Skip to Main Content

Cadeirydd y Cyngor ar gyfer 2023 – 2024 yw’r Cynghorydd Sir Meirion Howells

Apwyntio’r Cadeirydd

  • Mae’r Cadeirydd, sef Pennaeth Dinesig y Cyngor, yn cael ei ethol ym mis Mai bob blwyddyn yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir.
  • Rhaid i’r Cadeirydd fod yn Gynghorydd mewn swydd a rhaid i’r Cadeirydd aros yn wleidyddol ddiduedd yn ystod ei flwyddyn yn y swydd.
  • Yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor mae’r Cadeirydd yn penodi Cymar yn ystod y cyfnod fel Cadeirydd.
  • Penodir Is-Gadeirydd y Cyngor hefyd yn y Cyfarfod Blynyddol a bydd yn cynrychioli’r Cadeirydd mewn cyfarfodydd a digwyddiadau yn ei (h)absenoldeb.

Rôl y Cadeirydd

Mae’r Cadeirydd yn meddu ar y cyfrifoldebau canlynol:

  • Goruchwylio cyfarfodydd y Cyngor fel bod modd ymgymryd â’i fusnes yn effeithlon ac o ran hawlia’r Cynghorwyr a buddiannau’r gymuned.
  •  Cynnal a hyrwyddo dibenion y Cyfansoddiad pan fo angen.
  •  Sicrhau bod cyfarfod y Cyngor yn fforwm ar gyfer trafod materion sy’n peri pryder i’r gymuned leol a’r man lle y gall aelodau nad ydynt ar y Pwyllgor Gwaith ddal y Pwyllgor Gwaith a Chadeiryddion y Pwyllgorau yn atebol.
  • Hyrwyddo cyfranogiad y cyhoedd yng ngweithgareddau’r Cyngor.
  • Gweithredu fel cydwybod y Cyngor.
  • Mynychu digwyddiadau dinesig a seremonïol y mae’r Cyngor yn penderfynu sy’n briodol e.e. ymweliadau brenhinol, digwyddiadau elusennol, cefnogi gweithgareddau diwylliannol lleol (tra’n cynrychioli’r Sir mae’r Cadeirydd yn gwisgo Cadwyn Swydd). Fel rhan o’r rôl, mae’r Cadeirydd yn cael blaenoriaeth o fewn y Sir, ac eithrio Ei Fawrhydi’r Brenin neu ei gynrychiolydd dros y Sir, yr Arglwydd Raglaw.
  • Gall y Cadeirydd enwebu elusen a chynnal digwyddiadau codi arian drwy gydol ei dymor yn y swydd.
  • Mae’r Cadeirydd yn gweithredu fel Dinesydd Cyntaf y Sir gan feithrin hunaniaeth a balchder cymunedol drwy hyrwyddo ardaloedd lleol a chodi proffil Sir Fynwy a’r Cyngor.

Y Cynghorydd Sir Meirion Howells

Cadeirydd 2023 – 2024

Ganed y Cynghorydd Meirion Howells mewn pentref bychan Cymraeg ei iaith yn Sir Gaerfyrddin. Symudodd y teulu i Lundain pan oedd yn wyth oed i redeg gwely a brecwast yn Victoria, Llundain. Tra yno, roedd ei rieni wedi helpu atgyfnerthu’r pwysigrwydd o chwarae rhan yn y gymuned, gan gymryd rhan ym mhob agwedd o’r gymuned Gymreig yn  Llundain a Chapel Clapham Junction yr oeddent yn ei fynychu.

Ei gymar am y flwyddyn yw ei wraig Sarah, ac ar adegau, ei fam Mrs Iris Howells. Mae wedi byw ym Mrynbuga ers 2004 ac mae ganddo 5 o blant, 3 wedi eu geni yn Sir Fynwy. Mae Meirion a’i wraig yn rhedeg practis osteopathig prysur ym Mrynbuga ac wedi bod yn ymwneud yn helaeth â digwyddiadau cymunedol ers symud yma o Lundain. Mae Meirion wedi bod yn Gynghorydd Tref ers 5 mlynedd, yn cynrychioli ward Llanbadog ac Wysg fel Cynghorydd Sir, yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Brynbuga ac yn aelod ar nifer o bwyllgorau’r Cyngor a grwpiau lleol.

Rhwng cefnogi ei blant gydag ymrwymiadau chwaraeon a cherddorol wythnosol prysur, mae Meirion yn mwynhau canu gyda Chlwb Canu lleol Brynbuga.

Yr elusennau sydd wedi eu dewis yn ystod ei gyfnod yn y swydd rhwng 2023 a 2024 fydd: Gofal Hosbis St David / St David’s Hospice Care

Os hoffech wahodd y Cadeirydd i ddigwyddiad neu os hoffech iddo ymweld â chyfleuster cymunedol, cysylltwch â Chynorthwyydd Personol y Cadeirydd, Linda Greer: Ffôn: 01633 644020 neu e-bostiwch lindagreer@monmouthshire.gov.uk – fel arall ysgrifennwch at: Swyddfa’r Cadeirydd, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Rhadyr, Brynbuga NP15 1GA. (Byddem yn gwerthfawrogi pe bai pob gohebiaeth yn cael ei hanfon drwy Swyddfa’r Cadeirydd ac nid yn uniongyrchol at y Cadeirydd).

Os na fydd y Cadeirydd yn gallu mynychu digwyddiad oherwydd ymrwymiad blaenorol bydd y gwahoddiad yn cael ei drosglwyddo i’r Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Sir Su McConnel.