Skip to Main Content

Teitl yr astudiaeth achos: Cydweithio yw’r Allwedd ar gyfer Datblygu Sgiliau Datgarboneiddio

Cohort Infuse Carfan: Tri

Heather Richardson (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)

Caroline Millington (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)

Rhian Evans-Mclean (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)

Amy Ryall (Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)

Sarah Williams (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent)

Alyn Jones (Cyngor Sir Fynwy)

Beth oedd yr her gyffredinol?

Mae gan y pedwar Cyngor a gynrychiolir yn y grŵp hwn, fel pob Awdurdod Lleol ledled Cymru, dargedau Sero Net llym. Nododd y chwe aelod o Infuse fod sgiliau yn rhwystr mawr i ddatgarboneiddio. Yn aml mae angen i staff y Cyngor adnewyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth wrth iddynt wynebu heriau newydd, ac rydym wedi gweld cymdeithion yn archwilio gwahanol ffyrdd o fynd i’r afael â’r angen am sgiliau sy’n ymwneud â datgarboneiddio ar draws y pedwar grŵp o Infuse. Mae hyn wedi ymwneud gyda sgiliau technegol sydd yn rhan o’u swyddi, a gwybodaeth fwy generig am dargedau a chynlluniau gweithredu cenedlaethol a lleol.

Mae trigolion lleol yn ddarn arall o’r pos. Mae angen iddynt ddeall yr ystod o lwybrau gyrfa yn economi ddatgarbonedig y dyfodol, o ôl-osod i ynni adnewyddadwy. Mae angen iddynt hefyd ddeall y rhan y gallant ei chwarae trwy ddefnyddio ynni’n effeithlon yn y cartref. Mae angen i drigolion hefyd ddod yn gyfarwydd â thargedau lleol fel y gallant helpu eu Cyngor i flaenoriaethu ac adeiladu caniatâd ar gyfer newidiadau mawr. Gall Awdurdodau Lleol wneud gwahaniaeth i’r rhain i gyd drwy’r hyfforddiant a’r ymgysylltu cymunedol y maent yn ei ddarparu.

Mae Sarah yn crynhoi hyn yn dda, gan ysgrifennu:

“Her fwyaf ein hoes yw newid hinsawdd ac os ydym am atal neu liniaru’r effeithiau parhaus rhag gwaethygu bydd angen i bawb ddod at ei gilydd er mwyn chware eu rhan i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Mae pob pleidlais yn gyson yn dangos bod y cyhoedd am weld gweithredu cyflym, cael eu cefnogi i gymryd eu camau eu hunain, ac i deimlo manteision y gweithredu hwnnw. Mae wedi cael ei gydnabod yn eang y gall Cynghorau chwarae rhan bwysig wrth weithredu ar yr hinsawdd, a hynny  wrth iddynt weithio’n lleol gyda phartneriaid a chael dylanwad dros y sectorau allweddol ynni, tai a thrafnidiaeth.”

avatar

Sarah Williams

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Pa agweddau ar yr her gafodd sylw yn yr arbrawf (cwestiwn/cwestiynau ymchwil)?

Roedd gan rai o’r cymdeithion ddiddordeb mewn deall y bylchau mewn gwybodaeth a sgiliau ymhlith eu cydweithwyr yn yr awdurdod lleol, yn ogystal ag archwilio sut y gallent eu goresgyn. Roedd gan eraill ddiddordeb yn sgiliau a gwybodaeth eu preswylwyr, boed hynny’n meddwl am sut i ymgorffori sgiliau datgarboneiddio mewn hyfforddiant sgiliau sylfaenol, addasu rhaglenni cyflogadwyedd fel eu bod yn barod ar gyfer datgarboneiddio’r economi neu godi ymwybyddiaeth yn ehangach. Roedd rhai o’r cymdeithion eisiau neu angen dylunio eu hyfforddiant eu hunain, tra bod eraill eisiau gwneud yr hyn oedd eisoes ar gael yn fwy hygyrch.

Beth a wnaed i fynd i’r afael â’r her?

