Mae Llyfrgelloedd Sir Fynwy wedi lansio’r fenter “Noddi Llyfr” i wella ymgysylltiad cymunedol. Gall trigolion nawr noddi llyfrau yn llyfrgelloedd Sir Fynwy trwy ein partneriaeth â Chyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed.
Mae’r cynllun newydd yn caniatáu i bobl leol gyfrannu’n uniongyrchol at eu llyfrgell trwy noddi teitlau newydd, gan sicrhau bod y silffoedd yn parhau i fod yn llawn ac wedi’u stocio’n dda i holl aelodau’r gymuned.



Mae amrywiaeth o lyfrau wedi’u prynu trwy’r cynllun Noddi Llyfr yn Llyfrgell Cil-y-coed.
Gall noddwyr sydd â diddordeb gymryd rhan trwy lawrlwytho’r ffurflen isod a’i chyflwyno ynghyd â thaliad arian parod neu siec wedi’i gwneud allan i Gyfeillion Llyfrgell Cil-y-coed yn eich llyfrgell leol yn Sir Fynwy. Bydd eich cyfraniadau’n cefnogi prynu llyfrau ar gyfer ein llyfrgelloedd yn uniongyrchol, er budd oedolion a phlant.
Noder, er y byddwn yn ymdrechu i osod llyfrau newydd mewn llyfrgelloedd lleol, nad oes unrhyw warant y bydd rhoddion yn cael eu dyrannu i gangen arferol y rhoddwr.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae’r fenter hon yn caniatáu i’r Llyfrgelloedd yn Sir Fynwy ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. Diolch i bawb sydd eisoes wedi noddi llyfr a’r rhai a fydd yn ei noddi yn y dyfodol.
“Mae ein cydweithrediad â grwpiau cymunedol lleol, fel Cyfeillion Llyfrgell Cil-y-Coed, yn dangos sut, fel Cyngor, yr ydym am weithio gyda’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Diolchaf iddynt am eu hymroddiad i hyrwyddo’r gwasanaethau a helpu gyda’r cynllun anhygoel hwn.”
I nodi’r fenter arwyddocaol hon, mynychodd aelodau’r gymuned a chynrychiolwyr etholedig lleol ddigwyddiad arbennig ddydd Llun, 18 Tachwedd, lle dathlwyd llwyddiant yr ymgyrch “Noddi Llyfr” a thynnu sylw at bwysigrwydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn Sir Fynwy.
Lawrlwythwch ffurflen Noddi llyfr YMA
