Skip to Main Content

Ydych chi’n byw yn Sir Fynwy?

A ydych chi’n ei chael hi’n anodd defnyddio neu deithio i’ch llyfrgell leol oherwydd oedran, salwch, anabledd neu ymrwymiadau gofal? Rhowch wybod i ni oherwydd efallai y byddwn yn gallu darparu’r gwasanaeth llyfrgell yn uniongyrchol i’ch cartref drwy ein Gwasanaeth Cludo i’r Cartref.
Gall eich amgylchiadau olygu yr hoffech ddefnyddio’r Gwasanaeth Cludo i’r Cartref dros dro. Cysylltwch â ni i drafod.


Beth yw’r Gwasanaeth Cludo i’r Cartref?

Mae’r Gwasanaeth Cludo i’r Cartref wedi’i leoli yn Llyfrgell Cil-y-coed, ond mae’r gwasanaeth ar gael ledled Sir Fynwy.
Bydd ein Swyddog Allgymorth yn ymweld â chi i siarad am ba lyfrau yr hoffech eu cael, faint yr hoffech chi, a pha fformat sydd ei angen arnoch. Gallwn ddosbarthu llyfrau clawr caled a meddal, llyfrau print bras a llyfrau llafar.
Bydd y Swyddog Allgymorth yn dewis ac yn dosbarthu llyfrau i chi gartref. Ein nod yw danfon y llyfrau unwaith y mis a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn yn dod ymlaen llaw.