Skip to Main Content

Sut gallaf i wneud cais am gerdyn parcio tymhorol?

Gall unrhyw un brynu cerdyn parcio tymhorol. Mae’n caniatáu i chi barcio yn unrhyw rai o’n meysydd parcio Talu ac Arddangos Cyngor Sir Fynwy ar raddfa ostyngol.

Mae’r cerdyn parcio tymhorol yn ddilys yn yr holl feysydd parcio talu ac arddangos yn Y Fenni, Cas-gwent, Cas-gwent a Threfynwy, ni waeth a ydynt yn arhosiad hir neu fyr. I wneud cais am gerdyn parcio tymor, a fyddech gystal â chyflwyno cais drwy’n Gwefan Fy Sir Fynwy. Gofynnir i chi ddarparu dogfennaeth cerbyd wrth i chi gyflwyno’ch cais.

Costau a chyfnodau cyfredol cerdyn parcio tymor:

  • £110 – 3 mis
  • £220 – 6 mis
  • £430 – 12 mis

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ein cynllun cerdyn parcio tymor, a fyddech gystal ag ymweld â’n tudalen Cwestiynau Cyffredinol ar Gardiau Parcio  Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy gyfrwng e-bost ar carparking@monmouthshire.gov.uk

Mae ffurflen gais Y Cerdyn Parcio Tymhorol ar gael ar-lein isod