Skip to Main Content

🤫📚 Yn galw pawb mewnblyg, llyfrbryfed a throwyr tudalennau proffesiynol! Mae’r Clwb Llyfrau Tawel yn dod I Gil-y-coed a Threfynwy.

Ydych chi erioed wedi dymuno ymlacio gyda llyfr da, diod dwym ac ystafell lawn o gyd-ddarllenwyr … heb orfod siarad am themâu penodau neu gymhellion cymeriadau.

Croeso i’r Clwb Llyfrau Tawel!

Dewch â beth bynnag rydych ar ganol ei ddarllen gyda chi, sicrhau sedd gysurus a mwynhau amser darllen hollol hamddenol. Byddwn yn dechrau gyda helo cyflym, setlo i ychydig o ddarllen tawel godidog, yna orffen gyda sgwrs gyfeillgar cyn mynd gartref.

Clwb Llyfrau Tawel yn Llyfrgell Trefynwy

📖 Llyfrgell Trefynwy

🗓 Boreau Mercher am 11.00 am i 12.30 pm

📅 Dyddiadau nesaf: 4 Tachwedd a 9 Rhagfyr

E-bost: MonmouthHub@monmouthshire.gov.uk

Clwb Llyfrau Tawel & Llyfrgell Cil-y-coed

📖 Castell Coffi, Cil-y-coed

🗓 Trydydd dydd Iau y mis am 2.30 pm i 4.00 pm

📅 Dyddiadau nesaf: 9 Tachwedd a 17 Rhagfyr

E-bost: CaldicotHub@monmouthshire.gov.uk

✨P’un ai ydych ar ganol llyfr ditectif, eich bryd ar farddoniaeth, neu’n dal ar dudalen 12 y nofel y gwnaethoch ei dechrau chwe mis yn ôl, mae croeso mawr i chi!

💛Dim llyfrau gosod. Dim amserlenni darllen. Dim pwysau. Dim ond llyfrau, dishgled a chwmni da.