Skip to Main Content

Os hoffech blannu coed ar dir cyngor

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i gynyddu’r gorchudd coed trefol.   Dros gyfnodau’r gaeaf rhwng 2019 a 2022, plannodd y cyngor dros 14000 o goed o fewn aneddiadau allweddol y sir.  Mae’r cyngor wedi ymrwymo i blannu rhagor o goed i wella’r amgylchedd a chyfrannu at leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Rydym hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Tai Sir Fynwy, Cynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol i blannu coed ar dir sy’n eiddo iddynt.

Rydym yn chwilio am safleoedd ym mhob un o’n trefi a phentrefi.  Os ydych yn gwybod am ardal gymunedol rydych chi’n teimlo fyddai’n elwa o blannu un neu fwy o goed, cysylltwch â ni a byddwn yn ystyried hyn fel rhan o’n cynllunio. 

Mae’r tymor plannu coed yn rhedeg rhwng mis Tachwedd i ddechrau mis Mawrth, gyda choed a blannwyd yn gynharach yn gyffredinol â chyfradd goroesi well, felly ystyriwch hynny wrth ddanfon eich e-bost.

E-bostiwch Groundsandcleansing@monmouthshire.gov.uk gyda’r manylion canlynol:

  • Eich enw a’ch manylion cyswllt
  • Yr union leoliad yr hoffech blannu, yn ddelfrydol gyda map a’r lleoliad WhatThreeWords
  • Pa rywogaethau a maint y goeden yr hoffech ei phlannu
  • Faint o goed hoffech chi eu plannu
  • A yw’r goeden hon yn gofeb i berson neu ddigwyddiad?
  • Ydych chi’n gofyn i Gyngor Sir Fynwy i blannu’r goeden/coed neu a hoffech chi wneud hynny?
  • Allwch chi gynorthwyo gyda chynnal y goeden/coed ar ôl plannu?

Cronfa plannu coed y Siop Ailddefnyddio

Mae gennym ddwy siop ailddefnyddio yn Sir Fynwy sy’n gwerthu eitemau sydd wedi eu hachub rhag cael eu gwaredu yn ein Canolfannau Ailgylchu.  Maen nhw’n gwerthu popeth o bric-a-brac i hen bethau a phethau casgladwy. Mae Sir Fynwy wedi datgan Argyfwng yn yr Hinsawdd – bydd elw o’r siop yn mynd tuag at blannu coed yn ein trefi a’n pentrefi i helpu cynyddu’r gorchudd canopi coed trefol a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd ar lefel leol.

I gyfrannu eitemau neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch: RecyclingandWaste@monmouthshire.gov.uk

Am fwy o wybodaeth:

https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/y-siop/