Skip to Main Content

Mae’r dudalen hon yn egluro rôl cynghorydd, yn ogystal â sut y gallwch chi ddod o hyd i’ch cynghorydd lleol a chysylltu ag ef/hi.

Mae gennym 43 o gynghorwyr a etholwyd gan bleidleiswyr cofrestredig yn eu wardiau.

Y gynrychiolaeth wleidyddol ar Gyngor Sir Fynwy yw:

  • Ceidwadwyr: 19
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 3
  • Llafur: 11
  • Annibynnol: 10

Ers mis Mai 2012, mae’r cyngor wedi cael ei arwain gan Peter Fox (y Blaid Geidwadol), gyda Robert Greenland (y Blaid Geidwadol) a Phylip Hobson (y Democratiaid Rhyddfrydol) fel Dirprwy Arweinyddion. Paul Matthews yw’r Prif Weithredwr.

Cadeirydd y cyngor eleni yw’r Cynghorydd David Dovey.

Rôl cynghorydd

Mae ein cynghorwyr yn cyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • Annog cyfranogiad cymunedol a chynnwys preswylwyr wrth wneud penderfyniadau
  • Cynrychioli buddiannau’r bobl yn eu ward
  • Delio ag ymholiadau a phryderon preswylwyr yn deg a heb ragfarn
  • Cwrdd â phobl, busnesau a sefydliadau lleol sydd â buddiant
  • Gwrando ar anghenion pobl a sefydliadau lleol er mwyn cymryd eu barn i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau ac ystyried cynigion polisi
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau cyrff allanol y’u penodwyd iddynt ac adrodd yn ôl i’r cyngor
  • Hyrwyddo achosion sy’n gwella ansawdd bywyd yn Sir Fynwy
  • Datblygu gwybodaeth am y sefydliadau, gwasanaethau, gweithgareddau a ffactorau eraill sy’n bwysig i les a hunaniaeth y gymuned

Cynghorwyr yn ôl plaid a manylion cyswllt

Ceidwadwyr

  • Ann Webb: St Arvans
  • Brian Strong: Brynbuga
  • Bryan Jones: Goetre
  • David Dovey: St Kingsmark
  • Elizabeth Hacket Pain: Wyesham
  • Geoff Burrows: Llanfihangel Troddi
  • Giles Howard: Llanelli Hill
  • John Prosser: Priory
  • Martin Hickman: Llan-ffwyst
  • Maureen Powell: Castle
  • Paul Jordan: Cantref
  • Penny Jones: Rhaglan
  • Peter Clarke: Llangybi
  • Peter Fox: Porthysgewin
  • Phil Murphy: Caer-went
  • Robert Greenland: Devauden
  • Ruth Edwards: Llandeilo Gresynni
  • Sara Jones: Llanofer
  • Susan White: Overmonnow

Democratiaid Rhyddfrydol

  • Douglas Edwards: Grofield
  • Linda Guppy: Rogiet
  • Phil Hobson: Cas-gwent, Larkfield

Llafur

  • Armand Watts: Thornwell
  • David Evans: West End
  • Dimitri Batrouni: St Christopher’s
  • James George: Lansdown
  • Jessica Crook: The Elms
  • Jim Higginson: Afon Hafren
  • Kevin Williams: Llanwenarth
  • Pauline Watts: Castell Cil-y-coed
  • Peter Farley: Cas-gwent, St Mary’s
  • Roger Harris: Croesonnen
  • Tony Easson: Llanddewi

Annibynnol

  • Alan Wintle: Drybridge
  • David Jones: Crucornau
  • Debby Blakebrough: Tryleg
  • Frances Taylor: Mill
  • Graham Down: Drenewydd Gelli-farch
  • John Marshall: Green Lane
  • Ralph Chapman: Maerdy
  • Robert Hayward: Llandidiwg gydag Osbaston
  • Simon Howarth: Llanelli Hill
  • Val Smith: Llanbadog