Skip to Main Content
infuse logo

Beth oedd yr her gyffredinol?

Fel mewn llawer o Gynghorau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae staff Sir Fynwy angen mynediad at geir i gyrraedd apwyntiadau, boed hynny’n archwilio seilwaith ac asedau, neu’n cyfarfod â defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau’r cyhoedd. Y ffordd symlaf o wneud hyn ers tro yw eu had-dalu am ddefnyddio eu ceir eu hunain. Fodd bynnag, mae llawer o’r milltiroedd a wneir gan y ‘fflyd lwyd’ yn cael eu cwblhau mewn cerbydau petrol a diesel sy’n anghydnaws â thargedau Sero Net Awdurdodau Lleol ac maent yn ddrud i’w gweinyddu. Y datrysiad y mae Hazel yn ei archwilio, fel llawer o staff Awdurdodau Lleol eraill ledled y DU, yw symud i gerbydau sy’n eiddo i’r Cyngor y mae staff yn medru eu casglu a’u dychwelyd yn ôl yr angen.

Pa agweddau ar yr her gafodd sylw yn yr arbrawf (cwestiwn/cwestiynau ymchwil)?

Yr ansicrwydd allweddol a nodwyd gan Hazel oedd lle y dylid parcio’r cerbydau ‘cronfa’ yn y Sir i wneud y defnydd gorau ohonynt fel bod modd sicrhau’r gostyngiadau mwyaf mewn allyriadau ac arbed costau. Roedd hi hefyd eisiau darganfod pa rannau o’r Cyngor oedd yn hawlio’r mwyaf.

Beth a wnaed i fynd i’r afael â’r her?

Mae Hazel wedi ymgysylltu â nifer o dimau mewnol gan gynnwys trafnidiaeth, datgarboneiddio, polisi a thimau gyda defnyddwyr trwm posibl o geir personol. Roedd arafu ei chyflymder wedi caniatáu iddi archwilio ei her yn llawn, sicrhau ei bod yn datrys y broblem gywir ac adeiladu ar waith blaenorol a wnaed yn y maes hwn.

“Roedd hefyd yn anhygoel cael yr amser a’r lle i feddwl yn ddyfnach am rai o’r heriau sy’n ein hwynebu yn ein sefydliadau – mae’n anghyffredin iawn cael yr amser a’r lle hwn i feddwl yn ofalus a chynllunio gwaith o ddydd i ddydd… nid yw’r amser gennym (neu nid ydym yn neilltuo’r amser) ac rydym fel arfer yn tueddu i neidio i atebion heb ddeall yr her yn llawn yn gyntaf.”

avatar

Hazel Clatworthy,

Cyngor Sir Fynwy

Bu hefyd yn gweithio gydag adran Adnoddau Dynol y Cyngor i gael mynediad at y data cywir i ateb ei chwestiwn. Gan ddarganfod efallai na fyddai’r data hwn yn ateb llawer o’i chwestiynau, a chanfod bod arolwg trafnidiaeth mewnol ar fin cael ei lansio, helpodd Hazel ei lunio fel y gallai ategu ei gwybodaeth.

Pa agweddau o Infuse oedd fwyaf defnyddiol wrth fynd i’r afael â’r her?

Roedd yr amser a’r lle i feddwl drwy ei her a ddarparwyd gan Infuse yn rhywbeth a oedd yn ddefnyddiol iawn i Hazel. Mae’n caniatáu iddi ddeall ei her yn llawn cyn gwneud penderfyniadau, yn hytrach na neidio i gasgliadau.

Mae hi hefyd wedi canfod fod yr offer yn y labordy data yn ddefnyddiol. Fe wnaeth y cysyniad o aeddfedrwydd data ei helpu i fabwysiadu’r dull cywir ar gyfer ei harbrawf, pan nad oedd ansawdd y data ‘gystal â’r hyn a ddymunwyd. Defnyddiodd hefyd Stori Gweithredu Data a methodoleg canlyniadau LOTI i gadw ffocws pan gododd materion diddorol a heriol a oedd y tu hwnt i sgôp ei harbrawf.

Ysgrifennodd Hazel y Stori Gweithredu Data ganlynol:

“Petaem ond yn gwybod ble mae’r sawl sy’n hawlio’r milltiroedd mwyaf yn byw, ble mae eu swyddfeydd ac i ble maent yn teithio, gallem nodi’r lleoedd gorau i leoli cerbydau trydan sy’n rhan o’r gronfa geir, fel bod y staff sy’n teithio fwyaf yn gallu benthyca’r cerbydau hynny’n hawdd ac felly’n lleihau’r nifer o filltiroedd llwyd, gan arbed arian a charbon i’r Cyngor.”

