Skip to Main Content

Safle coetir yn Thornwell yw hwn, ar ymyl de-ddwyreiniol Cas-gwent. Mae golygfeydd trawiadol o ben y clogwyni yn rhan isaf ceunant Afon Gwy. Mae Parc Redding yn naill ai yn wastad neu’n graddol ddisgyn i’r de-ddwyrain, tra bod Warren Slade yn disgyn yn sylweddol i’r gogledd-orllewin. Mae’r safle yn rhoi mynediad i ddarnau o lwybrau newydd a fydd yn y pen draw yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Gellir ei gyrraedd ar droed o ganol tref Cas-gwent.

Mae’r safle wedi’i leoli oddi ar Ffordd Dinbych, Thornwell, Cas-gwent (Cyfeirnod Grid ST 541 920). Mae parcio ar y fordd ger mynedfa’r safle. Mae gwasanaeth bws yn rhedeg ar Ffordd Dinbych. Cysylltwch â Traveline am ragor o fanylion, trwy ffonio 0871 200 22 33.