Skip to Main Content

Carfan: Alpha

Sefydliad: Cyngor Sir Fynwy

1. Beth oedd yr her gyffredinol?

Mae codi ymwybyddiaeth o sut y gall unigolion ddeall eu heffeithiau carbon, a chymryd camau uniongyrchol i’w lleihau, yn anodd. Gall hyfforddiant llythrennedd carbon helpu i fynd i’r afael â hyn, ac mae eisoes yn cael ei gyflwyno i staff ar draws rhanbarth Gwent. Ceisiodd y prosiect hwn brofi a ellid darparu’r hyfforddiant llythrennedd carbon yn ehangach ac yn gynaliadwy gan ddefnyddio model “hyfforddi’r hyfforddwr”.

2. Pa agweddau ar yr her yr ymdriniwyd â hwy yn yr arbrawf (y cwestiwn/cwestiynau ymchwil)?

Ceisiodd y prosiect fynd i’r afael â dau gwestiwn:

Beth yw’r rhwystrau i weithredu a chynaliadwyedd y model darparu cymunedol?

Pa gamau lliniaru y gellir eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn?

3. Beth a wnaed i fynd i’r afael â’r her?

Ffocws cyffredinol y prosiect oedd archwilio sut ac a ellid cynnal y rhaglen hyfforddiant llythrennedd carbon y tu hwnt i hyd oes arfaethedig y prosiect, drwy nodi rhwystrau i weithredu’r model “hyfforddi’r hyfforddwr” a mesurau i liniaru’r rhwystrau hynny a nodwyd.

Gweithiodd y swyddog cyswllt sy’n rheoli’r prosiect yn fewnol gydag aelodau o’r tîm caffael a chynaliadwyedd er mwyn archwilio’r rhwystrau posibl i ddarparu’r hyfforddiant. Er eu bod yn hyderus yn y model cyflenwi cymunedol, roeddent yn cydnabod bod perygl y byddai aelodau’r gymuned yn amharod neu’n methu neilltuo’r amser i weithredu’r dull ‘hyfforddi’r hyfforddwr’. Felly, roeddent yn ystyried sefyllfa ‘syrthio’n ôl’ i ddarparu ail linell o staff cyflenwi Cyngor Sir Fynwy a fyddai’n cael eu hyfforddi i ddarparu’r dull ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ angenrheidiol. Bydd y staff hyn wedyn yn dod yn ‘ddylanwadwyr’ i staff a rhanddeiliaid mewnol, wrth hefyd fod mewn sefyllfa i ail-ysgogi cymunedau i gyrraedd targed net sero carbon 2030.

Defnyddiodd y tîm ymarferion personâu a theithiau defnyddwyr i nodi lleoliadau hyfforddiant y byddai aelodau’r gymuned yn teimlo’n gyfforddus yn eu defnyddio ac eisiau eu mynychu. Nodwyd dros 80 o gyfleusterau cymunedol addas.

Mae’r cyswllt bellach yn gweithio gyda’r tîm caffael i sicrhau gwasanaethau darparwr cydnabyddedig i ddarparu cam un yr hyfforddiant. Gan ddefnyddio cyflwyniadau yn y labordy caffael, roedd y tîm yn awyddus i sicrhau bod yr arfer caffael yn cyd-fynd â’u gyrwyr polisi cenedlaethol a lleol a byddant yn aros yn unol â’u gwerthoedd corfforaethol. Drwy eu harferion caffael maent hefyd yn archwilio sut i wneud y mwyaf o werth cymdeithasol y prosiect i’r cymunedau lleol a sicrhau eu bod yn berchen ar y newidiadau y byddant yn cael eu galluogi i’w gwneud.

4. Pa agweddau ar Infuse oedd fwyaf defnyddiol wrth fynd i’r afael â’r her?

Defnyddiodd y prosiect nifer o offer a gyflwynwyd drwy Infuse, gan gynnwys personâu defnyddwyr, teithiau defnyddwyr a mapio rhanddeiliaid, i ystyried sut yr oedd unigolion a chymunedau yn debygol o gael mynediad at yr hyfforddiant a chymryd rhan ynddo. Roedd y rhain i gyd yn helpu i wreiddio’r dyluniad, sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, er mwyn cyflawni’r prosiect. Un o effeithiau mwy arwyddocaol Infuse ar y cyswllt sy’n arwain y gwaith hwn oedd yr ysbrydoliaeth a’r ymdeimlad o rymuso a gafwyd o sesiynau ‘cyflymu datgarboneiddio’ Infuse, gan arwain at sylweddoli y gallent chwarae rhan uniongyrchol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy eu gwaith eu hunain.

5. Beth oedd y prif wersi a ddaeth o’r cydweithio?

Roedd y prosiect hwn yn gydweithrediad mewnol rhwng y tîm cymunedol, y swyddogaeth gaffael a chydweithwyr cynaliadwyedd. Drwy ddod â’r gwahanol adrannau hyn at ei gilydd, roedd y prosiect yn gallu deall gwahanol anghenion pob maes gwasanaeth yn well a chydweithio’n effeithiol i sicrhau’r budd mwyaf i’r gymuned tra’n gwneud y defnydd gorau o adnoddau’r cyngor.

6. Canfyddiadau allweddol

Y canfyddiad allweddol o’r arbrawf hwn oedd y gall cydweithredu mewnol ar draws adrannau ddarparu safbwyntiau gwahanol sy’n cyfuno i gynllunio a chyflawni prosiect mwy effeithiol. Cafwyd rhai canfyddiadau diddorol hefyd ar gyfer y rhaglen Infuse yn ehangach o ganlyniad i’r arbrawf hwn. Mae’r rhain yn cynnwys nodi’n glir sut y gall dysgu o Infuse ysbrydoli unigolion i ailystyried yr hyn y maent yn ei wneud yn eu rolau eu hunain i fynd i’r afael â’r agenda datgarboneiddio. Yn gysylltiedig â hyn, canfuwyd bod Infuse yn darparu offer sy’n rhoi’r defnyddiwr wrth wraidd dyluniad y prosiect ac yn helpu i greu disgwyliadau ac allbynnau mwy realistig.

7. Y camau nesaf

Mae’r tîm bellach yn symud o’r elfen gaffael i agwedd cyflawni’r rhaglen. Maent wedi datblygu fframwaith monitro i fesur effaith y prosiect wrth iddo gael ei gyflwyno ac mae ganddynt nifer o fesurau lliniaru ar waith i ailadrodd y gweithredu os nad yw’r prosiect yn mynd fel y rhagwelwyd yn wreiddiol. Mae eu gwaith arloesol ar Lythrennedd Carbon yn y gymuned hefyd wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol ac fe’u gwahoddwyd i gyflwyno ar ddiwrnod gweithredu llythrennedd carbon COP26 – https://events.zoom.us/e/view/QouiNtKjSWGHLsB8XptM-Q?id=QouiNtKjSWGHLsB8XptM-Q