Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar barth www.monmouthshire.gov.uk. Nid yw’n berthnasol i gynnwys sydd ar is-barthau, mae cysylltidau i ddatganiadau hygyrchedd ar gyfer yr is-barthau wedi’u nodi ledled y dudalen we hon.
Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan adran Gyfathrebu Cyngor Sir Fynwy. Fe’i cynlluniwyd i’w ddefnyddio gan gynifer o bobl â phosibl. Dylai’r testun fod yn glir ac yn syml i’w ddeall. Dylech allu:
- chwyddo hyd at 300% heb broblem
- welywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- welywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- defnyddio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
- Gellir golygu maint/bylchau testun gan ddefnyddio’ch porwr ond mae gosodiadau hygyrchedd pellach ar gael ar y dudalen hon.
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Nid yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:
- nid yw rhai tudalennau ac atodiadau dogfennau wedi’u hysgrifennu’n glir
- nid oes gan rai tablau benawdau rhes
- mae gan rai tudalennau gyferbyniad lliw gwael
- nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson
- nid oes gan rai delweddau destun amgen da
- nid yw rhai botymau wedi’u nodi’n gywir
- nid yw rhai negeseuon gwallau wedi’u cysylltu’n glir â rheolyddion ffurflen
- mae llawer o ddogfennau ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch
Sut i ofyn am gynnwys mewn fformat hygyrch
Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni a nodwch:
- cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
- eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
- y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft, CD sain, braille, Iaith Arwyddion Prydain neu brint bras, PDF hygyrch
Adroddwch am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau ar gael, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Mae’r cynnwys hwn yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd.
Baich anghymesur
Mae’r cynnwys hwn yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF ac eraill
Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i’n gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word.
Nid yw llawer o ddogfennau yn hygyrch mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys colli dewisiadau testun amgen a strwythur dogfennau coll.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn eu gwneud yn ofynnol i ni unioni dogfennau PDF neu eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol er mwyn i ni ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Sut y gwnaethom brofi’r wefan hon
Profwyd y wefan hon, ac mae’n cael ei brofi ar hyn o bryd, i gydymffurfio â lefel A a lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, ac mae’r profion hyn wedi’u cynnal yn fewnol.
Defnyddiwyd teclyn Hygyrchedd Silktide i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi.
Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn bwriadu nodi a thrwsio unrhyw faterion pellach dros y misoedd nesaf.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 18fed Medi, 2020. Fe’i hadolygwyd diwethaf ar 18fed Medi 2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 17eg Medi. Cynhaliwyd y prawf gan Gyngor Sir Fynwy gan ddefnyddio teclyn profi Silktide.