21-28 Hydref 2026
Mae llyfrgelloedd yn fwy na lleoedd i fenthyca llyfrau. Maent yn ofodau cymunedol dibynadwy lle gall pobl ddysgu, cysylltu a chymryd camau cadarnhaol. Yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd 2026 rydym yn dathlu rôl bwysig llyfrgelloedd mewn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r amgylchedd, cynaliadwyedd a chymunedau gwyrddach.
Digwyddiadau a gweithgareddau
Cynhelir digwyddiadau ym mhob rhan o Sir Fynwy, dyma rai o’r uchafbwyntiau:
Llyfrgell Cil-y-coed: 26 Hydref 10.30 – 11.30 Bore Coffi Buzz & Bloom
Llyfrgell Cas-gwent: 26 Hydref 10 – 12 Crefft Sbwriel ar gyfer plant
Llyfrgell Gilwern: 27 Hydref 10 -12Caffe Trwsio y Fenni a Benthyg y Fenni – beth maent yn ei gynnig?
Llyfrgell Trefynwy: 24 Hydref 10 – 12.30. Hydref yn y Llyfrgell gyda ACE Trefynwy. Gweithgareddau crefft am ddim yn seiliedig ar y byd o’n cwmpas.
Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau eraill a gynhelir yn ystod yr Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd.
Mae Ffeithiau Hinsawdd yn Bwysig
Mae thema eleni, Ffeithiau Hinsawdd ar gyfer Dyfodol Gwyrddach, yn annog pobl o bob oed i ymchwilio gwybodaeth ddibynadwy am newid hinsawdd, darganfod ffyrdd ymarferol i fyw mewn modd mwy cynaliadwy a chymryd camau gweithredu cadarnhaol yn eu cymunedau lleol.
Ewch i’ch llyfrgell leol i fenthyca llyfrau am yr amgylchedd, ymchwilio adnoddau ar-lein dibynadwy neu ddefnyddio ein Wi-Fi am ddim i ymchwilio materion hinsawdd a gwahaniaethu ffaith o ffuglen.
Ydych chi’n edrych am wybodaeth ddibynadwy? Ymchwiliwch yr adnoddau defnyddiol yma:
- 5 Peth y Dylech eu Gwybod: Dilyn y gyfres Gweithredu Hinsawdd.
- Ymgyrch Mae Ffeithiau Hinsawdd yn Bwysig: Ateb camwybodaeth am yr hinsawdd ar draws yr Undeb Ewropeaidd.
- Chwalu Chwedlau: Y ffeithiau am hinsawdd ac ynni.
- Canllaw Llyfrgell Camwybodaeth am yr Hinsawdd.
- Hyb Eglurdeb Hinsawdd: Casgliad o arbenigedd ac adnoddau ar gamwybodaeth ar yr hinsawdd.
- Llawlyfr Digidol Mae Ffeithiau Hinsawdd yn Bwysig: Dysgwch sut i adnabod a herio camwybodaeth am yr hinsawdd.
Dathlu Gofodau Gwyrdd Llyfrgelloedd Sir Fynwy
Yn Llyfrgelloedd Cas-gwent, Brynbuga a Chil-y-coed, mae ein gofodau gwyrdd yn helpu i ddod â phobl ynghyd, cefnogi bywyd gwyllt, gwella llesiant ac annog dysgu am y byd naturiol.
Er fod pob gofod wedi datblygu yn ei ffordd unigryw ei hun, mae ganddynt un peth yn gyffredin: ymroddiad gwirfoddolwyr lleol. Mae eu brwdfrydedd, creadigrwydd a gwaith caled wedi trawsnewid ardaloedd awyr agored yn asedau cymunedol bywiog o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Gardd Ddarllen Cas-gwent
Wedi ei chreu yn 2011-12 fel rhan o brosiect adnewyddu’r llyfrgell a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, daeth Gardd Ddarllen Cas-gwent yn ofod cymunedol y mae’r gymuned leol yn hoff iawn ohono.
Mae’r ardd yn llwyddiannus oherwydd ymroddiad Cyfeillion Gardd Ddarllen Cas-gwent, gyda’u gwirfoddolwyr wedi treulio blynyddoedd yn meithrin a datblygu’r gofod i fod yr werddon hardd y mae heddiw.
Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn yr ardd drwy gydol y flwyddyn. Yn 2026, croesawodd ddigwyddiad Cofio Srenbrenica cyntaf y llyfrgell, gan roi lleoliad ystyrlon ar gyfer myfyrio ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae’r ardd hefyd yn encil heddychlon ar gyfer unrhyw unsy’n dymuno mwynhau bwyta eu cinio yn yr awyr agored, darllen llyfr yn yr awyr iach neu ddim ond cymryd moment dawel ymaith o brysurdeb bywyd bob dydd.
Gardd Gymunedol Brynbuga
Dechreuodd Prosiect Gardd Brynbuga yn 2023 yn dilyn lansio cynllun grant cymunedol gan Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy. Fe wnaeth cyllid alluogi gosod gwelyau tyfu uchel, bwa croeso, silffoedd pantri, adran hadau, cyfleusterau compostio ac offer garddio hanfodol.
Diolch yn arbennig i’r gwirfoddolwr John Prince, y gwnaeth ei grefft fel saer greu’r gwelyau uchel hardd sy’n ffurfio calon yr ardd. Cafwyd cymorth ychwanegol gan HMP Brynbuga, a gyfrannodd feinciau, gan roi lle i ymwelwyr ymlacio a mwynhau’r ardd.
Mae’r prosiect yn rhan o gynllun Please Eat the Garden (PEG), sy’n helpu pobl i ddysgu am dyfu bwyd a garddio cynaliadwy. Mae’r prif safle yn Llyfrgell Brynbuga, a gefnogir gan ail safle yn Neuadd lle caiff planhigion eu tyfu mewn tai gwydr cyn cael eu rhannu gyda’r prosiect ehangach .
Ar agor i bawb, mae’r ardd yn rhoi cyfleoedd i dyfu, meithrin a dysgu. Caiff ffrwythau’r cydweithio wedyn eu rhannu er budd yr holl gymuned.
Buzz & Bloom yn Llyfrgell Cil-y-coed
Prosiect Buzz & Bloom yn Llyfrgell Cil-y-coed yw’n stori llwyddiant gwyrdd diweddaraf.
Mae’r cynllun cymunedol hwn wedi trawsnewid gwelyau blodau a thybiau plannu y llyfrgell yn ofodau llawn lliw a bywyd, cyfeillgar i fywyd gwyllt, Drwy greu cynefinoedd a ffynonellau bwyd gwerthfawr ar gyfer gwenyn, pili pala a pheillwyr eraill, mae’r prosiect yn helpu i hybu bioamrywiaeth lleol a gwneud safle’r llyfrgell yn fwy croesawgar i ymwelwyr .
Cafwyd carreg filltir bwysig pan wnaeth Cyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed sicrhau Pecyn Gardd Bywyd Gwyllt Fach gan Cadwch Gymru’n Daclus. Roedd y pecyn yn cynnwys blodau gwyllt, lafant, planhigion dringo cynhenid, compost di-fawn, pridd uchaf, offer a blychau cynefin bywyd gwyllt, gan roi popeth oedd ei angen i ddod â’r prosiect yn fyw.
Cafwyd canlyniadau yn syth a maent yn ysbrydoli. Drwy gydol yr haf, roedd ymwelwyr yn canmol yr arddangosiadau lliwgar a’r gwelliant yn yr amgylchedd. Dathlwyd llwyddiant Buzz & Bloom gyda digwyddiad cymunedol arbennig yn cynnwys dadorchuddio’r Gornel Farddoniaeth newydd, gyda chynigion buddugol y gystadleuaeth farddoniaeth a pherfformiadau gan Gantorion Cas-gwent.
O erddi darllen heddychlon a phrosiectau tyfu bwyd cymunedol i gynlluniau plannu cyfeillgar i fywyd gwyllt, mae Llyfrgelloedd Sir Fynwy yn dangos sut y gall gofodau gwyrdd gyfoethogi cymunedau lleol.
Mae’r prosiectau hyn yn gwneud mwy na harddu ein llyfrgelloedd. Maent yn cefnogi dysgu, gwella llesiant, annog bioamrywiaeth a chreu cyfleoedd i bobl gysylltu gyda natur a’i gilydd.
Wrth i ni ddathlu Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd 2026, hoffem ddiolch i’r holl wirfoddolwyr, partneriaid ac aelodau’r gymuned sy’n parhau i helpu ein gofodau gwyrdd i ffynnu.
Pam na ddewch draw i un o’n llyfrgelloedd a gweld y gwahaniaeth drosoch eich hun?





