Skip to Main Content

Carfan: Alpha

Sefydliad: Bro Morgannwg, Caerdydd, Casnewydd a Thorfaen

1. Beth oedd yr her gyffredinol?

Mae Datblygu Cymunedol yn Seiliedig ar Asedau (DCSA) yn rhoi cymunedau wrth wraidd y broses datblygu cymunedol, gan adeiladu newid cymunedol cadarnhaol drwy ganolbwyntio ar ‘beth sy’n gryf, nid beth sy’n anghywir’. Yr her i staff awdurdodau lleol sy’n gweithio ar y prosiect hwn oedd ymgorffori DCSA fel dull cyson o ddatblygu cymunedol ar draws awdurdodau lleol Bro Morgannwg, Casnewydd a Chaerdydd, ac adeiladu ar enghreifftiau o arfer gorau a oedd eisoes yn bresennol.

2. Pa agweddau ar yr her yr ymdriniwyd â hwy yn yr arbrawf (y cwestiwn/cwestiynau ymchwil)?

Drwy archwilio’r mater o fewn eu meysydd arbenigedd a’u cylch gwaith eu hunain, creodd tîm y prosiect gyfres o safbwyntiau unigryw ynghylch sut y gellid defnyddio’r dull DCSA, a’r manteision y gellid eu hennill o ymgorffori’r dull hwn yn eu gwaith.

Archwiliodd un swyddog cysylltiol sut yr oedd DCSA yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â chasglu data, un arall yn canolbwyntio ar sut y gellid defnyddio DCSA i gefnogi lleoliadau diwylliannol, ac archwiliodd dau sut y gallai’r awdurdod ddatblygu ffordd o gyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda dinasyddion a fyddai’n cefnogi gwelliant mewn cymunedau ac yn caniatáu i unigolion ffynnu.

3. Beth a wnaed i fynd i’r afael â’r her?

Er bod ffocws pob un o’r arbrofion yn amrywio, mabwysiadodd y tîm ddulliau tebyg o fynd i’r afael â’u cwestiwn ymchwil. Roeddent i gyd yn defnyddio ymarferion ymchwil desg a chwmpasu er mwyn archwilio ystod o fodelau sydd wedi’u gweithredu mewn meysydd eraill a allai fod yn berthnasol i’w hawdurdod. Roedd hyn yn caniatáu i’r swyddogion cysylltiol nodi dulliau posibl y gallai’r awdurdod eu mabwysiadu a’u profi gyda’r rhanddeiliaid allweddol yn eu sgyrsiau. Ymgymerwyd â chydweithrediad mewnol ag adrannau a thimau allweddol o fewn awdurdodau lleol gan y swyddogion cysylltiol mewn perthynas â’r gwaith hwn, ac roedd swyddogion cysylltiol hefyd yn gysylltiedig â grwpiau allanol ac ymarferwyr DCSA i ychwanegu dyfnder i’w hymchwil.

Roedd y swyddog cysylltiol sy’n canolbwyntio ar ddata hefyd yn dadansoddi dull yr awdurdod o gasglu gwybodaeth, a sut y gellid gwella hyn i fodelu’r dull ‘DCSA’ neu ymgorffori dulliau o fesur ystyrlon. Yn ddiddorol, nid oedd y dadansoddiad data yn canolbwyntio ar y data a oedd gan yr awdurdod, ond yn hytrach ar y mathau o gwestiynau a ofynnwyd a beth a wnaed gyda’r wybodaeth a dderbyniwyd.

4. Pa agweddau ar Infuse oedd fwyaf defnyddiol wrth fynd i’r afael â’r her?

Roedd sesiynau Cymunedau Cefnogol y Lab Addasu ar gyfer Carfan Alpha yn canolbwyntio ar waith Cydweithredol i Fyny’r Afon Nesta, a’r llawlyfr Modelau Gweithredu Newydd. Roedd y sesiynau hyn yn arbennig o ddefnyddiol i’r swyddogion cysylltiol sy’n gweithio ar y prosiect hwn gan mai un o’r ‘Modelau Gweithredu Newydd’ a ddisgrifir yn y llawlyfr yw’r DCSA. Yn y sesiynau, rhannwyd dysgu ynghylch sut y datblygwyd y dull DCSA mewn mannau eraill a pha effaith y mae wedi cyflawni.

Un offeryn allweddol a ddefnyddiwyd gan bob swyddog cysylltiol ar y prosiect hwn oedd mapio rhanddeiliaid, a helpodd i nodi’r bobl fwyaf perthnasol i ymgysylltu, a chynllunio ymgysylltiad effeithiol â hwy. Yna, roeddent yn gallu creu siart Gantt er mwyn plotio camau gweithredu a cherrig milltir y prosiect.

Roedd y ‘Double Diamond’ (model proses ddylunio a ddatblygwyd gan Gyngor Dylunio Prydain) hefyd yn arf defnyddiol iawn ar gyfer ‘strwythuro’ y dull gweithredu. Yn benodol, rhoddodd y cyfnod darganfod gyd-destun i’r gwaith. Roedd swyddogion cysylltiol hefyd yn ei chael yn haws cael caniatâd i wneud gwaith darganfod yn hytrach na gofyn am wneud newidiadau sylweddol ym model gweithredu’r awdurdodau.

