Skip to Main Content

Mae gan bob Hyb Cymunedol:

• Lyfrau print bras
• Llyfrau ar CD (dim tâl i rai dall neu rannol ddall)
• Cyfleusterau cyfrifiadur hygyrch: sgriniau mawr a bysellfwrdd bras

Mae Darllenydd Aladdin yn Hyb Cymunedol Trefynwy i gwsmeriaid sydd angen gwneud y testun mewn llyfrau neu ddogfennau yn fwy.

Ar gyfer cwsmeriaid â nam ar eu golwg nad ydyn nhw’n gallu mynd i lyfrgell, mae gennym Wasanaeth Dosbarthu i’r Cartref a all ddosbarthu llyfrau print bras a/neu lyfrau sain. Cysylltwch â’n Swyddog Allestyn yn Hyb Cymunedol Cil-y-coed.

Efallai y byddai gennych ddiddordeb yn y canlynol hefyd:

Y Sefydliad Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) yw un o’r prif elusennau yn y Deyrnas Unedig i bobl sy’n colli eu golwg a’r gymuned fwyaf o bobl ddall a rhannol ddall. Mae’r RNIB yn cydnabod profiad unigryw pawb o golli golwg ac yn cynnig help a chefnogaeth i bobl ddall a rhannol ddall – gall hyn fod yn rhywbeth o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol, ymgyrchu dros newid a gwasanaethau darllen.

Llyfrgell yr RNIB yw’r mwyaf o’i fath yn Ewrop, ac mae am ddim gyda dros 60,000 o eitemau yn y casgliad. Y wefan hon yw eich porth i’r casgliad cyfan mewn un lle: Sain, Braille, Print Bras Iawn a Cherddoriaeth.

Mae Calibre Audio yn elusen genedlaethol sy’n benthyca llyfrau sain am ddim i unrhyw un ag anabledd print. Anabledd print yw anhawster neu anallu i ddarllen deunydd printiedig pan fydd rhywun yn methu gweld, darllen, defnyddio neu ddeall y testun. Gall hyn gynnwys:

• Anabledd dysgu fel dyslecsia;
• Anaf i’r ymennydd neu nam gwybyddol fel trawma i’r pen neu strôc;
• Nam ar y golwg neu ddallineb;
• Problem o ran gallu corfforol fel sglerosis ymledol (MS), Afiechyd Motor Niwron (MND), Afiechyd Parkinson, arthritis, parlys neu salwch angheuol