Mae’r grŵp hwn wedi canolbwyntio llawer o’u gwaith cynnar ar ymchwil desg ac ymgysylltu mewnol. Roedd angen iddynt ddeall beth oedd yr arferion gorau mewn mannau eraill, beth oedd eisoes yn digwydd neu a oedd eisoes wedi cael ei roi ar brawf o fewn eu sefydliadau eu hunain. Arweiniodd y gwaith hwn at arbrofion llawer mwy penodol.

Maent bellach yn symud ymlaen i ymchwil sylfaenol, gydag arolygon a grwpiau ffocws wedi’u cynllunio i ddeall defnyddwyr eu cynigion hyfforddiant posibl yn gliriach. Mae’r grŵp yn deall yr angen i wneud hyn p’un a ydynt yn archwilio’r bylchau o ran diddordebau a sgiliau cyfranogwyr posibl ar eu cyrsiau – neu eu bod yn ceisio deall beth allai gynyddu’r nifer sy’n dilyn cyrsiau presennol.

Ar ôl elwa o hyfforddiant llythrennedd carbon ymchwil, mae Caroline bellach yn symud ymlaen i weithio gyda darpar gleientiaid hyfforddi i archwilio eu hanghenion. Mae’n deall, os yw ei negeseuon am effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn mynd i fod yn ddefnyddiol ac yn ddifyr – fel rhan o hyfforddiant sgiliau rhifedd sylfaenol – mae’n rhaid iddo fod yn seiliedig ar ddiddordebau ac anghenion ei darpar hyfforddeion.

Pa agweddau ar Infuse oedd fwyaf defnyddiol wrth fynd i’r afael â’r her?

Yr agweddau ar Infuse a oedd yn fwyaf defnyddiol oedd y rhai a anogodd y tîm i arafu, gan ystyried eu mater yn ei gyd-destun a meddwl yn ddwys, yn hytrach na neidio at atebion adweithiol. Roedd defnydd cryf o ddamcaniaethau a straeon gweithredu data yn y grŵp hwn, er enghraifft. Roedd gweld y darlun ehangach hefyd yn golygu y gallent rannu’r her enfawr yn gamau hylaw.

Teimlai Rhian y gallai ei thîm sy’n gweithio mewn tai yn y sector preifat chwarae rhan fwy wrth annog ôl-osod ymhlith landlordiaid a pherchnogion tai. Ysgrifennodd y Stori Gweithredu Data ganlynol:

“Petaem ond yn gwybod y bylchau gwybodaeth a sgiliau o fewn staff Tai Sector preifat

Gallem fuddsoddi, hyfforddi, a datblygu’r gweithlu yn y meysydd cywir

Fel y gallant hysbysu, cynghori ac annog ôl-osod a datgarboneiddio o fewn y farchnad Tai Sector Preifat”

avatar

Rhian Lloyd Evans-Mclean

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Fe wnaeth ysgrifennu stori gweithredu data glir helpu Rhian i barhau i ganolbwyntio ar y canlyniadau roedd hi’n chwilio amdanynt. Gwnaeth ei thybiaeth hefyd – mai bwlch sgiliau oedd ar fai – yn amlwg, fel y gallai feddwl am resymau posibl eraill megis hygyrchedd ac argaeledd cyrsiau.

Beth oedd y prif wersi o gydweithio?

Er nad oedd gan y grŵp hwn un arbrawf yr oeddent yn gweithio arno gyda’i gilydd, dim ond themâu cyffredin, roedd cydweithio yn allweddol i’w llwyddiant. Yn hytrach, gwnaethant strwythuro eu hunain o amgylch ‘cydweithio yn eu dysgu’. Roedd y grŵp hwn yn annibynnol yn y modd y bu iddynt strwythuro a rheoli eu cydweithrediad, gan sefydlu eu grŵp eu hunain a phenderfynu ar rythm priodol o gyfarfodydd. Maent hefyd yn gosod targedau iddynt eu hunain ar gyfer yr hyn yr oeddent am ei gyflawni gyda’i gilydd. Sefydlodd y Alun a Heather y grŵp yn annibynnol gan ddymuno cadw’r sgyrsiau yr oeddent yn eu cael yn sesiynau Infuse i fynd yn eu hamser eu hunain yn ogystal ag ymarfer defnyddio offer Infuse. Roedd yr hunan-gymhelliant hwn yn golygu bod y cydweithio yn gweithio iddynt yn eu harbrofion ac yn cadarnhau’r hyn yr oeddynt yn dysgu.

