Skip to Main Content

Galw pawb sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Fynwy

Sut mae pandemig Covid wedi effeithio arnoch chi?

Sut wnaethoch chi ymdopi? Beth fu’n ddefnyddiol? A ydych yn dal i fod angen gwybodaeth neu gymorth?

Mae mudiadau iechyd, gofal cymdeithasol a lles lleol yn awyddus i ganfod beth fyddai’n ddefnyddiol yn y dyfodol ar gyfer pobl sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Fynwy.

Rydym yn cynnal sesiwn Cwestiwn ac Ateb

ar-lein am 10.00am – 12.00pm ddydd Mercher 21

Gorffennaf a byddem yn croesawu eich profiadau ac awgrymiadau.

Cymerwch ran ac ymuno â ni drwy glicio ar y ddolen islaw.

Gosod Microsoft Teams

Os  ydych yn bwriadu ymuno â ni ar liniadur neu gyfrifiadur personol, gallwch glicio ‘Join Meeting’ lle gallwch weld y digwyddiad drwy’r porwr gwe. Fodd bynnag, os bwriadwch ymuno yn defnyddio ffôn clyfar neu ddyfais dal mewn llaw, bydd angen i chi osod ap Microsoft Teams am ddim cyn amser y digwyddiad.

I wneud hyn, ewch i’ch Stôr Apiau / Google Play Store a chwilio am Microsoft Teams. Gallwch wedyn lanlwytho a gosod yr ap ar eich dyfais. Pan gliciwch ar un o’r tri botwm ‘Join Meeting’, dylai’r digwyddiad fel arfer agor yn awtomatig  yn eich ap Microsoft Teams. Gallwch wedyn gyflwyno cwestiynau i’n cyflwynwyr yn ystod y digwyddiad.