Roedd cael nifer o gyfoedion i weithredu fel pwyntiau sicrwydd hefyd yn fuddiol ochr yn ochr â’r mynediad at arbenigedd academaidd sydd wedi parhau y tu hwnt i’r arbrofion.

5. Beth oedd y prif wersi a ddaeth o’r cydweithio?

Un o’r prif wersi ar gyfer cydweithio yw y gall tîm weithio ar is-gwestiynau dirnadol o dan brif gwestiwn ymchwil a chyflwyno canfyddiadau sydd â gwerth unigol i’r awdurdodau lleol sy’n ymwneud yn uniongyrchol, yn ogystal â gwerth ehangach i bob awdurdod lleol gan ei fod yn cyfrannu at sylfaen ymchwil eang ar DCSA.

Cryfder pellach i’r dull hwn oedd ei fod yn caniatáu i bob aelod o’r tîm fynd ar drywydd yr her fwyaf priodol ar gyfer sefyllfa a blaenoriaethau eu hawdurdod priodol, wrth dderbyn adborth a chefnogaeth yr aelodau eraill.

6. Canfyddiadau allweddol

Roedd rhai canfyddiadau allweddol yn ymwneud â’r holl brosiectau a rhai a oedd yn benodol i’r maes penodol a oedd yn cael ei archwilio. Mae’r rhain i’w gweld isod.

Nid oedd dealltwriaeth gyson o’r hyn y mae dull DCSA yn ei olygu o fewn ac ar draws cynghorau ac felly roedd angen trosi hyn yn iaith fwy cyfarwydd i bawb ei deall. Canfu swyddogion cysylltiol, drwy gael sgyrsiau ar draws nifer o adrannau a defnyddio iaith hygyrch, ei bod yn bosibl nodi amrywiaeth eang o ddulliau DCSA sydd eisoes yn bodoli yn yr awdurdodau.

Mae newid diwylliannol fel hyn yn cymryd amser i ymsefydlu mewn awdurdod. Mae’n gofyn am ewyllys gref gan uwch arweinwyr, ac fel arfer mae angen uwch arweinydd penodol i hyrwyddo newid i’r ffordd hon o weithio, gyda chefnogaeth

swyddogion da a seilwaith cadarn i ganiatáu’r newid hwn. Dylai awdurdodau sydd am ymgorffori dull DCSA yn eu gwaith gydnabod bod hon yn her uchelgeisiol ac i beidio â disgwyl y bydd unrhyw atebion cyflym. Fodd bynnag, mae rhai ‘enillion cyflym’ ar hyd y ffordd os yw’r rhanddeiliaid cywir yn ‘prynu i mewn’ i’r broses.

Mae gan ddull a arweinir gan DCSA o ail-adeiladu ar ôl y pandemig y potensial i gefnogi adferiad economaidd cryf. Gall awdurdodau lleol chwarae rôl ‘creu’r farchnad’ allweddol i fynd i’r afael â sefyllfa lleoliad diwylliannol sy’n methu, naill ai drwy ddefnyddio asedau sy’n bodoli eisoes ac nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol neu gaffael asedau eraill a’u defnyddio i wella’r amodau economaidd a chymdeithasol mewn cymunedau lleol.

Gall adeiladau cyhoeddus yng nghalonnau cymunedau ddarparu lle hanfodol a fforddiadwy ar gyfer cymdeithasu, gweithgarwch cymunedol a gwaith creadigol cydweithredol. Dywedodd un swyddog cysylltiol fod deall nad yw llawer o adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor byth yn cyflawni’r potensial hwn yn bwynt dysgu personol iddynt. Roedd myfyrdodau allweddol mewn perthynas â’r lens casglu data ar DCSA yn cynnwys bod y dull o gasglu data yn aml yn ‘seilo’ ac nad yw’n cydnabod bod pobl yn rhan o gymuned ehangach. Dylid cynllunio cwestiynau a ofynnir mewn ymarferion casglu data’n ofalus, a chymryd gofal i reoli disgwyliadau yn hytrach na chodi disgwyliadau, ac mae’n bwysig casglu gwybodaeth mewn ffordd ystyrlon sy’n gwneud y broses yn werth chweil.

7. Y camau nesaf

Mae’r gwahanol awdurdodau dan sylw yn parhau i ymchwilio i’r mater, ac maent yn cymryd eu camau nesaf eu hunain o fewn eu sefydliadau i ymgorffori’r dull gweithredu.

Tynnodd un swyddog cysylltiol sylw at y ffaith y bydd angen ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i egluro ymhellach y cymorth sydd ei angen ac adeiladu partneriaethau a all helpu i gynnal a chreu lleoliadau diwylliannol yn yr awdurdod.

Roedd angen ystyried sut i fodelu a datblygu dulliau o gasglu gwybodaeth yn well, ac roedd angen cytuno ar sut i fabwysiadu rhai o’r dulliau hyn fel arfer cyffredin, a’u hymgorffori fel arfer safonol.

Y cam nesaf allweddol fydd cynnal gweithdy DCSA ar gyfer y rhanddeiliaid a nodwyd ac archwilio ffordd o ymgorffori’r dull DCSA ar draws yr awdurdodau a’r ffordd orau o gydweithio i’w gyflawni.