Roeddent hefyd yn awyddus i estyn allan a helpu ei gilydd. Roedd gan rai fwy o wybodaeth am ddatgarboneiddio nag eraill. Roedd gan eraill fwy o brofiad mewn sgiliau a hyfforddiant. Rhoddodd fforwm y cyfarfodydd cydweithio gyfle i’r grŵp rannu eu gwybodaeth a gwneud awgrymiadau defnyddiol. Y tu hwnt i hyn, gall arloesi fod yn broses anodd a llawn straen. Roedd y grŵp hefyd yn cefnogi ei gilydd pan oeddent yn wynebu rhwystrau, gyda syniadau i symud pethau ymlaen neu ddim ond gair caredig.

Mae Caroline yn adleisio’r syniad hwn o gydweithrediad dysgu:

“Mae fy nealltwriaeth o’r pwnc datgarboneiddio wedi datblygu wrth i’r prosiect ddatblygu. Mae hyn yn sgil sgiliau a chymorth a gwybodaeth sawl aelod o’r grŵp prosiect. Maent wedi rhannu’r wybodaeth hon ac wedi fy nghefnogi i ddysgu mwy am ddatgarboneiddio, er mwyn i mi allu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch ble mae’r prosiect yn mynd (gan gynnwys cynnwys yr hyfforddiant arfaethedig).”

avatar

Caroline Millington

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Canfyddiadau allweddol

Gan fod y grŵp hwn yn gweithio ar arbrofion ar wahân, roedd gan bob un ganfyddiadau gwahanol, ond roedd gan Heather ganfyddiad sy’n adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd ar draws y grŵp. Ysgrifennodd am ei synnwyr cynyddol y dylid meddwl am sgiliau gwyrdd mewn ffordd gynhwysol a chyfannol, nid fel sgiliau technegol yn unig. Adlewyrchir hyn yng nghyfansoddiad y grŵp, gan gwmpasu sgiliau technegol iawn sy’n ymwneud ag adeiladu ôl-osod drwodd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn fwy cyffredinol.

“Drwy’r ymchwil yr wyf wedi’i wneud a sgyrsiau gyda rhanddeiliaid mewnol, mae fy nealltwriaeth o’r hyn y gall ac y dylid ei ystyried fel sgil gwyrdd wedi datblygu i fod yn fwy cynhwysol ac yn canolbwyntio ar olwg gyfannol ar y sefydliad a’r holl rannau sy’n rhan ohono.”

avatar

Heather Richardson

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Camau nesaf

Mae’r grŵp wedi trefnu cyfarfodydd ar gyfer gweddill y flwyddyn. Maent wedi gwerthfawrogi cael lle i siarad am bethau maen nhw’n eu hwynebu yn y gwaith ac eisiau cadw hynny i fynd. Er bod eu harbrofion wedi bod yn wahanol, maent wedi defnyddio cydweithredu fel ffordd o wirio ag eraill a ydynt yn cymhwyso offer a dulliau Infuse yn gywir. Wrth i’r arbrofion symud allan o gyfnod eginol mae Alun yn rhagweld y byddan nhw’n siarad mwy amdanyn nhw wrth iddyn nhw ddod yn gyn-fyfyrwyr Infuse.

“Mae aelodau’r grŵp wedi dweud ‘Rwy’n galw’r person hwn neu’r person hwnnw bob dydd.’ Cael y person hwnnw yno i drafod pethau ag ef, cael rhywun i drafod syniadau – mae’n anodd roi gwerth ar hynny. Nid oedd cael yr hyder i estyn allan at swyddogion o wahanol awdurdodau, a theimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny, yn rhywbeth yr wyf yn meddwl bod llawer ohonom wedi meddu arno ar ddechrau’r rhaglen. Mae bellach yn ymwneud â defnyddio’r hyder hwnnw i ehangu ein rhwydweithiau y tu hwnt i’r grŵp, i gael safbwyntiau a syniadau gwahanol gan bobl.”

avatar

Alyn Jones

Cyngor Sir Fynwy

Mae’r gwersi o’r rhaglen, ynghyd ag offer a dulliau allweddol, i’w gweld yn y Llawlyfr Infuse.

infuse logos