Skip to Main Content

Lleolir Castell Cil-y-coed mewn gerddi hardd a thawel ymhlith coed niferus parc gwledig. Ar ôl iddo gael ei sefydlu gan y Normaniaid, cafodd castell yr Oesoedd Canol ei ddatblygu mewn dwylo brenhinol fel cadarnle. Canrifoedd wedyn, yn yr oes Fictoria, cafodd ei adfer fel cartref teuluol. Nid oes amheuaeth bod gan y castell hanes rhamantus a lliwgar.

Gallwch ymgolli yn awyrgylch gorffennol cyffrous y castell gyda thywysydd sain sy’n hawdd ei ddefnyddio ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Archwiliwch y tyrau canoloesol a mwynhau’r golygfeydd syfrdanol wrth grwydro ar hyd y murfylchau. Mwynhewch gêm hamddenol o wyddbwyll neu ddrafftiau, gan ddefnyddio darnau chwarae mawr, neu ymlaciwch yn y gerddi a’r tir o amgylch y castell.

Ymwelwch â’r Tyrau Babanod, lle mae chwarae meddal a theganau cadarn ar gael (mewn tywydd da) mewn ardal ddiogel ar lawnt y castell. Yn addas ar gyfer babanod ac y rhai dan bump oed.

Yn y Man Gweithgareddau, gall plant liwio lluniau o’r castell, darllen llyfrau lluniau, a chwarae gyda’r set mawr Pedwar mewn Rhes.

Mae man chwarae traddodiadol i blant yn cynnig cyffro ac antur i blant o bob oed mewn amgylchedd diogel sy’n agos i feysydd parcio.

Mae Siop y Castell yn stocio amrywiaeth o anrhegion, llyfrau, teganau a chofroddion o ansawdd uchel, ac mae’r Ystafell De yn gwasanaethu lluniaeth ysgafn. Mae’r Parc Gwledig yn cynnig byrddau picnic, aelwydydd barbeciw a theithiau cefn gwlad mewn 55 erw o goetiroedd a glastiroedd hardd.

Mae rhaglen fywiog o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn. Mae’r safle yn cynnig parcio am ddim a thoiledau ac yn croesawu archebion gan grwpiau a sefydliadau addysg.

Castell Cil-y-coed
Heol yr Eglwys
Cil-y-coed
Sir Fynwy
NP26 4HU

Ffôn: 01291 420241
Ffacs: 01291 435094
E-bost: caldicotcastle@monmouthshire.gov.uk

Oriau agor:

Rydym ar agor 6 diwrnod yr wythnos (dim dyddiau Llun heblaw Gwyliau Banc) (amodol ar ddigwyddiadau preifat a hysbysebir) rhwng mis Ebrill – diwedd mis Medi. Ein horiau agor arferol yw 11 i  4pm tu allan i wyliau ysgol a 11 i 5.00pm yn ystod gwyliau ysgol.