Skip to Main Content

Mae Croesfannau Cerbyd, a elwir weithiau yn “cyrbau isel” yn hwyluso mynediad cerbydau o gerbytffordd i eiddo drwy ostwng cyrbau a chryfhau’r llwybr troed neu ymyl y ffordd.

Mae Adran 184 Deddf Priffyrdd 1980 yn gosod y gofynion ar gyfer yr awdurdod lleol parthed mynediad cerbyd i ac o briffordd gyhoeddus.

Nodwch os gwelwch yn dda:

  • Darllenwch y canllawiau a’r weithdrefn cyn llenwi’r  ffurflen gais (mae’r holl ddogfennau cysylltiedig ar gael islaw). Gellir e-bostio’r ffurflen ar ôl ei llenwi at highdev@monmouthshire.gov.uk.
  • Rhoddwch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl ar y braslun pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen gais, yn cynnwys dimensiynau mynediad i’ch eiddo.
  • Byddwn yn eich hysbysu mewn ysgrifen os nad yw’n bosibl darparu croesfan.
  • Caiff pob cais eu hystyried ar eu haeddiant yn unigol yn unol â chanllawiau lleol a chenedlaethol ac er budd diogelwch y briffordd. Pe byddech yn dymuno apelio penderfyniad, gallwch wneud hynny yn unol â gweithdrefn apêl – croesfan cerbyd llwybr troed / ymyl ffordd.

Cwestiynau Cyffredin

C1  Pam fy mod angen croesfan cerbyd?

Ni chaniateir i chi yrru dros droetffordd neu ymyl ffordd os na chafodd croesfan cerbyd ei awdurdodi a’i adeiladu’n gywir. Mae hyn oherwydd y gallwch niweidio’r wyneb, cyrbau ac unrhyw bibelli neu geblau sydd wedi claddu oddi tanynt. Mae croesfan cerbyd yn eich galluogi i basio’n ddiogel o’r gerbytffordd, gan atal unrhyw rwystr i’r briffordd. Gallwn hefyd benderfynu os oes angen diogelu celfi stryd yn agos at y fynedfa, un ai drwy symud neu wella offer presennol.

C2  Faint yw’r gost am wneud cais?

Cyfanswm cost gwneud cais yw £150, sy’n cynnwys y broses weinyddu ac archwilio.

Anfonwch daliad am y ffi gyda’ch cais terfynol os gwelwch yn dda.

C3  A all unrhyw un adeiladu croesfan cerbyd?

Mae’n rhaid i’r rhai sy’n dymuno adeiladu croesfan cerbyd ddefnyddio contractwr cymeradwy. Mae gan gontractwr cymeradwy achrediad gwaith stryd yn unol â Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus am o leiaf £5 miliwn.

Mae’n drosedd gwneud unrhyw waith ar draffordd gyhoeddus heb ganiatâd penodol gennym. Bydd croesfannau cerbyd heb awdurdod yn achosi i’r droetffordd waethygu a golygu risg i’r rhai sy’n defnyddio’r droetffordd.

Gallwn gyflenwi rhestr contractwyr sydd wedi gwneud gwaith yn flaenorol yn Sir Fynwy gyda’r dogfennau perthnasol, ond cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwirio fod eu contractwr yn un sydd wedi’i gymeradwyo.

Contractwyr Lleol (Nid yw hon yn rhestr gyflawn)

Monmouthshire Driveways                     

Lindys Barn, Mathern, NP16 6JD

01291 621200

07 967490047

ALD Plant Hire & Civil Engineering

Llandeilo Bertholau, Y Fenni NP7 6PA

01873 855431

Lewis & Logan        

Inglebrook, Heol Aberhonddu, Crucywel NP8 1SE

01873 810653

Gwasanaethau Pibellau ac Adeiladu Saldo

Depo Malpas oddi ar Heol Malpas, Casnewydd NP20 5PP

01633 858960

01633 855401

Chepstow Surfacing and Landscaping

Brookfield Lodge, Mathern NP16 6JP

07791945781

01291650455

Proses gais:

Mae’r dogfennau ar gael fel dogfennau .pdf a .doc y gellir eu lawrlwytho islaw. Byddwch angen Adobe Reader a Microsoft Word i’w hagor.

canllawiau a gweithdrefn

ffurflen gais ragarweiniol 

gweithdrefn apêl croesfan troetffordd/ymyl ffordd

Contractwyr Lleol (Nid yw hon yn rhestr gyflawn)

Monmouthshire Driveways                     

Lindys Barn, Matharn, NP16 6JD

01291 621200

07 967490047

ALD Plant Hire & Civil Engineering

Llandeilo Bertholau, Y Fenni NP7 6PA

01873 840478

Lewis & Logan        

Inglebrook, Heol Aberhonddu, Crucywel NP8 1SE

01873 810653

Gwasanaethau Pibellau ac Adeiladu Saldo

Depo Malpas oddi ar Heol Malpas, Casnewydd NP20 5PP

01633 858960

01633 855401

Gofyn i ni gysylltu â chi:

Os dymunwch i aelod o’r tîm gysylltu â chi, rhowch eich manylion cyswllt yn y ffurflen islaw os gwelwn yn dda a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sy’n bosibl.