Skip to Main Content

Gwasanaeth rheoli llygredd

Mae gan y gwasanaeth rheoli llygredd gyfrifoldeb yn Sir Fynwy lle mae risg i iechyd dynol.

Mae’r categorau o reoli llygredd y mae Adran Iechyd yr Amgylchedd yn ymwneud â hwy yn cynnwys:

Llygredd Diwydiannol (LAPPC)

Mae hyn yn ymwneud â gweithredu Rheoliadau Caniatâd Amgylcheddol 2010 a Deddf Rheoli Llygredd 1999 yn niwydiannau Rhan A2 a Rhan B. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu’r ddeddfwriaeth mewn diwydiannau Rhan A. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu’r ddeddfwriaeth mewn diwydiannau Rhan B. Caiff allyriadau llygredd eu rheoli yn y busnesau drwy ddefnyddio caniatâd amgylcheddol.

Ansawdd aer

Mae hyn yn ymwneud â monitro ansawdd aer yn Sir Fynwy i sicrhau ei fod yn cyflawni’r Amcanion Ansawdd Aer ar gyfer y saith prif lygrydd. Caiff y rhain eu cyhoeddi yn Strategaeth Genedlaethol y Deyrnas Unedig ar Ansawdd Aer. Cymerir camau gweithredu pellach os ymddengys nad oes unrhyw un o’r saith amcan yn cael eu cyflawni. Ar hyn o bryd nid yw dwy ardal yn y Sir yn cyflawni’r amcan Nitrogen Deuocsid.

Tir halogedig

Mae hyn yn ymwneud â gweithredu deddfwriaeth ar dir halogedig dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae’r dyletswyddau’n ymwneud â dynodi tir sydd wedi’i halogi ar hyn o bryd dan Ran IIa Deddf Diogelu’r Amgylchedd a gweithio gydag Adran Gynllunio’r cyngor i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr, sy’n dymuno datblygu ar dir a allai fod yn halogedig, i gynnal ymchwiliadau safle ac adfer tir cyn adeiladu.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd.