
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer grant sydd wedi’i gynllunio i gefnogi mannau diogel a chynnes Sir Fwnwy.
Rydym yn chwilio am leoedd sy’n groesawgar, hygyrch, diogel ac yn darparu amgylchedd cynnes i bobl y gaeaf hwn. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn lleoedd sy’n gallu cynnig gweithgareddau, cyngor neu gymorth, neu weithio gyda phartneriaid i wneud hynny, er mwyn helpu pobl i feithrin gwydnwch ac atal anawsterau ariannol rhag gwaethygu.
Dysgwch fwy drwy’r ffurflen gais hon: Warm Spaces Grant 2026/27 – Fill in form
Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Sul 25 Hydref 2026