Ysgrifennodd y canlynol am yr offer a ddaeth o’r Labordy Data:

“Mae’r Stori Gweithredu Data, ystyriaeth o foeseg data, model LOTI, templed cynllunio data a syniadau ar gyfer delweddu data, oll wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth fy helpu i feddwl yn ofalus pa ddata sydd ei angen arnaf, pam fod angen y data arnaf, sut i’w gael a sut ydw i’n ei ddadansoddi a’i gyflwyno. Mae risg y gallai’r prosiect hwn grwydro oddi ar y dasg yn hawdd a mynd yn rhy fawr ac na ellir ei reoli, gan fod cymaint o bethau diddorol y gellid eu gwneud gyda data, ac felly, mae’r offer hyn wedi fy helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen arnaf a pham.”

Beth oedd y prif wersi o gydweithio?

Roedd Hazel o’r farn ei fod yn ddefnyddiol cymharu a chyferbynnu dulliau o ddatgarboneiddio’r  ‘fflyd lwyd’ gan wahanol Awdurdodau Lleol. Roedd gan Gyngor arall ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd bolisi gwahanol ar gyfer cludo staff a thechnegau casglu data gwahanol a oedd yn caniatáu iddi weld yr hyn yr oedd yn ei wneud. Hefyd, roedd cydweithiwr Infuse yn ystyried mynediad i gerbydau fel ffordd o ddenu a chadw staff, ac felly’n fwy agored i ba fath o gerbyd, neu fudd trafnidiaeth yn gyffredinol, y gellid cynnig.
Yng nghamau nesaf ei harbrawf, bydd Hazel yn archwilio dewisiadau amgen posibl i’r gronfa  geir gyda staff hefyd.

Canfyddiadau Allweddol

Mae Hazel wedi nodi mai cydweithwyr sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd oedd yn hawlio’r lefel uchaf o ‘filltiroedd llwyd’ yn gyffredinol gyda’r cyfanswm hawlio mwyaf fesul cyfarwyddiaeth. O’r 30 cais unigol uchaf am filltiroedd, mae 23 yn y gyfarwyddiaeth honno. O’r gweddill, roedd y rhan fwyaf yn bobl mewn rolau tebyg i ‘arolygydd’, lle y mae ymweliadau safle yn rhan allweddol o’u dyletswyddau ar eu cyfer.

Mae hi hefyd wedi nodi rhai materion cysondeb data yn y ffordd y gwneir honiadau sy’n tynnu sylw at yr angen i ddarparu arweiniad cliriach i wella ansawdd data yn y dyfodol. Roedd gwahaniaethau yn y ffyrdd yr oedd lleoliadau, teithiau a phellteroedd yn cael eu cofnodi er enghraifft. Roedd y gwaith o fapio lleoliadau cartref hefyd wedi amlygu rhai materion ansawdd data’r gyda data cyfeiriadau a gedwir gan y Cyngor.

Ysgogodd yr arbrawf Hazel i gael syniad ehangach o gymhlethdod ceisio cyflwyno cronfa geir. Nid yn unig y mae’n rhaid iddi feddwl sut y gallai eu lleoliad wneud y defnydd gorau posibl ohonynt, ond hefyd a ellir eu lleoli fel y gall staff shifft dydd a nos ddefnyddio’r un ceir. Mae hi wedi bod yn meddwl yn fanylach am sut y gellir gwneud y ceir yn fwy deniadol mewn ffyrdd eraill, i annog newid ymddygiad, gan ei hysgogi i gynllunio sesiwn casglu data ansoddol.

Camau nesaf

Y camau nesaf ar gyfer Hazel yw gweithio gyda chydweithwyr sydd ag arbenigedd mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i ddatblygu mapiau a dangosfyrddau rhyngweithiol i ddangos y data mewn ffordd fwy gweledol, gan ddarparu persbectif newydd ar y data. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws holi ble mae staff yn byw mewn perthynas â ble maent yn gweithio, a ble mae’r sawl sy’n hawlio’r milltiroedd uchaf yn byw er mwyn galluogi unrhyw drafodaethau i gael ei llywio gan ddata. Yna mae hi’n bwriadu cymharu hyn â chanlyniadau sgyrsiau gyda thîm yn fewnol ynglŷn â ble hoffent weld ceir cronfa.

Mae’r Cyngor wedi gosod targed i arbed £100k o’r gyllideb milltiroedd ac mae prosiect Hazel ar fin gwneud cyfraniad mawr at hynny. Ond y tu hwnt i hynny, dyma’r cam cyntaf yn unig mewn symudiad llawer mwy tuag at drafnidiaeth carbon is yn Sir Fynwy. Er mai’r cynllun presennol yw i gerbydau fod yn hybrid o leiaf, unwaith y bydd y seilwaith gwefru yn ei le, bydd y cynllun hwn yn hwyluso’r newid i fflyd drydan gyfan. Hefyd bydd gwaith Hazel yn datgelu materion cysondeb data yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ddeall sut i newid ymddygiad trafnidiaeth ar draws y Cyngor.

Darllenwch fwy >   Darllenwch Lawlyfr Infuse!

infuse logos