Skip to Main Content

Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.

Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau AppleAndroid a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.

Y gwasanaeth sŵn

Mae gan Adran Iechyd yr Amgylchedd bwerau cyfreithiol i ddelio gyda rhai problemau sŵn a gall ddelio gyda chwynion am sŵn o amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys:

  • Ffynonellau domestig e.e. cŵn yn cyfarth, cerddoriaeth uchel, sŵn DIY
  • Ffynonellau diwydiannol e.e. gwyntyllau swnllyd, generaduron
  • Ffynonellau masnachol e.e. sŵn adloniant
  • Safleoedd adeiladu e.e. sŵn gwaith adeiladu/dymchwel
  • Synau neilltuol ar strydoedd o gerbydau, peiriannau ac offer

Yn ogystal â delio gyda chwynion am sŵn rydym hefyd yn gwneud llawer o waith ataliol i atal sŵn rhag digwydd, yn cynnwys:

  • Asesu effaith sŵn datblygiadau newydd dan y system Rheoli Datblygu [Cynllunio]
  • Ymgyrchoedd addysgol e.e. wythnos Ymwybyddiaeth Sŵn
  • Trwyddedu adloniant cyhoeddus i reoli sŵn o ddigwyddiadau adloniant cyhoeddus neilltuol

Dylai eich cwyn gynnwys yr wybodaeth ddilynol:

  • Eich enw a’ch cyfeiriad a (lle’n bosibl) rif ffôn yn ystod y dydd
  • Y cyfeiriad (neu safle) y mae’r sŵn yn dod ohono a’r math o sŵn
  • Pryd ac am ba mor hir mae’r sŵn yn digwydd
  • Sut mae’r sŵn yn effeithio arnoch (e.e. eich rhwystro rhag cysgu).
  • Unrhyw beth yr ydych wedi’i wneud i geisio delio gyda’r broblem (e.e. siarad gyda’r person sy’n gwneud y sŵn).
  • Unrhyw wybodaeth ar fanylion y landlord [os yn berthnasol].

Pan dderbyniwn eich cwyn, efallai y bydd yn rhaid i ni ofyn i chi am fwy o wybodaeth os nad yw’r holl fanylion angenrheidiol gennym. Gofynnir i chi gadw cofnod o ymyriadau a brofwch drwy gyfnod ein hymchwiliad.

Byddwn yn dweud wrthych os yw’r broblem yn gyfrifoldeb asiantaeth arall.

Dalier sylw: Caiff cwynion am sŵn gan denantiaid Cymdeithas Tai eu trin mewn partneriaeth gyda’r Gymdeithas Tai berthnasol.

Sŵn o larymau lladron

Cawn gwynion bob blwyddyn am larymau lladron yn canu ac mae’r mwyafrif helaeth yn canu ar gam. Bydd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol troi larwm i ffwrdd os ystyrir ei bod yn achosi niwsans. Bydd yn rhaid i berchennog neu breswylydd y tŷ dalu am y gost yma a gall y bil fod yn gannoedd o bunnoedd.

Dylech wirio bod dyfais torri-ffwrdd 20 munud ar y larwm. Fodd bynnag, gall hyd yn oed y systemau larwm yn y cyflwr gorau ddatblygu namau. Gallwch ein helpu, ac efallai arbed swm sylweddol o arian i’ch hunan drwy fod â rhywun arall i gadw allwedd drosoch. Os gadewch i ni wybod pwy yw’ch deiliaid allwedd, gallwn gysylltu â nhw i droi’r larwm  i ffwrdd gyda llai o drafferth.

Sŵn o dân gwyllt

Mae’r gyfraith am dân gwyllt wedi newid gyda Deddf Tân Gwyllt 2003 a rheoliadau a wnaed wedyn sy’n gosod cyfyngiadau newydd ar ddefnyddio tân gwyllt. Mae’r Ddeddf yn dweud na fydd neb yn defnyddio tân gwyllt oedolion yn ystod oriau’r nos rhwng 11pm a 7am heblaw ar yr achlysuron dilynol: Amserau pan ganiateir tân gwyllt yn hwyr y nos:

11pm – 1am ar y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
11pm – 12am ar 5 Tachwedd
11pm – 1am ar Diwali
11pm – 1am ar Nos Calan

Nid yw’r Cyngor yn debygol o ystyried bod digwyddiad gwaith tân ‘unwaith yn unig’ yn ystod oriau a ganiateir yn gwarantu ymchwiliad niwsans sŵn. Fodd bynnag cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd i drafod os yw’ch cymdogion yn tanio tân gwyllt yn gyson a bod hyn yn ymyrryd arnoch ac yr ystyriwch fod hyn yn afresymol.

Sŵn na allwn ddelio gydag ef

Nid oes gennym bwerau cyfreithiol i ddelio gyda rhai mathau o niwsans sŵn. Caiff y rhain eu trin gan yr asiantaethau fel sy’n dilyn:

Sŵn traffig awyr:
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Is-adran Hedfan a’r Amgylchedd, 1/33 Great Minister House, 76 Marsham Street, Llundain SW1P 4DR Ffôn: 0300 330 3000 Ffacs: 020 7944 2191

Sŵn awyrennau milwrol:
Y Weinyddiaeth Amddiffyn, DAS 4(Sec), Room 8249, Main Building, Whitehall, Llundain SW1A 2HB Ffôn: 020 7218 6020

Sŵn stryd a achosir gan blant yn chwarae, gweiddi ac yn y blaen.

Eich Sylwadau

Mewngofnodwch i roi eich sylwadau.