Pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, cewch ddewis pwy rydych chi’n meddwl dylai ddal Prif Gwnstabliaid a’r heddlu i gyfrif yn eich ardal. Mae mwy o wybodaeth am rôl y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ar gael yma.

Sut ydw i’n gwybod pwy sy’n sefyll mewn etholiad?

Dim ond ar ôl 5 Ebrill 2024 y bydd manylion am yr ymgeiswyr a fydd yn sefyll etholiad i’r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n hysbys.

Gallwch ddarganfod mwy am yr ymgeiswyr ar y ddolen ganlynol ar ôl y cyfnod hwn:  Dewiswch Fy Nghomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (choosemypcc.org.uk)

Sut ydw i’n pleidleisio yn yr etholiad?

Ar 2 Mai 2024, bydd 90 o orsafoedd pleidleisio ar agor ledled Sir Fynwy rhwng 7am a 10pm.  Ar yr amod eich bod wedi cofrestru i bleidleisio ac nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio drwy’r post, byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio erbyn 1 Ebrill 2024 a fydd yn dweud wrthych ba orsaf bleidleisio yr ydych wedi cofrestru i bleidleisio ynddi.

YDYCH CHI WEDI COFRESTRU I BLEIDLEISIO?

Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio, ni fyddwch yn gallu pleidleisio yn yr etholiad

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn yw 16 Ebrill 2024

Nid yw pobl dan 18 a gwladolion tramor yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, gan fod yr etholiad yn dod o dan ddeddfwriaeth y DU yn hytrach na deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Nid yn siŵr lle mae eich gorsaf bleidleisio?

Gallwch ddefnyddio’r teclyn chwilio isod i’ch helpu i ddod o hyd i leoliad eich gorsaf bleidleisio a mwy o wybodaeth amdani.

Pleidleisio drwy’r Post

Os na fyddwch yn gallu ymweld â gorsaf bleidleisio neu os byddai’n well gennych bleidleisio drwy ddulliau eraill, gallwch wneud trefniadau amgen i bleidleisio drwy’r post, neu benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan yn eich gorsaf bleidleisio. 

Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post ar-lein yma – Nodwch y bydd angen copi electronig o’ch llofnod inc gwlyb arnoch yn ogystal â’ch rhif yswiriant gwladol er mwyn cwblhau’r cais.

Fel arall, os byddai’n well gennych gwblhau cais papur gallwch ofyn am un drwy gysylltu â’r swyddfa etholiadau ar 01633 644212 neu e-bostio elections@monmouthshire.gov.uk.

Caiff pleidleisiau post eu hanfon mewn dwy gyfran. Gall unrhyw etholwr sydd wedi cofrestru ar gyfer pleidlais bost erbyn 1 Ebrill 2024 ddisgwyl derbyn eu pleidlais bost tua 20 Ebrill 2024.  Gall unrhyw un sy’n gwneud cais am bleidlais bost ar ôl y dyddiad hwn ddisgwyl cael ei bleidlais bost erbyn 26ain Ebrill 2024 fan bellaf. Bydd angen i chi ystyried y dyddiadau hyn wrth wneud cais am bleidlais bost i sicrhau eich bod ar gael i gwblhau a dychwelyd y bleidlais bost atom.

Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy’r post gael eu cyflwyno’n gywir erbyn 5pm ar 17eg Ebrill 2024.

Rhaid cyflwyno ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn gywir i ni erbyn 5pm ar 24ain Ebrill 2024.

Mae canllaw ar sut i gwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost wedi’i gynnwys yn eich pleidlais bost.

Os na fyddwch yn derbyn eich pleidlais bost yn ôl y disgwyl, ni ellir rhoi un arall tan 26ain Ebrill 2024. Byddem yn argymell eich bod yn ymweld â Neuadd y Sir, Brynbuga, gan ddod ag hunaniaeth ffotograffig gyda chi, er mwyn cael pleidlais drwy’r post yn hytrach na dibynnu ar un arall i gael ei phostio atoch o gofio pa mor agos at y diwrnod pleidleisio ydyw.

Anogir pleidleiswyr i ddychwelyd eu pleidlais bost cyn gynted â phosibl.  Er ei bod yn dal yn bosibl cyflwyno pleidlais bost i’r orsaf bleidleisio neu i Neuadd y Sir, Brynbuga bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen datganiad a byddwch yn gyfyngedig o ran nifer y pleidleisiau post y gallwch eu cyflawni. Bydd methu â chwblhau’r ffurflen hon yn arwain at wrthod eich pleidlais.

Hunaniaeth y Pleidleisiwr

Am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd angen i unrhyw un sy’n pleidleisio yn yr etholiad hwn ddarparu prawf hunaniaeth lluniau yn yr orsaf bleidleisio cyn y caniateir iddynt bleidleisio.

Bydd mwy o fanylion am ba hunaniaeth sy’n dderbyniol yn cael eu cynnwys ar eich cerdyn pleidleisio neu mae ar gael drwy glicio yma.

Os nad oes gennych unrhyw fath derbyniol o brawf adnabod, gallwch wneud cais am dystysgrif pleidleisiwr.  Bydd angen i chi fod wedi cyflwyno ffurflen gais ar gyfer hyn erbyn 24ain Ebrill 2024.

Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu

Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer yr etholiad hwn yw Swyddog Canlyniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae mwy o wybodaeth am Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gael yma.