Skip to Main Content

Diweddariad Pwysig  

Yn ddiweddar rydym wedi uwchraddio ein porth cais am drwydded i wneud hwn yn fwy cyfeillgar i gwsmeriaid. Yn ogystal, Mae ein Trwyddedau bellach yn Rhithwir sy’n golygu na fydd angen trwydded gorfforol wedi’i harddangos yn ffenest flaen eich cerbyd. Mae holl fanylion eich cerbyd a’ch trwydded bellach yn cael eu storio’n ddiogel ar ddyfeisiau llaw ein swyddogion. Rydym yn ceisio lleihau ein hôl troed papur a charbon; felly, ni fydd unrhyw Drwyddedau Papur yn cael eu cyhoeddi.

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi ddefnyddio ein porth trwyddedau wedi’i uwchraddio, bydd angen i chi greu cyfrif. Nodwch nad hyn yw eich mewngofnodiad Fy Sir Fynwy.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru eich cyfrif yn llwyddiannus, byddwch wedyn yn gallu gwneud cais am eich trwydded. Unwaith y bydd eich cais wedi’i adolygu a’i dderbyn gan ein tîm, byddwch wedyn yn gallu talu am eich trwydded ar-lein.

Os ydych yn byw mewn ardal sydd â chyfyngiadau parcio trwydded preswylwyr ar y stryd, ac nid oes gennych unrhyw gyfleusterau parcio oddi ar y stryd ar gael i chi, Neu, os ydych yn byw ger maes parcio Talu ac Arddangos Cyngor Sir Fynwy, efallai y byddwch yn gymwys i gael trwydded barcio i breswylwyr lle bo’n berthnasol, ac yn dibynnu ar argaeledd. Bydd hyn yn amodol ar ein meini prawf cymhwysedd ac yn cael ei asesu fesul cais.  

  • Mae ein Trwyddedau bellach yn Rhithwir sy’n golygu na fydd angen trwydded gorfforol wedi’i harddangos yn ffenest flaen eich cerbyd. Mae holl fanylion eich cerbyd a’ch trwydded bellach yn cael eu storio’n ddiogel ar ddyfeisiau llaw ein swyddogion. Rydym yn ceisio lleihau ein hôl troed papur a charbon; felly, ni fydd unrhyw Drwyddedau Papur yn cael eu cyhoeddi.
  • Rhoddir y cerdyn parcio Preswyl yn flynyddol ac mae’n costio £75.00. Dyrennir hwn ar sail un i bob cartref.
  • Sicrhewch eich bod yn darllen ein Telerau Ac Amodau cyn anfon eich cais atom.
  • Wrth gyflwyno’ch cais, byddwn angen prawf o berchnogaeth car a phreswyliad yn unol â’n telerau ac amodau.
  • Rhoddir hawlenni preswylwyr i un cerbyd yn unig ac ni ellir eu trosglwyddo i gerbyd gwahanol heb ein caniatâd.
  • Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd argaeledd ar adeg eich cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cynllun hwn, a fyddech gystal ag ymweld â’n tudalen Cwestiynau Cyffredin yma.

Fel arall, cysylltwch â ni drwy gyfrwng e-bost carparking@monmouthshire.gov.uk

I wneud cais am y drwydded hon, dilynwch y ddolen hon i’n porth cais am drwydded: