
Mae DFCS (a elwir hefyd yn addysg gynnar) yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio’r amser y mae eich plentyn yn ei dreulio yn y Cyfnod Sylfaen, o’r tymor yn dilyn eu penblwydd yn 3 oed, hyd at y mis Medi’n dilyn eu penblwydd yn 4 oed. Er nad yw’n orfodol, mae’n gyfnod pwysig iawn ym mywyd eich plentyn am ei fod yn gosod y sylfeini ar gyfer dysgu yn y dyfodol.
Mae DFCS yn cael ei gynnal mewn dosbarthiadau blynyddoedd cynnar ac mewn ardal awyr agored. Mae’r ddwy ardal hon yn galluogi plant i ddysgu drwy chwarae. Mae’r cwricwlwm yn rhoi’r cyfle i bob plentyn fod wrth galon eu dysgu. Bydd diddordebau eich plentyn yn cael eu hystyried a byddant yn cael eu hannog i wneud dewisiadau ynglŷn â’u dysgu. Bydd staff sydd wedi cymhwyso’n llawn yn gweithio gyda dosbarthiadau llawn, grwpiau bychan ac unigolion i ddatblygu dysgu plant tra’n arsylwi. MMae hyn yn arwain at brofiad dysgu sy’n hwyl ac sy’n ymarferol, yn ogystal â bod yn llawn o weithgareddau ymarferol y gwyddom sy’n datblygu agweddau positif tuag at ddysgu.
Mae ymchwil yn dangos bod manteision DFCS yn cynnwys:
Datblygu agwedd bositif at ddysgu
Datblygu hyder
Gallu gwneud camgymeriadau heb ofni methiant
Datblygu sgiliau iaith a sgiliau cyfathrebu
Mynegiant trwy ddawns, cerddoriaeth a chelf
Datblygu sgiliau meddwl a datrys problemau
Datblygu hunangymhelliant ac annibyniaeth
Datblygu sgiliau rhifedd
Mae’r Cyfnod Sylfaen wedi ei selio ar yr egwyddor dysgu drwy chwarae. Mae gwaith ymchwil wedi profi bod chwarae’n rhan allweddol o ddatblygiad addysgiadol pob plentyn, ac mae tystiolaeth yn dangos bod dysgu trwy chwarae’n ffordd arbennig o helpu plant i ddatblygu ac ehangu eu sgiliau iaith a’u sgiliau cyfathrebu. Trwy chwarae y mae plant ifanc yn gwneud synnwyr o’r byd. Mae sawl ffurf ar chwarae sy’n cefnogi cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen gan gynnwys chwarae rhan, chwarae creadigol, chwarae llawn dychymyg, adeiladu drwy chwarae a chwarae archwiliadol.
I gloi, mae DFCS yn galluogi plant i fwynhau dysgu a chwarae cyn iddynt gychwyn yn yr ysgol, a bydd y profiad hwn yn fodd iddynt gael gafael ar wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy’n eu paratoi at y blynyddoedd nesaf o ran addysg.
Am wybodaeth ynglŷn â lleoedd DFCS yn Sir Fynwy, ewch i http://www.fis.wales/fis/W06000021
Am fwy o fanylion am y Cyfnod Sylfaen lawrlwythwch y canllaw isod.