Skip to Main Content

Rydym yn rheoli un safle rhandiroedd yn Sir Fynwy:

  • Cas-gwent (Gwy Isaf)
    Lleoliad: Strongbow Road, Bulwark

Ynghyd â safle Cas-gwent a reolir gennym ni, mae sawl safle hefyd yn cael eu rheoli gan gynghorau tref a chynghorau cymuned.

Sut i ddechrau eich rhandir eich hun

Treuliwch ychydig o amser yn cynllunio cyn dechrau. Meddyliwch faint o arian sydd gennych i’w wario a faint o amser sydd gennych i weithio ar eich rhandir.

Mae angen llawer iawn o ymrwymiad er mwyn cynnal rhandir yn ystod y camau cynnar. Mae angen clirio ac yna rheoli eich plot, yn dibynnu ar y maint.

Gall y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol gynnig cyngor ar gynllunio’ch rhandir. Gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau ynglŷn â chynllunio’r rhandir neu’r llain llysiau hefyd.

Tudalen Eiddo Sydd Ar Gael